Coedcaedu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 2 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Fferm ar gyrion pentref Llanllyfni yw '''Coedcaedu''' (neu '''Coed Cae Du''').
Fferm ar gyrion pentref [[Llanllyfni]] yw '''Coedcaedu''' (neu '''Coed Cae Du'''). Ar lafar gwlad, fe'i gelwir yn "Coecia".


Mae'r fferm i'r gorllewin o'r pentref gyda'r tir yn ffinio â thir fferm Dôl-Gau. Rhannwyd y tir gan lwybr y rheilffordd o Gaernarfon i Afon-wen (Lôn Eifion bellach) ac mae Afon Crychddwr yn llifo'n agos at y ffermdy ac yn darparu cyflenwad o ddŵr i'r fferm. Mae'r ffermdy yn adeilad rhestredig Graddfa II ac fe'i hadeiladwyd yn niwedd y 18g neu ddechrau'r 19g. Mae'n ymddangos ar Fap Degwm 1840. Mae'n adeilad deulawr ar gynllun dwy ystafell gyda choridor yn rhedeg rhyngddynt i'r chwith o'r canol. Cafodd ei ddynodi'n dŷ rhestredig am ei fod yn enghraifft dda o ffermdy o'r cyfnod hwnnw nad yw wedi cael ei newid rhyw lawer. Fe'i hadeiladwyd yn yr arddull bensaernïol frodorol leol ac mae'n nodweddiadol o'r math hwnnw o adeilad.<ref>Gweler gwefannau ''British Listed Buildings'' a ''Coflein''; cyrchwyd y ddwy wefan 23/03/2023.</ref>  
Mae'r fferm i'r gorllewin o'r pentref gyda'r tir yn ffinio â thir fferm Dôl-Gau. Rhannwyd y tir gan lwybr y rheilffordd o Gaernarfon i Afon-wen ([[Lôn Eifion]] bellach) ac mae [[Afon Crychddwr]] yn llifo'n agos at y ffermdy ac yn darparu cyflenwad o ddŵr i'r fferm. Mae'r ffermdy yn adeilad rhestredig Graddfa II ac fe'i hadeiladwyd yn niwedd y 18g neu ddechrau'r 19g. Mae'n ymddangos ar Fap Degwm 1840. Mae'n adeilad deulawr ar gynllun dwy ystafell gyda choridor yn rhedeg rhyngddynt i'r chwith o'r canol. Cafodd ei ddynodi'n dŷ rhestredig am ei fod yn enghraifft dda o ffermdy o'r cyfnod hwnnw nad yw wedi cael ei newid rhyw lawer. Fe'i hadeiladwyd yn yr arddull bensaernïol frodorol leol ac mae'n nodweddiadol o'r math hwnnw o adeilad.<ref>Gweler gwefannau ''British Listed Buildings'' a ''Coflein''; cyrchwyd y ddwy wefan 23/03/2023.</ref>


Ni ddylid cymysgu rhwng Coed Cae Du Llanllyfni â fferm Coed Cae Du (Coicia Du ar lafar) sydd yn rhan uchaf plwyf Llangybi ar gwr y Lôn Goed. Er fod y fferm honno tu allan i ffiniau Uwchgwyrfai, mae rhai cysylltiadau rhyngddi â'r cwmwd. Yno y magwyd y pregethwr Methodistaidd nodedig, Richard Jones (1772?-1833). Fe symudodd ef a'i deulu i fyw'n ddiweddarach i [[Llwyn Impia]], ger [[Pontlyfni]]'. Ni fuont yno ond am ychydig flynyddoedd (1816-1820) cyn symud i'r Wern, Llanfrothen, ac fel Richard Jones o'r Wern y daeth yn adnabyddus. Hefyd bu'r [[Parch. Robert Roberts]] (1762-1802), gweinidog [[Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr]], yn gweini am gyfnod yn Coed Cae Du pan oedd yn ddyn ifanc. Mae'n debygol mai yno yr oedd pan gafodd afiechyd enbyd, sef clefyd crydcymalau (''rheumatic fever'') mae'n fwy na thebyg, a'i gadawodd yn wael a llesg am weddill ei oes.  
Am gyfnod yn y 1860au roedd yna dafarn yng Nghoedcaedu wrth y clawdd anferth a godwyd ar gyfer [[Rheilffordd Sir Gaernarfon]], a hynny, meddid, er mwyn diwallu syched y labrwyr Gwyddelig a weithiodd i adeiladu’r lein - a dichon i'w cadw draw o dafarndai'r pentref! 
 
Ni ddylid cymysgu rhwng Coed Cae Du Llanllyfni â fferm Coed Cae Du (Coicia Du ar lafar) sydd yn rhan uchaf plwyf Llangybi ar gwr y Lôn Goed. Er fod y fferm honno tu allan i ffiniau Uwchgwyrfai, mae rhai cysylltiadau rhyngddi â'r cwmwd. Yno y magwyd y pregethwr Methodistaidd nodedig, Richard Jones (1772?-1833). Fe symudodd ef a'i deulu i fyw'n ddiweddarach i [[Llwyn Impia]], ger [[Pontlyfni]]'. Ni fuont yno ond am ychydig flynyddoedd (1816-1820) cyn symud i'r Wern, Llanfrothen, ac fel Richard Jones o'r Wern y daeth yn adnabyddus. Hefyd bu'r [[Robert Roberts, gweinidog Capel Uchaf|Parch. Robert Roberts]] (1762-1802), gweinidog [[Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr]], yn gweini am gyfnod yn Coed Cae Du pan oedd yn ddyn ifanc. Mae'n debygol mai yno yr oedd pan gafodd afiechyd enbyd, sef clefyd crydcymalau (''rheumatic fever'') mae'n fwy na thebyg, a'i gadawodd yn wael a llesg am weddill ei oes.  





Golygiad diweddaraf yn ôl 14:01, 7 Mehefin 2023

Fferm ar gyrion pentref Llanllyfni yw Coedcaedu (neu Coed Cae Du). Ar lafar gwlad, fe'i gelwir yn "Coecia".

Mae'r fferm i'r gorllewin o'r pentref gyda'r tir yn ffinio â thir fferm Dôl-Gau. Rhannwyd y tir gan lwybr y rheilffordd o Gaernarfon i Afon-wen (Lôn Eifion bellach) ac mae Afon Crychddwr yn llifo'n agos at y ffermdy ac yn darparu cyflenwad o ddŵr i'r fferm. Mae'r ffermdy yn adeilad rhestredig Graddfa II ac fe'i hadeiladwyd yn niwedd y 18g neu ddechrau'r 19g. Mae'n ymddangos ar Fap Degwm 1840. Mae'n adeilad deulawr ar gynllun dwy ystafell gyda choridor yn rhedeg rhyngddynt i'r chwith o'r canol. Cafodd ei ddynodi'n dŷ rhestredig am ei fod yn enghraifft dda o ffermdy o'r cyfnod hwnnw nad yw wedi cael ei newid rhyw lawer. Fe'i hadeiladwyd yn yr arddull bensaernïol frodorol leol ac mae'n nodweddiadol o'r math hwnnw o adeilad.[1]

Am gyfnod yn y 1860au roedd yna dafarn yng Nghoedcaedu wrth y clawdd anferth a godwyd ar gyfer Rheilffordd Sir Gaernarfon, a hynny, meddid, er mwyn diwallu syched y labrwyr Gwyddelig a weithiodd i adeiladu’r lein - a dichon i'w cadw draw o dafarndai'r pentref!

Ni ddylid cymysgu rhwng Coed Cae Du Llanllyfni â fferm Coed Cae Du (Coicia Du ar lafar) sydd yn rhan uchaf plwyf Llangybi ar gwr y Lôn Goed. Er fod y fferm honno tu allan i ffiniau Uwchgwyrfai, mae rhai cysylltiadau rhyngddi â'r cwmwd. Yno y magwyd y pregethwr Methodistaidd nodedig, Richard Jones (1772?-1833). Fe symudodd ef a'i deulu i fyw'n ddiweddarach i Llwyn Impia, ger Pontlyfni'. Ni fuont yno ond am ychydig flynyddoedd (1816-1820) cyn symud i'r Wern, Llanfrothen, ac fel Richard Jones o'r Wern y daeth yn adnabyddus. Hefyd bu'r Parch. Robert Roberts (1762-1802), gweinidog Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr, yn gweini am gyfnod yn Coed Cae Du pan oedd yn ddyn ifanc. Mae'n debygol mai yno yr oedd pan gafodd afiechyd enbyd, sef clefyd crydcymalau (rheumatic fever) mae'n fwy na thebyg, a'i gadawodd yn wael a llesg am weddill ei oes.


Cyfeiriadau

  1. Gweler gwefannau British Listed Buildings a Coflein; cyrchwyd y ddwy wefan 23/03/2023.