John Roberts (Iolo Glan Twrog): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganed '''John William Roberts''' (1858-1920<) yn y Tai Newyddion, Dolydd, ym mhlwyf Llanwnda, yn fab i William Roberts (g.1838) a hanai o Lanengan...'
 
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Ganed '''John William Roberts''' (1858-1920<) yn y Tai Newyddion, [[Dolydd]], ym mhlwyf [[Llanwnda]], yn fab i William Roberts (g.1838) a hanai o Lanengan yn Llŷn, a’i wraig Jane, (g.1835 ym Motwnnog). John oedd y plentyn hynaf, ond yn y man, cafwyd nifer o blant eraill: Robert William (g.1860); Jane (g.1861); William William (g.1863); Hugh William (g.1865); a Richard William (g.1867).  
Ganed '''John William Roberts''' (1858-1920<) yn y Tai Newyddion, [[Dolydd]], ym mhlwyf [[Llanwnda]], yn fab i William Roberts (g.1838) a hanai o Lanengan yn Llŷn, a’i wraig Jane, (g.1835 ym Motwnnog). John oedd y plentyn hynaf ond, yn y man, cafwyd nifer o blant eraill: Robert William (g.1860); Jane (g.1861); William William (g.1863); Hugh William (g.1865); a Richard William (g.1867).  


Fe ymddengys i William Roberts symud gyda’i wraig a John William o Lanfihangel Bachellaeth i’r Dolydd i gael gwaith fel gwas ffarm.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1861</ref> Rywbryd tua 1868, mae’n debyg, symudodd y teulu oedd, erbyn hyn, angen tŷ mwy – ac, mae’n debyg – cyflog gwell, i 7 Rhes Eryri, yn ardal [[Y Fron]], [[Llandwrog]]. Erbyn 1871, roedd y tad yn gweithio fel labrwr yn y chwarel leol.
Fe ymddengys i William Roberts symud gyda’i wraig a John William o Lanfihangel Bachellaeth i’r Dolydd i gael gwaith fel gwas ffarm.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1861</ref> Rywbryd tua 1868, mae’n debyg, symudodd y teulu a oedd, erbyn hynny, angen tŷ mwy – ac, mae’n debyg – cyflog gwell, i 7 Rhes Eryri, yn ardal [[Y Fron]], [[Llandwrog]]. Erbyn 1871, roedd y tad yn gweithio fel labrwr yn y chwarel leol.


Erbyn 1881, yr oedd John W. Roberts wedi priodi Elizabeth, ac yr oedd ganddynt ddau blentyn, Phyllis M. (g.1888); ac Edward J. (g.1890). Byddai Edward yn gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gael ei gomisiynu fel swyddog,<ref>''Y Brython'', 28.6.1917, t.4</ref> ar ôl ennill gradd brifysgol. Cartref y teulu oedd 1 Rhes Pen-yr-orsedd ym mhentref [[Nantlle]]. Bu farw Elizabeth rywbryd rhwng 1891 a 1901, pan ddisgrifiwyd John W. Roberts fel gŵr gweddw. Erbyn 1911, fodd bynnag, yr oedd wedi ailbriodi â dynes o’r enw Catherine o Heneglwys, Môn, a oedd yn saith mlynedd yn iau nag ef.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1871-1911</ref> Gydol yr amser hyn yr oedd wedi bod yn gweithio fel chwarelwr yng nghwarel [[Chwarel Pen-yr-orsedd|Pen-yr-orsedd]], ac yr oedd yn ddigon amlwg  i gael ei ddewis ym 1915 yn un o ddau chwarelwr i gynrychioli’r chwarelwyr yn angladd Mrs Darbishire, gwraig y perchennog.<ref>''Y Genedl'', 27.7.1915, t.4</ref> Am gyfnod, ei bartner yn y chwarel oedd [[William Hughes (Glan Caeron)]] (1855-1926), nes i hwnnw ymfudo i’r Unol Daleithiau ym 1881, lle ddaeth yn fardd arobryn.<ref>''Y Genedl'', 21.2.1915, t.3; Gwefan Rootschat, [https://www.myheritage.com/names/annie_brunt], cyrchwyd 24.10.2022</ref>
Erbyn 1881, roedd John W. Roberts wedi priodi ag Elizabeth, ac yr oedd ganddynt ddau blentyn, Phyllis M. (g.1888); ac Edward J. (g.1890). Gwasanaethodd Edward yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gael ei gomisiynu'n swyddog,<ref>''Y Brython'', 28.6.1917, t.4</ref> ar ôl ennill gradd brifysgol. Cartref y teulu oedd 1 Rhes Pen-yr-orsedd ym mhentref [[Nantlle]]. Bu farw Elizabeth rywbryd rhwng 1891 a 1901, pan ddisgrifiwyd John W. Roberts fel gŵr gweddw. Erbyn 1911, fodd bynnag, roedd wedi ailbriodi â dynes o’r enw Catherine o Heneglwys, Môn, a oedd saith mlynedd yn iau nag ef.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1871-1911</ref> Gydol yr amser hwn roedd wedi bod yn gweithio fel chwarelwr yng nghwarel [[Chwarel Pen-yr-orsedd|Pen-yr-orsedd]], ac yr oedd yn ddigon amlwg  i gael ei ddewis ym 1915 yn un o ddau chwarelwr i gynrychioli’r chwarelwyr yn angladd Mrs Darbishire, gwraig y perchennog.<ref>''Y Genedl'', 27.7.1915, t.4</ref> Am gyfnod, ei bartner yn y chwarel oedd [[William Hughes (Glan Caeron)]] (1855-1926), nes i hwnnw ymfudo i’r Unol Daleithiau ym 1881, lle daeth yn fardd arobryn.<ref>''Y Genedl'', 21.2.1915, t.3; Gwefan Rootschat, [https://www.myheritage.com/names/annie_brunt], cyrchwyd 24.10.2022</ref>


Cafodd John W. Roberts brofedigaeth fawr ym 1917 pan fu farw ei wraig yn ei chwsg. Yr oedd hi wedi bod yn cadw Swyddfa’r Bost yn Nantlle am nifer o flynyddoedd, cyn farw’n ifanc yn 53 oed. Erbyn hynny, yr oedd John William a Catherine Roberts wedi symud o Res Pen-yr-orsedd i fferm fach Blaen-y-garth uwchben pentref Nantlle.
Cafodd John W. Roberts brofedigaeth fawr ym 1917 pan fu farw ei wraig yn ei chwsg. Roedd hi wedi bod yn cadw Swyddfa’r Post yn Nantlle am nifer o flynyddoedd, cyn marw’n ifanc yn 53 oed. Erbyn hynny, roedd John William a Catherine Roberts wedi symud o Res Pen-yr-orsedd i fferm fach Blaen-y-garth uwchben pentref Nantlle.


Dechreuodd John W. Roberts gymryd diddordeb mewn barddoniaeth yn ifanc, ac yn sicr erbyn y 1870au. Erbyn 1878 (os nad cyn hynny) yr oedd wedi ennill digon o enw iddo’i hun fel bardd i fentro mabwysiadu enw barddol, sef “Iolo Glan Twrog”. Y flwyddyn honno yr oedd yn un o nifer o feirdd a urddwyd yn aelodau o Orsedd Eisteddfod Gadeiriol Eryri yn ystod cyhoeddiad yr eisteddfod honno a gynhaliwyd flwyddyn yn ddiweddarach.<ref>Y Genedl Gymreig, 25.4.1878</ref> Dichon i hynny gynyddu ei amlygrwydd fel bardd, gan iddo dderbyn gwahoddiad i gyflwyno anerchiad barddonol mewn seremoni yng nghapel [[Capel Cesarea (MC), Y Fron| Cesarea]] ym 1879. <ref>''Y Genedl Gymreig'', 24.7.1879, t.6</ref>
Dechreuodd John W. Roberts gymryd diddordeb mewn barddoniaeth yn ifanc, ac yn sicr erbyn y 1870au. Erbyn 1878 (os nad cyn hynny) yr oedd wedi ennill digon o enw iddo’i hun fel bardd i fentro mabwysiadu enw barddol, sef “Iolo Glan Twrog”. Y flwyddyn honno roedd yn un o nifer o feirdd a urddwyd yn aelodau o Orsedd Eisteddfod Gadeiriol Eryri yn ystod seremoni cyhoeddi'r eisteddfod honno, a gynhaliwyd flwyddyn yn ddiweddarach.<ref>Y Genedl Gymreig, 25.4.1878</ref> Dichon i hynny gynyddu ei amlygrwydd fel bardd, gan iddo dderbyn gwahoddiad i gyflwyno anerchiad barddonol mewn seremoni yng nghapel [[Capel Cesarea (MC), Y Fron| Cesarea]] ym 1879. <ref>''Y Genedl Gymreig'', 24.7.1879, t.6</ref>


Ceir cyfeiriadau ato yn y papurau newydd yn ystod y 30 mlynedd canlynol, a hynny fel Iolo Glan Twrog, ond prin oedd ei ragoriaeth fel bardd mewn gwirionedd. Ymysg y darnau cyhoeddedig o’i waith, ceir fawr mwy na rhigymau digon syml heb gynnwys treiddgar. Mewn rhestr o feirdd [[Dyffryn Nantlle]] a osodwyd yn nhrefn eu sgiliau ac a gyhoeddwyd ym 1888, daeth Iolo Glan Twrog yn ddeunawfed allan o ddeunaw.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 8.2.1888, t.7</ref>
Ceir cyfeiriadau ato yn y papurau newydd yn ystod y 30 mlynedd canlynol, a hynny fel Iolo Glan Twrog, ond prin oedd ei ragoriaeth fel bardd mewn gwirionedd. Ymysg y darnau cyhoeddedig o’i waith, ni cheir fawr mwy na rhigymau digon syml heb gynnwys treiddgar iddynt. Mewn rhestr o feirdd [[Dyffryn Nantlle]], a osodwyd yn nhrefn eu doniau ac a gyhoeddwyd ym 1888, daeth Iolo Glan Twrog yn ddeunawfed allan o ddeunaw.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 8.2.1888, t.7</ref>


Er nad oedd ond yn fardd pur salw, yr oedd yn ddyn defnyddiol a gweithgar yn ei gymuned. Bu’n flaenor ac yn arweinydd y gân yng nghapel [[Capel Baladeulyn (MC), Nantlle|Baladeulyn]], ac yn barod ei gymwynas mewn cyfarfodydd cyhoeddus a chyfarfodydd megis y cylch llenyddol yn ei gapel.
Er nad oedd ond yn fardd pur salw, yr oedd yn ddyn defnyddiol a gweithgar yn ei gymuned. Bu’n flaenor ac yn arweinydd y gân yng nghapel [[Capel Baladeulyn (MC), Nantlle|Baladeulyn]], ac yn barod ei gymwynas mewn cyfarfodydd cyhoeddus a chyfarfodydd megis y cylch llenyddol yn ei gapel.

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:14, 25 Hydref 2022

Ganed John William Roberts (1858-1920<) yn y Tai Newyddion, Dolydd, ym mhlwyf Llanwnda, yn fab i William Roberts (g.1838) a hanai o Lanengan yn Llŷn, a’i wraig Jane, (g.1835 ym Motwnnog). John oedd y plentyn hynaf ond, yn y man, cafwyd nifer o blant eraill: Robert William (g.1860); Jane (g.1861); William William (g.1863); Hugh William (g.1865); a Richard William (g.1867).

Fe ymddengys i William Roberts symud gyda’i wraig a John William o Lanfihangel Bachellaeth i’r Dolydd i gael gwaith fel gwas ffarm.[1] Rywbryd tua 1868, mae’n debyg, symudodd y teulu a oedd, erbyn hynny, angen tŷ mwy – ac, mae’n debyg – cyflog gwell, i 7 Rhes Eryri, yn ardal Y Fron, Llandwrog. Erbyn 1871, roedd y tad yn gweithio fel labrwr yn y chwarel leol.

Erbyn 1881, roedd John W. Roberts wedi priodi ag Elizabeth, ac yr oedd ganddynt ddau blentyn, Phyllis M. (g.1888); ac Edward J. (g.1890). Gwasanaethodd Edward yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gael ei gomisiynu'n swyddog,[2] ar ôl ennill gradd brifysgol. Cartref y teulu oedd 1 Rhes Pen-yr-orsedd ym mhentref Nantlle. Bu farw Elizabeth rywbryd rhwng 1891 a 1901, pan ddisgrifiwyd John W. Roberts fel gŵr gweddw. Erbyn 1911, fodd bynnag, roedd wedi ailbriodi â dynes o’r enw Catherine o Heneglwys, Môn, a oedd saith mlynedd yn iau nag ef.[3] Gydol yr amser hwn roedd wedi bod yn gweithio fel chwarelwr yng nghwarel Pen-yr-orsedd, ac yr oedd yn ddigon amlwg i gael ei ddewis ym 1915 yn un o ddau chwarelwr i gynrychioli’r chwarelwyr yn angladd Mrs Darbishire, gwraig y perchennog.[4] Am gyfnod, ei bartner yn y chwarel oedd William Hughes (Glan Caeron) (1855-1926), nes i hwnnw ymfudo i’r Unol Daleithiau ym 1881, lle daeth yn fardd arobryn.[5]

Cafodd John W. Roberts brofedigaeth fawr ym 1917 pan fu farw ei wraig yn ei chwsg. Roedd hi wedi bod yn cadw Swyddfa’r Post yn Nantlle am nifer o flynyddoedd, cyn marw’n ifanc yn 53 oed. Erbyn hynny, roedd John William a Catherine Roberts wedi symud o Res Pen-yr-orsedd i fferm fach Blaen-y-garth uwchben pentref Nantlle.

Dechreuodd John W. Roberts gymryd diddordeb mewn barddoniaeth yn ifanc, ac yn sicr erbyn y 1870au. Erbyn 1878 (os nad cyn hynny) yr oedd wedi ennill digon o enw iddo’i hun fel bardd i fentro mabwysiadu enw barddol, sef “Iolo Glan Twrog”. Y flwyddyn honno roedd yn un o nifer o feirdd a urddwyd yn aelodau o Orsedd Eisteddfod Gadeiriol Eryri yn ystod seremoni cyhoeddi'r eisteddfod honno, a gynhaliwyd flwyddyn yn ddiweddarach.[6] Dichon i hynny gynyddu ei amlygrwydd fel bardd, gan iddo dderbyn gwahoddiad i gyflwyno anerchiad barddonol mewn seremoni yng nghapel Cesarea ym 1879. [7]

Ceir cyfeiriadau ato yn y papurau newydd yn ystod y 30 mlynedd canlynol, a hynny fel Iolo Glan Twrog, ond prin oedd ei ragoriaeth fel bardd mewn gwirionedd. Ymysg y darnau cyhoeddedig o’i waith, ni cheir fawr mwy na rhigymau digon syml heb gynnwys treiddgar iddynt. Mewn rhestr o feirdd Dyffryn Nantlle, a osodwyd yn nhrefn eu doniau ac a gyhoeddwyd ym 1888, daeth Iolo Glan Twrog yn ddeunawfed allan o ddeunaw.[8]

Er nad oedd ond yn fardd pur salw, yr oedd yn ddyn defnyddiol a gweithgar yn ei gymuned. Bu’n flaenor ac yn arweinydd y gân yng nghapel Baladeulyn, ac yn barod ei gymwynas mewn cyfarfodydd cyhoeddus a chyfarfodydd megis y cylch llenyddol yn ei gapel.

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanwnda, 1861
  2. Y Brython, 28.6.1917, t.4
  3. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1871-1911
  4. Y Genedl, 27.7.1915, t.4
  5. Y Genedl, 21.2.1915, t.3; Gwefan Rootschat, [1], cyrchwyd 24.10.2022
  6. Y Genedl Gymreig, 25.4.1878
  7. Y Genedl Gymreig, 24.7.1879, t.6
  8. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7