David Thomas (Llwydiarth Môn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganwyd '''David Thomas''' (Llwydiarth Môn) (?1857-<1920) ym Mhentraeth, Ynys Môn. Ei rieni oedd Robert Thomas, labrwr ar gei'r Traeth Coch, a Catherine...'
 
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Ganwyd '''David Thomas''' (Llwydiarth Môn) (?1857-<1920) ym Mhentraeth, Ynys Môn. Ei rieni oedd Robert Thomas, labrwr ar gei'r Traeth Coch, a Catherine ei wraig; yr oedd ei daid, David Thomas a’i nain o ardal Mynydd Llwydiarth, ac ymysg y Bedyddwyr cyntaf yn yr ardal.<ref>''Cymru'', anhysbys, “Atgofion Mebyd”, Cyf.37 (1909), t.69.</ref>
Ganwyd '''David Thomas''' (Llwydiarth Môn) (?1857- 1920) ym Mhentraeth, Ynys Môn. Ei rieni oedd Robert Thomas, labrwr ar gei'r Traeth Coch, a Catherine ei wraig; yr oedd ei daid, David Thomas a’i nain o ardal Mynydd Llwydiarth, ac ymysg y Bedyddwyr cyntaf yn yr ardal.<ref>''Cymru'', anhysbys, “Atgofion Mebyd”, Cyf.37 (1909), t.69.</ref>


Cyn 1861 ac erbyn i David fod yn bedair ar ddeg, roedd o wedi symud i’r Pandy ym Mhentraeth lle gweithiai fel gwehydd, a dyna fu ei waith gydol ei fywyd er iddo wella ei stad nes iddo fynd yn ddyn busnes o sylwedd.
Cyn 1861 ac erbyn i David fod yn bedair ar ddeg, roedd wedi symud i’r Pandy ym Mhentraeth lle gweithiai fel gwehydd, a dyna fu ei waith gydol ei fywyd er iddo wella ei stad nes iddo ddod yn ddyn busnes o sylwedd.


Amlygodd David Thomas ei dalent fel bardd yn ifanc, ac yntau ddim ond yn 20 oed cafodd ei urddo’n ofydd yng Ngorsedd Eisteddfod Môn, gyda’r enw “Llwydiarth Môn”.<ref>''Llais y Wlad'', 10.8.1877, t.5</ref>
Amlygodd David Thomas ei dalent fel bardd yn ifanc, ac yntau'n ddim ond 20 oed cafodd ei urddo’n ofydd yng Ngorsedd Eisteddfod Môn, gyda’r enw “Llwydiarth Môn”.<ref>''Llais y Wlad'', 10.8.1877, t.5</ref>


Symudodd David Thomas i bentref [[Pen-y-groes]] rywbryd cyn diwedd 1878, pan gyhoeddodd gerdd wedi ei gyflwyno i William Hughes (Glan Caeron). Y ffaith ei fod wedi dod i adnabod Glan Caeron a oedd yn byw yn [[Y Fron]], ac (a barnu oddi wrth natur y gerdd) yn ei adnabod yn dda, yn tueddu awgrymu bod David Thomas wedi bod yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] ers peth amser. Ym Mhen-y-groes hefyd cafodd hyd i’w wraig Catherine. Yr oedd yn dal yn byw yn y dyffryn ym 1881 ac wedi cael llety yn 10 Rhes Glandŵr, gyda Charles Morris a’i deulu. Er nad oes modd bod yn sicr, mae’n debyg mai lletya gyda’i deulu-yng-nghyfraith ydoedd, gan fod eu merch Catherine, gwniadwraig a dynes briod yn byw yno hefyd. Er i’r cyfrifiad ei rhestru fel “Catherine Morris”, dichon mai camddealltwriaeth oedd hynny ar ran y cyfrifiwr. Sylwer hefyd fel y byddai crefft Catherine yn cyfrannu at waith David trwy gyfuno’r ddwy grefft o wehyddu a gwnïo.
Symudodd David Thomas i bentref [[Pen-y-groes]] rywbryd cyn diwedd 1878, pan gyhoeddodd gerdd wedi ei chyflwyno i William Hughes (Glan Caeron). Mae'r ffaith ei fod wedi dod i adnabod Glan Caeron a oedd yn byw yn [[Y Fron]], ac (a barnu oddi wrth natur y gerdd) yn ei adnabod yn dda, yn tueddu i awgrymu bod David Thomas wedi bod yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] ers peth amser. Ym Mhen-y-groes hefyd cafodd hyd i’w wraig Catherine. Yr oedd yn dal i fyw yn y dyffryn ym 1881 ac wedi cael llety yn 10 Rhes Glandŵr, gyda Charles Morris a’i deulu. Er nad oes modd bod yn sicr, mae’n debyg mai lletya gyda’i deulu-yng-nghyfraith ydoedd, gan fod eu merch Catherine, gwniadwraig a dynes briod, yn byw yno hefyd. Er i’r cyfrifiad ei rhestru fel “Catherine Morris”, dichon mai camddealltwriaeth oedd hynny ar ran y cyfrifiwr. Sylwer hefyd fel y byddai crefft Catherine yn cyfrannu at waith David trwy gyfuno’r ddwy grefft o wehyddu a gwnïo.


Fel y nodwyd, roedd David Thomas yn barddoni yn ystod ei amser ym Mhen-y-groes, ac yn defnyddio ei enw barddol yng Ngorsedd Môn, “Llwydiarth Môn”, fel y gwnaeth am weddill ei oes.  
Fel y nodwyd, roedd David Thomas yn barddoni yn ystod ei amser ym Mhen-y-groes, ac yn defnyddio ei enw barddol yng Ngorsedd Môn, “Llwydiarth Môn”, fel y gwnaeth am weddill ei oes.  


Ar ôl cyfnod ym Mhen-y-groes, a chyn 1891, symudodd David yn ôl i Bentraeth lle weithiai David y pandy lle fuodd o’n gweithio’n llanc ifanc. Erbyn 1894, fodd bynnag, roedd wedi symud gyda’i wraig i ardal hollol newydd, sef Llanfair Caereinion yn Sir Drefaldwyn. Yr oedd heb anghofio ei hen sir, fodd bynnag, gan iddo'r flwyddyn honno ennill medal aur yn Eisteddfod Llangefni.<ref>''Montgomery County Times'', 7.4.1894, t.2</ref> Bu’n gwehyddu yn eu cartref yn Stryd y Bont yn y dref honno ym 1901 ac yn cyflogi gweithwyr. Cynyddodd y busnes ac erbyn 1911 cafodd ei ddisgrifio fel “woollen draper”.<ref>Daeth prif ffeithiau’r erthygl hon o Gyfrifiadau plwyf Pentraeth, 1861, 1871, 1891; plwyf Llanllyfni, 1881; a phlwyf Llanfair Caereinion, 1901, 1911</ref>
Ar ôl cyfnod ym Mhen-y-groes, a chyn 1891, symudodd David yn ôl i Bentraeth gan weithio yn y pandy lle bu'n gweithio’n llanc ifanc. Erbyn 1894, fodd bynnag, roedd wedi symud gyda’i wraig i ardal hollol newydd, sef Llanfair Caereinion yn Sir Drefaldwyn. Nid oedd wedi anghofio ei hen sir, fodd bynnag, gan iddo'r flwyddyn honno ennill medal aur yn Eisteddfod Llangefni.<ref>''Montgomery County Times'', 7.4.1894, t.2</ref> Erbyn 1901 roedd yn gwehyddu yn eu cartref yn Stryd y Bont Llanfair Caereinion ac yn cyflogi gweithwyr. Cynyddodd y busnes ac erbyn 1911 cafodd ei ddisgrifio fel “woollen draper”.<ref>Daeth prif ffeithiau’r erthygl hon o Gyfrifiadau plwyf Pentraeth, 1861, 1871, 1891; plwyf Llanllyfni, 1881; a phlwyf Llanfair Caereinion, 1901, 1911</ref>


Bu’n cystadlu mewn eisteddfodau lleol ar hyd y blynyddoedd ac ar ôl ymsefydlu yn Llanfair Caereinion daeth yn feirniad barddoni ac yn ddyn cyhoeddus yn ei dref fabwysiedig a thrwy Ddyffryn Banw i gyd. Ym 1914 disgrifiodd Ifan Afan David Thomas fel “diacon parchus a bardd cadeiriol”.<ref>''Cymru'', Ifan Afan, “Dolwar Fach”, Cyf.47 (1914), t.48</ref>
Bu’n cystadlu mewn eisteddfodau lleol ar hyd y blynyddoedd ac ar ôl ymsefydlu yn Llanfair Caereinion daeth yn feirniad barddoniaeth ac yn ddyn cyhoeddus yn ei dref fabwysiedig a thrwy Ddyffryn Banw i gyd. Ym 1914 disgrifiodd Ifan Afan David Thomas fel “diacon parchus a bardd cadeiriol”.<ref>''Cymru'', Ifan Afan, “Dolwar Fach”, Cyf.47 (1914), t.48</ref>


Nid oes sicrwydd pan fu farw, ond roedd yn dal yn Llanfair ym 1919.<ref>''Cambrian News'', 20.6.1919, t.5</ref>
Nid oes sicrwydd pryd y bu farw, ond roedd yn dal yn Llanfair ym 1919.<ref>''Cambrian News'', 20.6.1919, t.5</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:47, 1 Tachwedd 2022

Ganwyd David Thomas (Llwydiarth Môn) (?1857- 1920) ym Mhentraeth, Ynys Môn. Ei rieni oedd Robert Thomas, labrwr ar gei'r Traeth Coch, a Catherine ei wraig; yr oedd ei daid, David Thomas a’i nain o ardal Mynydd Llwydiarth, ac ymysg y Bedyddwyr cyntaf yn yr ardal.[1]

Cyn 1861 ac erbyn i David fod yn bedair ar ddeg, roedd wedi symud i’r Pandy ym Mhentraeth lle gweithiai fel gwehydd, a dyna fu ei waith gydol ei fywyd er iddo wella ei stad nes iddo ddod yn ddyn busnes o sylwedd.

Amlygodd David Thomas ei dalent fel bardd yn ifanc, ac yntau'n ddim ond 20 oed cafodd ei urddo’n ofydd yng Ngorsedd Eisteddfod Môn, gyda’r enw “Llwydiarth Môn”.[2]

Symudodd David Thomas i bentref Pen-y-groes rywbryd cyn diwedd 1878, pan gyhoeddodd gerdd wedi ei chyflwyno i William Hughes (Glan Caeron). Mae'r ffaith ei fod wedi dod i adnabod Glan Caeron a oedd yn byw yn Y Fron, ac (a barnu oddi wrth natur y gerdd) yn ei adnabod yn dda, yn tueddu i awgrymu bod David Thomas wedi bod yn Nyffryn Nantlle ers peth amser. Ym Mhen-y-groes hefyd cafodd hyd i’w wraig Catherine. Yr oedd yn dal i fyw yn y dyffryn ym 1881 ac wedi cael llety yn 10 Rhes Glandŵr, gyda Charles Morris a’i deulu. Er nad oes modd bod yn sicr, mae’n debyg mai lletya gyda’i deulu-yng-nghyfraith ydoedd, gan fod eu merch Catherine, gwniadwraig a dynes briod, yn byw yno hefyd. Er i’r cyfrifiad ei rhestru fel “Catherine Morris”, dichon mai camddealltwriaeth oedd hynny ar ran y cyfrifiwr. Sylwer hefyd fel y byddai crefft Catherine yn cyfrannu at waith David trwy gyfuno’r ddwy grefft o wehyddu a gwnïo.

Fel y nodwyd, roedd David Thomas yn barddoni yn ystod ei amser ym Mhen-y-groes, ac yn defnyddio ei enw barddol yng Ngorsedd Môn, “Llwydiarth Môn”, fel y gwnaeth am weddill ei oes.

Ar ôl cyfnod ym Mhen-y-groes, a chyn 1891, symudodd David yn ôl i Bentraeth gan weithio yn y pandy lle bu'n gweithio’n llanc ifanc. Erbyn 1894, fodd bynnag, roedd wedi symud gyda’i wraig i ardal hollol newydd, sef Llanfair Caereinion yn Sir Drefaldwyn. Nid oedd wedi anghofio ei hen sir, fodd bynnag, gan iddo'r flwyddyn honno ennill medal aur yn Eisteddfod Llangefni.[3] Erbyn 1901 roedd yn gwehyddu yn eu cartref yn Stryd y Bont Llanfair Caereinion ac yn cyflogi gweithwyr. Cynyddodd y busnes ac erbyn 1911 cafodd ei ddisgrifio fel “woollen draper”.[4]

Bu’n cystadlu mewn eisteddfodau lleol ar hyd y blynyddoedd ac ar ôl ymsefydlu yn Llanfair Caereinion daeth yn feirniad barddoniaeth ac yn ddyn cyhoeddus yn ei dref fabwysiedig a thrwy Ddyffryn Banw i gyd. Ym 1914 disgrifiodd Ifan Afan David Thomas fel “diacon parchus a bardd cadeiriol”.[5]

Nid oes sicrwydd pryd y bu farw, ond roedd yn dal yn Llanfair ym 1919.[6]

Cyfeiriadau

  1. Cymru, anhysbys, “Atgofion Mebyd”, Cyf.37 (1909), t.69.
  2. Llais y Wlad, 10.8.1877, t.5
  3. Montgomery County Times, 7.4.1894, t.2
  4. Daeth prif ffeithiau’r erthygl hon o Gyfrifiadau plwyf Pentraeth, 1861, 1871, 1891; plwyf Llanllyfni, 1881; a phlwyf Llanfair Caereinion, 1901, 1911
  5. Cymru, Ifan Afan, “Dolwar Fach”, Cyf.47 (1914), t.48
  6. Cambrian News, 20.6.1919, t.5