Fferm Cwm Coryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif fferm Cwm Coryn (SH 406 454) yn agos i'r ffordd gul sy'n cysylltu pentref Llanaelhaearn a ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon â nifer o ffermydd sydd ar...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Saif fferm Cwm Coryn (SH 406 454) yn agos i'r ffordd gul sy'n cysylltu pentref Llanaelhaearn a ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon â nifer o ffermydd sydd ar lethrau Moel Penllechog, Gurn Ddu a Moel Bronmiod. Gerllaw iddi mae hen gapel Cwm Coryn, a gaeodd fel lle o addoliad oddeutu diwedd y 1980au.  
Saif fferm '''Cwm Coryn''' (SH 406 454) yn agos i'r ffordd gul sy'n cysylltu pentref [[Llanaelhaearn]] a ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon â nifer o ffermydd sydd ar lethrau [[Moel Penllechog]], [[Gurn Ddu]] a [[Moel Bronmiod]]. Gerllaw iddi mae hen [[Capel Cwm Coryn (MC)|gapel Cwm Coryn]], a gaeodd fel lle o addoliad oddeutu diwedd y 1980au.  


Ar y llethrau hyn gwelir llawer o olion hen ffermydd sy'n mynd yn ôl i'r cyfnod cynhanesyddol diweddar (tua 500 CC) ac y parhawyd i'w defnyddio mewn rhai achosion tan oddeutu canol y mileniwm cyntaf (tua 500 OC). Ar y safleoedd hyn gwelir fel rheol olion tri neu bedwar o adeiladau crwn wedi'u codi o fewn iard a chyda muriau amddiffynnol crymion neu sythion o amgylch yr ierdydd i'w hamddiffyn. Gerllaw'r olion hyn gwelir sawl enghraifft o hen systemau caeau a oedd wedi eu rhannu'n lleiniau gweddol gul. Er bod y ffermydd hyn ar dir gweddol uchel, eto mae ansawdd y pridd yn weddol dda yno, sy'n tystio i'r defnydd a wnaed o'r tir ar hyd y canrifoedd hyd y presennol. Gwelir y parhad hwn mewn amaethu yn neilltuol dda yn fferm Cwm Coryn. Yn y caeau o amgylch y fferm ceir gweddillion cytiau crynion a godwyd mae'n debygol yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar/Rhufeinig. Dros y rhain codwyd adeiladau hirsgwar diweddarach yn yr oesoedd canol. Ychydig tu hwnt i iard y fferm ceir adfeilion adeilad amaethyddol carreg, a godwyd ym 1663. Roedd hwn bron yn sicr yn ychwanegiad i neuadd bren o'r oesoedd canol diweddar, a ddisodlwyd gan dŷ carreg ym 1723. Mae'n ymddangos i'r ffermdy ar ochr arall yr iard gael ei adeiladu ddechrau'r 20g.<sup>[1]</sup>  
Ar y llethrau hyn gwelir llawer o olion hen ffermydd sy'n mynd yn ôl i'r cyfnod cynhanesyddol diweddar (tua 500 CC) ac y parhawyd i'w defnyddio mewn rhai achosion tan oddeutu canol y mileniwm cyntaf (tua 500 OC). Ar y safleoedd hyn gwelir fel rheol olion tri neu bedwar o adeiladau crwn wedi'u codi o fewn iard a chyda muriau amddiffynnol crymion neu sythion o amgylch yr ierdydd i'w hamddiffyn. Gerllaw'r olion hyn gwelir sawl enghraifft o hen systemau caeau a oedd wedi eu rhannu'n lleiniau gweddol gul. Er bod y ffermydd hyn ar dir gweddol uchel, eto mae ansawdd y pridd yn weddol dda yno, sy'n tystio i'r defnydd a wnaed o'r tir ar hyd y canrifoedd hyd y presennol. Gwelir y parhad hwn mewn amaethu yn neilltuol dda yn fferm Cwm Coryn. Yn y caeau o amgylch y fferm ceir gweddillion cytiau crynion a godwyd mae'n debygol yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar/Rhufeinig. Dros y rhain codwyd adeiladau hirsgwar diweddarach yn yr oesoedd canol. Ychydig tu hwnt i iard y fferm ceir adfeilion adeilad amaethyddol carreg, a godwyd ym 1663. Roedd hwn bron yn sicr yn ychwanegiad i neuadd bren o'r oesoedd canol diweddar, a ddisodlwyd gan dŷ carreg ym 1723. Mae'n ymddangos i'r ffermdy ar ochr arall yr iard gael ei adeiladu ddechrau'r 20g.<ref>Richard Haslam, Julian Orbach and Adam Voelcker, ''The Buildings of Wales: Gwynedd'', (Yale University Press, 2009), tt. 386-7.</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. Richard Haslam, Julian Orbach and Adam Voelcker, ''The Buildings of Wales: Gwynedd'', (Yale University Press, 2009), tt. 386-7.
[[Categori:Ffermydd]]
[[Categori:Archeoleg]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:17, 29 Mehefin 2023

Saif fferm Cwm Coryn (SH 406 454) yn agos i'r ffordd gul sy'n cysylltu pentref Llanaelhaearn a ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon â nifer o ffermydd sydd ar lethrau Moel Penllechog, Gurn Ddu a Moel Bronmiod. Gerllaw iddi mae hen gapel Cwm Coryn, a gaeodd fel lle o addoliad oddeutu diwedd y 1980au.

Ar y llethrau hyn gwelir llawer o olion hen ffermydd sy'n mynd yn ôl i'r cyfnod cynhanesyddol diweddar (tua 500 CC) ac y parhawyd i'w defnyddio mewn rhai achosion tan oddeutu canol y mileniwm cyntaf (tua 500 OC). Ar y safleoedd hyn gwelir fel rheol olion tri neu bedwar o adeiladau crwn wedi'u codi o fewn iard a chyda muriau amddiffynnol crymion neu sythion o amgylch yr ierdydd i'w hamddiffyn. Gerllaw'r olion hyn gwelir sawl enghraifft o hen systemau caeau a oedd wedi eu rhannu'n lleiniau gweddol gul. Er bod y ffermydd hyn ar dir gweddol uchel, eto mae ansawdd y pridd yn weddol dda yno, sy'n tystio i'r defnydd a wnaed o'r tir ar hyd y canrifoedd hyd y presennol. Gwelir y parhad hwn mewn amaethu yn neilltuol dda yn fferm Cwm Coryn. Yn y caeau o amgylch y fferm ceir gweddillion cytiau crynion a godwyd mae'n debygol yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar/Rhufeinig. Dros y rhain codwyd adeiladau hirsgwar diweddarach yn yr oesoedd canol. Ychydig tu hwnt i iard y fferm ceir adfeilion adeilad amaethyddol carreg, a godwyd ym 1663. Roedd hwn bron yn sicr yn ychwanegiad i neuadd bren o'r oesoedd canol diweddar, a ddisodlwyd gan dŷ carreg ym 1723. Mae'n ymddangos i'r ffermdy ar ochr arall yr iard gael ei adeiladu ddechrau'r 20g.[1]

Cyfeiriadau

  1. Richard Haslam, Julian Orbach and Adam Voelcker, The Buildings of Wales: Gwynedd, (Yale University Press, 2009), tt. 386-7.