John Jones Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''John Jones Owen''' (1876-1947) yn gerddor a aned 2 Mai 1876 ym Mryn-y-coed, Tal-y-sarn, yn fab i Hugh a Mary Owen. Roedd yn frawd i Richard Gri...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 3 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''John Jones Owen''' (1876-1947) yn gerddor a aned 2 Mai 1876 ym Mryn-y-coed, Tal-y-sarn, yn fab i Hugh a Mary Owen.  
Roedd '''John Jones Owen''' (1876-1947) yn chwarelwr am chwarter canrif cyn dilyn ei wir alwedigaeth fel cerddor a chfansoddwr. Fe'i ganed 2 Mai 1876 ym Mryn-y-coed, [[Tal-y-sarn]], yn ail fab i Hugh Owen (g.1833), crydd a oedd yn wreiddiol o Fellteyrn, a Mary, a aned ym 1840. Roedd y teulu’n byw ym Mryn-y-coed, [[Tal-y-sarn]], ac roedd yna 6 o feibion a dwy ferch yn y teulu.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1881-1901.</ref>


Roedd yn frawd i Richard Griffith Owen, 'Pencerdd Llyfnwy'. Cafodd addysg gerddorol dda a dysgodd ganu'r organ a'r feiola. Ef oedd arweinydd côr merched Dyffryn Nantlle a gafodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1897. Penodwyd ef yn organydd capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhal-y-sarn ac olynodd ei dad fel codwr canu yno. Cyhoeddodd amryw o ddarnau cerddorol, a bu ei anthem 'Llusern yw dy air i'm traed', y ganig 'Yr Afonig' a'r darn 'Lw-li-bei' i blant yn boblogaidd.  
Roedd yn frawd iau i [[Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy)]]. Cafodd addysg gerddorol dda a dysgodd ganu'r organ a'r feiola. Ef oedd arweinydd côr merched Dyffryn Nantlle a gafodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1897. Penodwyd ef yn organydd [[Capel Tal-y-sarn (MC)|capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhal-y-sarn]] ac olynodd ei dad fel codwr canu yno. Cyhoeddodd amryw o ddarnau cerddorol, a bu ei anthem ''Llusern yw dy air i'm traed'', y ganig ''Yr Afonig'' a'r darn ''Lw-li-bei'' i blant yn boblogaidd.


Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1921 ac yno enillodd radd Mus.Bac. Daeth yn organydd a chôr-feistr Eglwys Efengylaidd Wilkesbarre. Bu'n gwasanaethu fel beirniad cerdd ac arweinydd cymanfaoedd canu ac roedd yn arweinydd Côr Meibion Orpheus y dref. Yno y bu farw 21 Ebrill 1947 a'i gladdu ym mynwent Mynydd Greenwood, Wilkesbarre.<sup>[1]</sup>
Am flynyddoedd bu'n gyfeilydd poblogaidd ar draws y dyffryn, a bu'n dysgu rhai i chwarae'r piano hefyd. Roedd yn boblogaidd fel arweinydd cymanfaoedd ac yn feirniad cyson mewn cyfarfodydd cystadleuol a mân eisteddfodau'r sir. Roedd wedi teithio i'r Amerig ym 1910, gan ennill mewn cystadleuaeth Eisteddfod Utica.<ref>''Yr Herald Cymreig'', 21.1.1910, t.5</ref> Cymhwysodd yn ALCM yng Ngholeg Cerdd Llundain ym 1918.<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 8.1.1919, t.3</ref> Mae'n amlwg fod awydd gwella ei stad arno, ac ym 1915 ceisiodd am swydd Swyddog Presenoldeb Ardal Pen-y-groes o dan Bwyllgor Addysg y Sir. Fe gollodd y swydd o ryw ddwy bleidlais.<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 29.12.1915, t.6</ref>
 
Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1921 ac yno enillodd radd Mus.Bac. Daeth yn organydd a chôr-feistr Eglwys Efengylaidd Wilkesbarre. Bu'n gwasanaethu fel beirniad cerdd ac arweinydd cymanfaoedd canu ac roedd yn arweinydd Côr Meibion Orpheus y dref. Yno y bu farw 21 Ebrill 1947 a'i gladdu ym mynwent Mynydd Greenwood, Wilkesbarre.<ref> Seiliwyd rhan o'r uchod ar erthygl yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950'', (Llundain, 1970), t.46.</ref>


== Cyfeiriadau ==  
== Cyfeiriadau ==  


1. Seiliwyd yr uchod ar erthygl yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950'', (Llundain, 1970), t.46.
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Cerddorion]]
[[Categori:Chwarelwyr]]
[[Categori:Cyfansoddwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:03, 27 Hydref 2023

Roedd John Jones Owen (1876-1947) yn chwarelwr am chwarter canrif cyn dilyn ei wir alwedigaeth fel cerddor a chfansoddwr. Fe'i ganed 2 Mai 1876 ym Mryn-y-coed, Tal-y-sarn, yn ail fab i Hugh Owen (g.1833), crydd a oedd yn wreiddiol o Fellteyrn, a Mary, a aned ym 1840. Roedd y teulu’n byw ym Mryn-y-coed, Tal-y-sarn, ac roedd yna 6 o feibion a dwy ferch yn y teulu.[1]

Roedd yn frawd iau i Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy). Cafodd addysg gerddorol dda a dysgodd ganu'r organ a'r feiola. Ef oedd arweinydd côr merched Dyffryn Nantlle a gafodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1897. Penodwyd ef yn organydd capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhal-y-sarn ac olynodd ei dad fel codwr canu yno. Cyhoeddodd amryw o ddarnau cerddorol, a bu ei anthem Llusern yw dy air i'm traed, y ganig Yr Afonig a'r darn Lw-li-bei i blant yn boblogaidd.

Am flynyddoedd bu'n gyfeilydd poblogaidd ar draws y dyffryn, a bu'n dysgu rhai i chwarae'r piano hefyd. Roedd yn boblogaidd fel arweinydd cymanfaoedd ac yn feirniad cyson mewn cyfarfodydd cystadleuol a mân eisteddfodau'r sir. Roedd wedi teithio i'r Amerig ym 1910, gan ennill mewn cystadleuaeth Eisteddfod Utica.[2] Cymhwysodd yn ALCM yng Ngholeg Cerdd Llundain ym 1918.[3] Mae'n amlwg fod awydd gwella ei stad arno, ac ym 1915 ceisiodd am swydd Swyddog Presenoldeb Ardal Pen-y-groes o dan Bwyllgor Addysg y Sir. Fe gollodd y swydd o ryw ddwy bleidlais.[4]

Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1921 ac yno enillodd radd Mus.Bac. Daeth yn organydd a chôr-feistr Eglwys Efengylaidd Wilkesbarre. Bu'n gwasanaethu fel beirniad cerdd ac arweinydd cymanfaoedd canu ac roedd yn arweinydd Côr Meibion Orpheus y dref. Yno y bu farw 21 Ebrill 1947 a'i gladdu ym mynwent Mynydd Greenwood, Wilkesbarre.[5]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1881-1901.
  2. Yr Herald Cymreig, 21.1.1910, t.5
  3. Y Dinesydd Cymreig, 8.1.1919, t.3
  4. Y Dinesydd Cymreig, 29.12.1915, t.6
  5. Seiliwyd rhan o'r uchod ar erthygl yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950, (Llundain, 1970), t.46.