Dafydd Griffith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
[[Categori:Athrawon]] | [[Categori:Athrawon]] | ||
[[Categori:Haneswyr]] | [[Categori:Haneswyr]] | ||
[[Categori:Hynafiaethwyr]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:27, 2 Ionawr 2023
Roedd Dafydd Griffith (1841-1910) yn ysgolfeistr, ciwrad, dyddiadurwr a hynafiaethydd.
Fe'i magwyd yn Y Bontnewydd, lle bu'n ddisgybl-athro yn ysgol yr eglwys ac ym 1860 fe'i derbyniwyd i'r Coleg Normal yng Nghaernarfon (cyn i'r sefydliad hwnnw symud i Fangor) i'w hyfforddi'n athro. Er iddo adael y coleg heb drwydded athro swyddogol fe'i penodwyd i ofal ysgol yng Nghapel Curig, lle bu o 1861-75. Tra yno cadwodd ddyddiaduron manwl sy'n llawn gwybodaeth am ddigwyddiadau, pobl a phethau, a llên gwerin yr ardal honno. Yna penderfynodd gymryd urddau eglwysig gyda'r Eglwys Anglicanaidd. Fe'i hyfforddwyd i'r gwaith hwnnw yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan o 1875-1877 a threuliodd weddill ei oes yn giwrad mewn gwahanol fannau yng ngogledd a de Cymru. Roedd yn curad yng Nghwmafan pan fu farw 12 Ionawr 1910.
Ym mhob ardal lle bu'n gwasanaethu ymddiddorodd yn helaeth yn hanes yr eglwys leol, ei hanes a'i thraddodiadau a chyhoeddwyd erthyglau niferus o'i waith yn Yr Haul a'r Cymro eglwysig. Ceir llawer o'i waith mewn llawysgrifau hefyd yn Archifau Prifysgol Bangor. Dywedir ei fod o gymeriad pur anodd ei drin a choleddai ragfarnau dyfnion. Dichon mai hynny a fu'n gyfrifol am y ffaith na chafodd erioed fywoliaeth eglwysig a'i fod yn symud o fan i fan yn gyson fel ciwrad. Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaeleddau hyn gadawodd ar ei ôl gyfoeth o wybodaeth a darlun hynod gynhwysfawr o fywyd o fewn yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru yn y blynyddoedd cyn iddi gael ei Datgysylltu ym 1920.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Gweler erthygl yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950 - (Atodiad i'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940), (Llundain, 1970), tt.98-9.