William Ewart Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 5: Llinell 5:
Ym 1938 ymfudodd i Dde Califfornia yn yr Unol Daleithiau ac roedd yn ddinesydd Americanaidd erbyn 1946. Ymyriaduriaeth (''interferometry'') oedd ei briod faes a daeth yn awdurdod byd-eang yn y pwnc. Ym 1928 cyhoeddodd ei waith safonol ''Applications of interferometry'', a aeth drwy sawl argraffiad ac a gyfieithwyd i nifer o ieithoedd. Ym 1949 gwerthodd ei labordy personol yn Pasadena i Lu Awyr yr Unol Daleithiau. Ym 1952-53 ef oedd prif ymgymerwr ''American Missile Control'' ac ym 1958 ymunodd â chwmni teiars ''Firestone'' (gwneuthurwyr y taflegryn ''Corporal'').
Ym 1938 ymfudodd i Dde Califfornia yn yr Unol Daleithiau ac roedd yn ddinesydd Americanaidd erbyn 1946. Ymyriaduriaeth (''interferometry'') oedd ei briod faes a daeth yn awdurdod byd-eang yn y pwnc. Ym 1928 cyhoeddodd ei waith safonol ''Applications of interferometry'', a aeth drwy sawl argraffiad ac a gyfieithwyd i nifer o ieithoedd. Ym 1949 gwerthodd ei labordy personol yn Pasadena i Lu Awyr yr Unol Daleithiau. Ym 1952-53 ef oedd prif ymgymerwr ''American Missile Control'' ac ym 1958 ymunodd â chwmni teiars ''Firestone'' (gwneuthurwyr y taflegryn ''Corporal'').


Cyhoeddodd lawer o erthyglau ysgolheigaidd i gyfnodolion megis trafodion y ''London Physical Society''; ''Review of modern physics''; a ''Nature''. Derbyniwyd rhwng 40 a 50 o'i batentau gan gwmnïau yng ngwledydd Prydain, yr Almaen a gwledydd eraill. Priododd â Sarah Ellen Bottomley o Rochdale. Ni chawsant blant. Roedd hi'n ieithydd ac fel ei gŵr yn ymddiddori mewn cerddoriaeth. Bu William Ewart Williams farw yn Pasadena 20 Ebrill 1966 a dygwyd ei gorff i Gymru i'w gladdu ym medd y teulu ym mynwent [[Capel Pisgah (BN), Carmel|Pisga]], [[Carmel]]. Gadawodd waddol hael i Brifysgol De Califfornia i sefydlu ysgoloriaeth a fyddai'n hwyluso i fyfyrwyr o dras Cymreig gael hyfforddiant lleisiol ac offerynnol. Bu brawd iddo, Robert Arthur Williams, yn Brif Arolygydd Cadwraeth Porthladd Sydney, Awstralia. Treuliodd ei frawd ieuengaf, Stanley Haydn Williams, Y Fron, dros hanner canrif yn weinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru.<ref>Gweler erthygl hwy yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1997), t.243</ref>
Cyhoeddodd lawer o erthyglau ysgolheigaidd i gyfnodolion megis trafodion y ''London Physical Society''; ''Review of modern physics''; a ''Nature''. Derbyniwyd rhwng 40 a 50 o'i batentau gan gwmnïau yng ngwledydd Prydain, yr Almaen a gwledydd eraill. Priododd â Sarah Ellen Bottomley o Rochdale. Ni chawsant blant. Roedd hi'n ieithydd ac fel ei gŵr yn ymddiddori mewn cerddoriaeth. Bu William Ewart Williams farw yn Pasadena 20 Ebrill 1966 a dygwyd ei gorff i Gymru i'w gladdu ym medd y teulu ym mynwent [[Capel Pisgah (BN), Carmel|Pisga]], [[Carmel]]. Gadawodd waddol hael i Brifysgol De Califfornia i sefydlu ysgoloriaeth a fyddai'n hwyluso i fyfyrwyr o dras Cymreig gael hyfforddiant lleisiol ac offerynnol. Bu brawd iddo, Robert Arthur Williams, yn Brif Arolygydd Cadwraeth Porthladd Sydney, Awstralia. Treuliodd ei frawd ieuengaf, Stanley Haydn Williams, Y Fron, dros hanner canrif yn weinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru.<ref>Gweler erthygl hwy yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1997), t.243; hefyd tt 23-25 ''Dwy Aelwyd'' gan Lisi Jones, (Cyhoeddiadau Mei, Ebrill 1984).</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:51, 14 Ionawr 2024

Roedd William Ewart Williams (1894-1966) yn ffisegydd a dyfeisydd amryddawn.

Fe'i ganed 3 Mawrth 1894 ym Modgarad, Rhostryfan, yn fab hynaf Ellis William Williams, goruchwyliwr Chwarel Cilgwyn, a'i wraig Jane, Llys Twrog, Y Fron. Ar ôl mynychu ysgolion lleol aeth William Ewart i Goleg Owens, Prifysgol Manceinion. Graddiodd mewn ffiseg ym 1915, gan ennill gradd M.Sc. yn y pwnc ym 1926. Wedi cyfnod o hyfforddiant gyda chwmni Barr Stroud Range Finder Makers, Glasgow, aeth ymlaen i ddatblygu offer sbectrol o gydraniad uchel ac offer polarimetrig i Adam Hilger Cyf., Llundain. Yna, fe'i penodwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg y Brenin, Llundain (1920-39), a dyfarnwyd gradd D.Sc. iddo ym 1934 am ei waith ymchwil. Ar sail ei gyfraniadau i faes technegau mesuriadau manwl cydraniad uchel (high resolution), derbyniodd Fedal Duddell gan Gymdeithas Ffisegol Llundain ym 1935.

Ym 1938 ymfudodd i Dde Califfornia yn yr Unol Daleithiau ac roedd yn ddinesydd Americanaidd erbyn 1946. Ymyriaduriaeth (interferometry) oedd ei briod faes a daeth yn awdurdod byd-eang yn y pwnc. Ym 1928 cyhoeddodd ei waith safonol Applications of interferometry, a aeth drwy sawl argraffiad ac a gyfieithwyd i nifer o ieithoedd. Ym 1949 gwerthodd ei labordy personol yn Pasadena i Lu Awyr yr Unol Daleithiau. Ym 1952-53 ef oedd prif ymgymerwr American Missile Control ac ym 1958 ymunodd â chwmni teiars Firestone (gwneuthurwyr y taflegryn Corporal).

Cyhoeddodd lawer o erthyglau ysgolheigaidd i gyfnodolion megis trafodion y London Physical Society; Review of modern physics; a Nature. Derbyniwyd rhwng 40 a 50 o'i batentau gan gwmnïau yng ngwledydd Prydain, yr Almaen a gwledydd eraill. Priododd â Sarah Ellen Bottomley o Rochdale. Ni chawsant blant. Roedd hi'n ieithydd ac fel ei gŵr yn ymddiddori mewn cerddoriaeth. Bu William Ewart Williams farw yn Pasadena 20 Ebrill 1966 a dygwyd ei gorff i Gymru i'w gladdu ym medd y teulu ym mynwent Pisga, Carmel. Gadawodd waddol hael i Brifysgol De Califfornia i sefydlu ysgoloriaeth a fyddai'n hwyluso i fyfyrwyr o dras Cymreig gael hyfforddiant lleisiol ac offerynnol. Bu brawd iddo, Robert Arthur Williams, yn Brif Arolygydd Cadwraeth Porthladd Sydney, Awstralia. Treuliodd ei frawd ieuengaf, Stanley Haydn Williams, Y Fron, dros hanner canrif yn weinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gweler erthygl hwy yn Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1997), t.243; hefyd tt 23-25 Dwy Aelwyd gan Lisi Jones, (Cyhoeddiadau Mei, Ebrill 1984).