Pant Du: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dilwyn (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Plasty hynafol yw Pant Du, ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]].
Mae '''Pant Du''' yn blasty bychan ym mhlwyf hanesyddol [[Llanllyfni]], ar lethrau [[Dyffryn Nantlle]] yn wynebu'r de. Mae'r adeilad presennol yn dyddio'n ôl i ddechrau'r 17g yn ei ffurf bresennol, er iddo olynu tŷ cynharach, a oedd yn gartref i Humphrey ap Richard, ficer Llanbeulan, Ynys Môn, o 1548 hyd 1587, sydd â'i gladdgell yn [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni|eglwys y plwyf]].<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.2, (Llundain, 1960), t.207</ref> Mae patrwm y tŷ yn adlewyrchu tai'r cyfnod gyda neuadd neu gegin fawr ar y llawr isaf, a staer garreg ar gylchdro wrth ochr aelwyd eang. Mae'r hen dŷ yn wag ac mewn cyflwr a fyddai'n peri pryder pe na byddai'r eiddo bellach yn nwylo teulu lleol sydd yn datblygu'r safle'n winllan a pherllan lwyddiannus.
   
   
Credir iddo gael ei adeiladu tua dechrau'r ail ganrif ar bymtheg ar gyfer William Humphrey, a fu'n Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1611-12, a'i wraig Katherine Morgan. Gwelir eu harfbais gyda llythrennau cyntaf eu henwau obobtu uwchben hen le tan yn y tŷ.
Credir iddo gael ei adeiladu tua dechrau'r ail ganrif ar bymtheg ar gyfer William Humphrey, a fu'n Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1611-12, a'i wraig Catrin Morgan.<ref>Griffith, John Edwards, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t. 157; Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle''. (Penygroes, 1872)</ref> Gwelir eu harfbais gyda llythrennau cyntaf eu henwau o bobtu (W.H a K.M.) uwchben hen le tân yn y tŷ.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/cy/site/16646/details/pant-du Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol]</ref>


Erbyn hyn ceir gwinllanoedd a pherllanoedd ar dir fferm Pant Du, ond datblygiad newydd yn yr 21G yw hyn.  
Roedd [[Teulu Pant Du]] yn berchen ar [[Ystad Pant Du|ystad sylweddol]] yn y cylch, a oedd yn ymestyn dros 1800 o erwau.<ref>LLGC, llsgr. 11507E</ref>
 
Erbyn hyn ceir gwinllannoedd a pherllannoedd ar dir fferm Pant Du, ond datblygiad newydd yn yr 21g yw hwn.  
   
   
==Ffynonellau==
==Cyfeiriadau==
 
[http://www.coflein.gov.uk/cy/site/16646/details/pant-du Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol]
 
Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle''. (Penygroes, 1872)


{{cyfeiriadau}}


[[Categori: Safleoedd nodedig]]
[[Categori: Safleoedd nodedig]]
 
[[Categori:Plastai]]
[[Categori:Tai nodedig]]
[[Categori: Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori: Adeiladau ac adeiladwaith]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:26, 28 Ionawr 2023

Mae Pant Du yn blasty bychan ym mhlwyf hanesyddol Llanllyfni, ar lethrau Dyffryn Nantlle yn wynebu'r de. Mae'r adeilad presennol yn dyddio'n ôl i ddechrau'r 17g yn ei ffurf bresennol, er iddo olynu tŷ cynharach, a oedd yn gartref i Humphrey ap Richard, ficer Llanbeulan, Ynys Môn, o 1548 hyd 1587, sydd â'i gladdgell yn eglwys y plwyf.[1] Mae patrwm y tŷ yn adlewyrchu tai'r cyfnod gyda neuadd neu gegin fawr ar y llawr isaf, a staer garreg ar gylchdro wrth ochr aelwyd eang. Mae'r hen dŷ yn wag ac mewn cyflwr a fyddai'n peri pryder pe na byddai'r eiddo bellach yn nwylo teulu lleol sydd yn datblygu'r safle'n winllan a pherllan lwyddiannus.

Credir iddo gael ei adeiladu tua dechrau'r ail ganrif ar bymtheg ar gyfer William Humphrey, a fu'n Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1611-12, a'i wraig Catrin Morgan.[2] Gwelir eu harfbais gyda llythrennau cyntaf eu henwau o bobtu (W.H a K.M.) uwchben hen le tân yn y tŷ.[3]

Roedd Teulu Pant Du yn berchen ar ystad sylweddol yn y cylch, a oedd yn ymestyn dros 1800 o erwau.[4]

Erbyn hyn ceir gwinllannoedd a pherllannoedd ar dir fferm Pant Du, ond datblygiad newydd yn yr 21g yw hwn.

Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.2, (Llundain, 1960), t.207
  2. Griffith, John Edwards, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 157; Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle. (Penygroes, 1872)
  3. Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol
  4. LLGC, llsgr. 11507E