Tai Lôn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Treflan fach yw '''Tai Lón''' ym mhlwyf Clynnog Fawr. Roedd yno ffatri wlán ar un adeg a gerllaw roedd Felin Faesog.'
 
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Treflan fach yw '''Tai Lón''' ym mhlwyf Clynnog Fawr. Roedd yno ffatri wlán ar un adeg a gerllaw roedd Felin Faesog.
Treflan fach yw '''Tai Lôn''' ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]], ar lan [[Afon Desach]]. Mae i'r de o fryn Y Foel, ar lôn groes rhwng y lôn gefn rhwng Clynnog Fawr a [[Llanllyfni]]; a'r lôn o Glynnog Fawr trwy [[Capel Uchaf]] i gyfeiriad [[Bwlch Derwin]]. Roedd yno ffatri wlân ar un adeg: [[Ffatri Wlân Clynnog]] a gerllaw roedd [[Melin Faesog]], a fu am gyfnod yn y 1980au yn agored fel amgueddfa;  roedd yno efail y gof ;  roedd yno weithdy crydd; a busnes saer coed ac ymgymerwyr angladdau.
Cau fu hanes rhai o’r busnesion hyn erbyn dauddegau’r ugeinfed ganrif ac eithrio gweithdy saer coed Pantafon. ond parhaodd y gymdeithas glos, gytun, fel un teulu mawr. Tua 1946 daeth ychydig o’r trigolion ynghyd a phenderfynu rhentu Tŷ Croes, hen dŷ yng nghanol y pentref am swm bychan a’i addasu yn fan cyfarfod. Lampau paraffîn oedd yn ei oleuo,  tân glo oedd yn y grât a thegell wrth law. Cyfarfu’r Clwb unwaith yr wythnos yn rheolaidd ac yn ôl y galw, gan estyn croeso i bawb, yn hen ac ifanc, 
 
Yn 1966 roedd yno 30 o aelodau, nifer o’r ffermydd cyfagos, a Catherine Jones, Brynhafod, yn Ysgrifennydd.. Yr aelod ieuengaf oedd Roland Wyn Owen, 12 oed, a’r hynaf oedd Kate Williams, 81 oed. Pan holwyd hi gan ohebydd  y ''Daily Post,'' “Does dim byd gwell gen i,” meddai, “na chydganu o gwmpas y piano, a chael panad o de a sgwrs o flaen y tân.”  Ac meddai Brenda Jones, 22 oed, “Onibai am yr oedolion fuasai gennym ni ddim Clwb o gwbl. Mae’n dyled ni’n fawr iddyn nhw,”  Nid oedd prinder gweithgareddau – o chwarae drafftiau, cyd-ganu, cynnal eisteddfodau ffug, nosweithiau llawen, canu emynau ar nos Sul, ac ati. Bu yno Gwmni Drama ar un adeg, darlithiau a dosbarthiadau nos fel  gwaith gwnio, gwaith lledr, gwaith llaw, gwaith coed a gwaith gwiail.<ref>''Liverpool Daily Post'', Hydref 15, 1966, tud.3 </ref>   
 
 
==Cyfeiriadau==
 
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:32, 11 Mehefin 2021

Treflan fach yw Tai Lôn ym mhlwyf Clynnog Fawr, ar lan Afon Desach. Mae i'r de o fryn Y Foel, ar lôn groes rhwng y lôn gefn rhwng Clynnog Fawr a Llanllyfni; a'r lôn o Glynnog Fawr trwy Capel Uchaf i gyfeiriad Bwlch Derwin. Roedd yno ffatri wlân ar un adeg: Ffatri Wlân Clynnog a gerllaw roedd Melin Faesog, a fu am gyfnod yn y 1980au yn agored fel amgueddfa; roedd yno efail y gof ; roedd yno weithdy crydd; a busnes saer coed ac ymgymerwyr angladdau.

Cau fu hanes rhai o’r busnesion hyn erbyn dauddegau’r ugeinfed ganrif ac eithrio gweithdy saer coed Pantafon. ond parhaodd y gymdeithas glos, gytun, fel un teulu mawr. Tua 1946 daeth ychydig o’r trigolion ynghyd a phenderfynu rhentu Tŷ Croes, hen dŷ yng nghanol y pentref am swm bychan a’i addasu yn fan cyfarfod. Lampau paraffîn oedd yn ei oleuo, tân glo oedd yn y grât a thegell wrth law. Cyfarfu’r Clwb unwaith yr wythnos yn rheolaidd ac yn ôl y galw, gan estyn croeso i bawb, yn hen ac ifanc,

Yn 1966 roedd yno 30 o aelodau, nifer o’r ffermydd cyfagos, a Catherine Jones, Brynhafod, yn Ysgrifennydd.. Yr aelod ieuengaf oedd Roland Wyn Owen, 12 oed, a’r hynaf oedd Kate Williams, 81 oed. Pan holwyd hi gan ohebydd y Daily Post, “Does dim byd gwell gen i,” meddai, “na chydganu o gwmpas y piano, a chael panad o de a sgwrs o flaen y tân.” Ac meddai Brenda Jones, 22 oed, “Onibai am yr oedolion fuasai gennym ni ddim Clwb o gwbl. Mae’n dyled ni’n fawr iddyn nhw,” Nid oedd prinder gweithgareddau – o chwarae drafftiau, cyd-ganu, cynnal eisteddfodau ffug, nosweithiau llawen, canu emynau ar nos Sul, ac ati. Bu yno Gwmni Drama ar un adeg, darlithiau a dosbarthiadau nos fel gwaith gwnio, gwaith lledr, gwaith llaw, gwaith coed a gwaith gwiail.[1]


Cyfeiriadau

  1. Liverpool Daily Post, Hydref 15, 1966, tud.3