Robert Roberts (Trebor Aled): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Nid yw | Nid yw wedi dod yn amlwg eto pwy yn union oedd y '''Robert Roberts''' a arddelai'r enw barddol "Trebor Aled" yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]], ond gwyddys i sicrwydd nad y Parch. Robert Jones (Trebor Aled) mohono. Mae "Trebor", wrth gwrs, yn anagram o "Robert" ac mae "Aled" yn awgrymu fod ganddo ryw gysylltiad â Dyffryn Aled, sef ardal Llansannan, o ble hanai'r Trebor Aled arall. | ||
Yr unig ffeithiau sydd wedi dod i'r amlwg amdano yw ei fod yn englynwr pur doreithiog yn ysgrifennu yn y 1880au, a barnu oddi wrth bapurau newydd yr oes. Er enghraifft, enillodd ar yr englyn | Yr unig ffeithiau sydd wedi dod i'r amlwg amdano yw ei fod yn englynwr pur doreithiog yn ysgrifennu yn y 1880au, a barnu oddi wrth bapurau newydd yr oes. Er enghraifft, enillodd ar yr englyn yng Nghylchwyl flynyddol Undeb Lenyddol Tal-y-sarn ym 1881<ref>''Y Genedl Gymreig'', 9.6.1881, t.7</ref> ac yng Nghylchwyl Lenyddol Methodistiaid Hyfrydle a Than'rallt ym 1887. Mae'r adroddiad am y gylchwyl olaf honno'n nodi ei fod yn aelod yng [[Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn|Hyfrydle]].<ref>''Y Genedl Gymreig'', 1..6.1887, t.7</ref> | ||
Os nad oedd yn fardd mawr, roedd yn medru dal ei | Os nad oedd yn fardd mawr, roedd yn medru dal ei dir gyda beirdd lleol eraill. Pan aed ati i bwyso a mesur doniau beirdd y dyffryn yn ''Y Genedl Gymreig'' ym 1888, fe’i gosodwyd yn ddegfed allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran ei allu barddonol.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 8.2.1888, t.7</ref> Roedd yn ddigon galluog yn rheolau'r gynghanedd i roi ateb sydyn i'w ffrind, y bardd [[Maldwynog]], fel yr adroddodd ''Y Celt'' ym 1890: | ||
Ddarfod i Maldwynog gyfarfod â | Ddarfod i Maldwynog gyfarfod â Trebor Aled brydnawn Mawrth diweddaf, ac i'r cyntaf anerch yr olaf drwy ddweyd: "Mai hi braidd yn hafaidd hin", i'r hyn atebodd Trebor "Mwy hafaidd na Mehefin".<ref> ''Y Werin'', 22.2.1890, t.4</ref> | ||
Roedd yn dal yn fyw ym 1896, pan ysgrifennodd lythyr at W.J. Roberts (Gwilym Cowlyd).<ref>LlGC, Llysg.8534C</ref> | Roedd yn dal yn fyw ym 1896, pan ysgrifennodd lythyr at W.J. Roberts (Gwilym Cowlyd).<ref>LlGC, Llysg.8534C</ref> |
Golygiad diweddaraf yn ôl 11:09, 1 Tachwedd 2022
Nid yw wedi dod yn amlwg eto pwy yn union oedd y Robert Roberts a arddelai'r enw barddol "Trebor Aled" yn Nyffryn Nantlle, ond gwyddys i sicrwydd nad y Parch. Robert Jones (Trebor Aled) mohono. Mae "Trebor", wrth gwrs, yn anagram o "Robert" ac mae "Aled" yn awgrymu fod ganddo ryw gysylltiad â Dyffryn Aled, sef ardal Llansannan, o ble hanai'r Trebor Aled arall.
Yr unig ffeithiau sydd wedi dod i'r amlwg amdano yw ei fod yn englynwr pur doreithiog yn ysgrifennu yn y 1880au, a barnu oddi wrth bapurau newydd yr oes. Er enghraifft, enillodd ar yr englyn yng Nghylchwyl flynyddol Undeb Lenyddol Tal-y-sarn ym 1881[1] ac yng Nghylchwyl Lenyddol Methodistiaid Hyfrydle a Than'rallt ym 1887. Mae'r adroddiad am y gylchwyl olaf honno'n nodi ei fod yn aelod yng Hyfrydle.[2]
Os nad oedd yn fardd mawr, roedd yn medru dal ei dir gyda beirdd lleol eraill. Pan aed ati i bwyso a mesur doniau beirdd y dyffryn yn Y Genedl Gymreig ym 1888, fe’i gosodwyd yn ddegfed allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran ei allu barddonol.[3] Roedd yn ddigon galluog yn rheolau'r gynghanedd i roi ateb sydyn i'w ffrind, y bardd Maldwynog, fel yr adroddodd Y Celt ym 1890:
Ddarfod i Maldwynog gyfarfod â Trebor Aled brydnawn Mawrth diweddaf, ac i'r cyntaf anerch yr olaf drwy ddweyd: "Mai hi braidd yn hafaidd hin", i'r hyn atebodd Trebor "Mwy hafaidd na Mehefin".[4]
Roedd yn dal yn fyw ym 1896, pan ysgrifennodd lythyr at W.J. Roberts (Gwilym Cowlyd).[5]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma