Richard Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganwyd '''Richard Roberts''' (1847-1909), adeiladydd a phensaer, ym Maes Neuadd, Nebo. Mae Cyfrifiad 1851 yn ei gofnodi fel y seithfed o wyth plenty...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ganwyd '''Richard Roberts''' (1847-1909), adeiladydd a phensaer, ym Maes Neuadd, [[Nebo]].  
Ganwyd '''Richard Roberts''' (1847-1909), adeiladydd a phensaer, ym Maes Neuadd, [[Nebo]].  


Mae Cyfrifiad 1851 yn ei gofnodi fel y seithfed o wyth plentyn Richard Roberts (g.1809), chwarelwr, a'i wraig Gwen, ill dau o blwyf [[Llanllyfni]]. Erbyn hynny, roedd y teulu wedi symud i Danyffordd, Nebo.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1851</ref> Erbyn 1870 roedd o wedi cychwyn ar ei yrfa fel adeiladydd, trwy godi tai Bryn Llyfnwy yn Nebo, ac ym 1898 adeiladodd y tai ar sgwar y pentref.  Wrth i'w enw fel adeiladydd gynyddu, cafodd fwy o gontractau sylweddol, gan gynnwys codi llawer o dai yn wynebu'r traeth yn Llandudno. Wedi hynny, ymfudodd i America, gan ymsefydlu yn Utica, talaith Efrog Newydd, lle'r oedd llawer o Gymry wedi gwneud eu cartref. Dyluniodd ysbyty newydd yno a'i godi, ynghyd â nifer o ysgolion a thai annedd. Honnir iddo adeiladu gorsaf ganolog y rheilffordd yn ninas Utica, a dichon iddo fod arhan yn y gwaith cynnar, ond ni agorwyd yr orsaf tan 1914, a dau bensaer o Efrog Newydd, Allen H. Stem a Alfred Fellheimer oedd y penseiri.<ref>Gwefan "The Great American Stations'', [https://www.greatamericanstations.com/stations/utica-ny-uca/], cyrchwyd 17.1.2023</ref>  
Mae Cyfrifiad 1851 yn ei gofnodi fel y seithfed o wyth plentyn Richard Roberts (g.1809), chwarelwr, a'i wraig Gwen, ill dau o blwyf [[Llanllyfni]]. Erbyn hynny, roedd y teulu wedi symud i Danyffordd, Nebo.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1851</ref> Erbyn 1870 roedd o wedi cychwyn ar ei yrfa fel adeiladydd, trwy godi tai Bryn Llyfnwy yn Nebo, ac ym 1898 adeiladodd y tai ar sgwar y pentref.  Wrth i'w enw fel adeiladydd gynyddu, cafodd fwy o gontractau sylweddol, gan gynnwys codi llawer o dai yn wynebu'r traeth yn Llandudno. Wedi hynny, ymfudodd i America, gan ymsefydlu yn Utica, talaith Efrog Newydd, lle'r oedd llawer o Gymry wedi gwneud eu cartref. Dyluniodd ysbyty newydd yno a'i godi, ynghyd â nifer o ysgolion a thai annedd. Honnir iddo adeiladu gorsaf ganolog y rheilffordd yn ninas Utica, a dichon iddo fod a rhan yn y gwaith cynnar, ond ni agorwyd yr orsaf tan 1914, a dau bensaer o Efrog Newydd, Allen H. Stem a Alfred Fellheimer, oedd y penseiri.<ref>Gwefan ''The Great American Stations'', [https://www.greatamericanstations.com/stations/utica-ny-uca/], cyrchwyd 17.1.2023</ref>  


Bu farw ym 1909, ac er iddo grwydro ymhell o Nebo, fe ysgrifenodd ei ewyllys yn y Gymraeg, a chafodd nifer o'i deulu yn Llanllyfni arian ar ei ôl.<ref>Sylfaenwyd yr erthygl hon ar O.P. Huws, "Hanes Richard Roberts, Maes Neuadd, Nebo", ''Lleu'', 540 (Mai 2022), t.16</ref>
Bu farw ym 1909, ac er iddo grwydro ymhell o Nebo, fe ysgrifennodd ei ewyllys yn y Gymraeg, a chafodd nifer o'i deulu yn Llanllyfni arian ar ei ôl.<ref>Sylfaenwyd yr erthygl hon ar O.P. Huws, "Hanes Richard Roberts, Maes Neuadd, Nebo", ''Lleu'', 540 (Mai 2022), t.16</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:12, 19 Ionawr 2023

Ganwyd Richard Roberts (1847-1909), adeiladydd a phensaer, ym Maes Neuadd, Nebo.

Mae Cyfrifiad 1851 yn ei gofnodi fel y seithfed o wyth plentyn Richard Roberts (g.1809), chwarelwr, a'i wraig Gwen, ill dau o blwyf Llanllyfni. Erbyn hynny, roedd y teulu wedi symud i Danyffordd, Nebo.[1] Erbyn 1870 roedd o wedi cychwyn ar ei yrfa fel adeiladydd, trwy godi tai Bryn Llyfnwy yn Nebo, ac ym 1898 adeiladodd y tai ar sgwar y pentref. Wrth i'w enw fel adeiladydd gynyddu, cafodd fwy o gontractau sylweddol, gan gynnwys codi llawer o dai yn wynebu'r traeth yn Llandudno. Wedi hynny, ymfudodd i America, gan ymsefydlu yn Utica, talaith Efrog Newydd, lle'r oedd llawer o Gymry wedi gwneud eu cartref. Dyluniodd ysbyty newydd yno a'i godi, ynghyd â nifer o ysgolion a thai annedd. Honnir iddo adeiladu gorsaf ganolog y rheilffordd yn ninas Utica, a dichon iddo fod a rhan yn y gwaith cynnar, ond ni agorwyd yr orsaf tan 1914, a dau bensaer o Efrog Newydd, Allen H. Stem a Alfred Fellheimer, oedd y penseiri.[2]

Bu farw ym 1909, ac er iddo grwydro ymhell o Nebo, fe ysgrifennodd ei ewyllys yn y Gymraeg, a chafodd nifer o'i deulu yn Llanllyfni arian ar ei ôl.[3]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1851
  2. Gwefan The Great American Stations, [1], cyrchwyd 17.1.2023
  3. Sylfaenwyd yr erthygl hon ar O.P. Huws, "Hanes Richard Roberts, Maes Neuadd, Nebo", Lleu, 540 (Mai 2022), t.16