David Roberts, Blaenau Ffestiniog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd y Parch. David Roberts, Rhiw, Blaenau Ffestiniog (1835-1906). Ganed ef 23 Mawrth 1835 yn Traian, ardal Bry...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd y Parch. David Roberts, Rhiw, Blaenau Ffestiniog (1835-1906). | Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd y Parch. '''David Roberts''', Rhiw, Blaenau Ffestiniog (1835-1906). | ||
Ganed ef 23 Mawrth 1835 yn | Ganed ef 23 Mawrth 1835 yn Traean, fferm yn y [[Dolydd]], yn fab i Robert ac Ann Davies. Bu Traean yn lle amlwg yn hanes Methodistiaeth gynnar yr ardal yn y 18g. Roedd Ann Owen, hen nain i David Roberts, yn chwaer i hen lanciau'r Traean, Robert a John Hughes, a groesawodd rai o'r pregethwyr Methodistaidd cyntaf i ymweld â'r ardal. | ||
Cafodd David Roberts addysg gynnar yn ysgol eglwysig Y Bontnewydd, ac roedd rhai'n awyddus iddo fynd ymlaen i geisio urddau eglwysig yn yr Eglwys Wladol. Fodd bynnag, o'r ysgol yn Y Bontnewydd aeth i Gaernarfon i gael ei brentisio'n siopwr ond ni chymerodd at y gwaith hwnnw ac yn fuan ymunodd â'i dad fel chwarelwr yn Chwarel Dinorwig, Llanberis, gyda'r ddau'n lletya yno gydol yr wythnos. Yn fuan wedi iddo droi ei ugain oed aeth i Ysgol Eben Fardd yng Nghlynnog am ragor o addysg ac yn ystod y cyfnod hwnnw y dechreuodd bregethu. Wedi ysbaid yng Nghlynnog aeth i Goleg y Bala, lle bu am bedair blynedd, ac aeth drwy arholiad y ''London Matriculation'' yn llwyddiannus. Dichon y byddai wedi mynd ymlaen i ennill gradd oni bai i'w iechyd ddechrau dirywio. | Cafodd David Roberts addysg gynnar yn ysgol eglwysig [[Y Bontnewydd]], ac roedd rhai'n awyddus iddo fynd ymlaen i geisio urddau eglwysig yn yr Eglwys Wladol. Fodd bynnag, o'r ysgol yn Y Bontnewydd aeth i Gaernarfon i gael ei brentisio'n siopwr ond ni chymerodd at y gwaith hwnnw ac yn fuan ymunodd â'i dad fel chwarelwr yn Chwarel Dinorwig, Llanberis, gyda'r ddau'n lletya yno gydol yr wythnos. Yn fuan wedi iddo droi ei ugain oed aeth i [[Ysgol Eben Fardd]] yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] am ragor o addysg ac yn ystod y cyfnod hwnnw y dechreuodd bregethu. Wedi ysbaid yng Nghlynnog aeth i Goleg y Bala, lle bu am bedair blynedd, ac aeth drwy arholiad y ''London Matriculation'' yn llwyddiannus. Dichon y byddai wedi mynd ymlaen i ennill gradd oni bai i'w iechyd ddechrau dirywio. | ||
Fodd bynnag, derbyniodd alwad i fod yn weinidog ym Mhenmaenmawr, lle bu hyd 1868 pan symudodd i eglwys Y Rhiw, Blaenau Ffestiniog, eglwys fawr gyda dros bedwar cant o aelodau. Yn fuan wedi iddo symud yno credid ei fod yn dechrau dioddef o'r dicïau ac nad oedd hir oes iddo. Ond fe drodd at wella a bu'n weinidog uchel iawn ei barch ym Mlaenau Ffestiniog tan ei farwolaeth ddechrau 1906. | Fodd bynnag, derbyniodd alwad i fod yn weinidog ym Mhenmaenmawr, lle bu hyd 1868 pan symudodd i eglwys Y Rhiw, Blaenau Ffestiniog, eglwys fawr gyda dros bedwar cant o aelodau. Yn fuan wedi iddo symud yno credid ei fod yn dechrau dioddef o'r dicïau ac nad oedd hir oes iddo. Ond fe drodd at wella a bu'n weinidog uchel iawn ei barch ym Mlaenau Ffestiniog tan ei farwolaeth ddechrau 1906. | ||
Ym 1908 cyhoeddwyd cofiant iddo dan olygyddiaeth Y Parch. John Owen, gweinidog eglwys Bowydd yn y Blaenau. Yn y gyfrol ceir ysgrifau a cherddi coffa i David Roberts, ynghyd â detholiad o'i ysgrifau a'i bregethau.< | Ym 1908 cyhoeddwyd cofiant iddo dan olygyddiaeth Y Parch. John Owen, gweinidog eglwys Bowydd yn y Blaenau. Yn y gyfrol ceir ysgrifau a cherddi coffa i David Roberts, ynghyd â detholiad o'i ysgrifau a'i bregethau.<ref>''Cofiant a Gweithiau y Parch. David Roberts, Y Rhiw, Blaenau Ffestiniog'', dan olygyddiaeth y Parch John Owen M.A., Bowydd. (Dolgellau, 1908).</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Gweinidogion]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:34, 2 Mawrth 2023
Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd oedd y Parch. David Roberts, Rhiw, Blaenau Ffestiniog (1835-1906).
Ganed ef 23 Mawrth 1835 yn Traean, fferm yn y Dolydd, yn fab i Robert ac Ann Davies. Bu Traean yn lle amlwg yn hanes Methodistiaeth gynnar yr ardal yn y 18g. Roedd Ann Owen, hen nain i David Roberts, yn chwaer i hen lanciau'r Traean, Robert a John Hughes, a groesawodd rai o'r pregethwyr Methodistaidd cyntaf i ymweld â'r ardal.
Cafodd David Roberts addysg gynnar yn ysgol eglwysig Y Bontnewydd, ac roedd rhai'n awyddus iddo fynd ymlaen i geisio urddau eglwysig yn yr Eglwys Wladol. Fodd bynnag, o'r ysgol yn Y Bontnewydd aeth i Gaernarfon i gael ei brentisio'n siopwr ond ni chymerodd at y gwaith hwnnw ac yn fuan ymunodd â'i dad fel chwarelwr yn Chwarel Dinorwig, Llanberis, gyda'r ddau'n lletya yno gydol yr wythnos. Yn fuan wedi iddo droi ei ugain oed aeth i Ysgol Eben Fardd yng Nghlynnog am ragor o addysg ac yn ystod y cyfnod hwnnw y dechreuodd bregethu. Wedi ysbaid yng Nghlynnog aeth i Goleg y Bala, lle bu am bedair blynedd, ac aeth drwy arholiad y London Matriculation yn llwyddiannus. Dichon y byddai wedi mynd ymlaen i ennill gradd oni bai i'w iechyd ddechrau dirywio.
Fodd bynnag, derbyniodd alwad i fod yn weinidog ym Mhenmaenmawr, lle bu hyd 1868 pan symudodd i eglwys Y Rhiw, Blaenau Ffestiniog, eglwys fawr gyda dros bedwar cant o aelodau. Yn fuan wedi iddo symud yno credid ei fod yn dechrau dioddef o'r dicïau ac nad oedd hir oes iddo. Ond fe drodd at wella a bu'n weinidog uchel iawn ei barch ym Mlaenau Ffestiniog tan ei farwolaeth ddechrau 1906.
Ym 1908 cyhoeddwyd cofiant iddo dan olygyddiaeth Y Parch. John Owen, gweinidog eglwys Bowydd yn y Blaenau. Yn y gyfrol ceir ysgrifau a cherddi coffa i David Roberts, ynghyd â detholiad o'i ysgrifau a'i bregethau.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Cofiant a Gweithiau y Parch. David Roberts, Y Rhiw, Blaenau Ffestiniog, dan olygyddiaeth y Parch John Owen M.A., Bowydd. (Dolgellau, 1908).