O. Llew Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 9: Llinell 9:
* Bu’n arwain cymanfaoedd canu ar hyd a lled y wlad ac yn Lloegr.
* Bu’n arwain cymanfaoedd canu ar hyd a lled y wlad ac yn Lloegr.
* Hyfforddodd lawer o gerddorion a bu’n beirniadu cerddoriaeth mewn cannoedd o eisteddfodau.  
* Hyfforddodd lawer o gerddorion a bu’n beirniadu cerddoriaeth mewn cannoedd o eisteddfodau.  
* Roedd ganddo gôr bychan —''[[Côr y Delyn Aur]]''.
* Roedd ganddo gôr bychan —''Côr y Delyn Aur''.<ref>Er gwaethaf chwilota ym mhapurau newydd y cyfnod, ni chafwyd unrhyw wybodaeth am y côr hwn, na'i leoliad. Efallai mai côr yn ardal Caernarfon ydoedd.</ref>
* Ysgrifennydd Clwb Awen a Chân yng Nghaernarfon ac un o’i sylfaenwyr.  
* Ysgrifennydd Clwb Awen a Chân yng Nghaernarfon ac un o’i sylfaenwyr.  
* Cymerai ddiddordeb mawr yn Urdd Gobaith Cymru yng Nghaernarfon.  
* Cymerai ddiddordeb mawr yn Urdd Gobaith Cymru yng Nghaernarfon.  

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:49, 20 Tachwedd 2022

Yr oedd Owain Llywelyn Owain (sef O. Llew Owain) (1877-1956) yn llenor, cerddor a newyddiadurwr.

Ganed ym Mlaenyryrfa, Tal-y-sarn ar 3 Gorffennaf 1877

  • Yn 12 oed aeth i weithio i chwarel y Gloddfa Glai a Chwarel Cornwall ar ôl hynny.
  • Yn 15 oed dechreuodd ar yrfa mewn newyddiaduraeth a bu’n aelod o staff golygyddol Y Genedl Gymreig a’r Herald wedi uno’r ddau bapur.
  • Ymddeolodd ym1936 ond parhaodd i gyfrannu i’r wasg.
  • Yn eisteddfodwr brwd, bu'n cystadlu mewn llawer o eisteddfodau lleol ar draws y Gogledd, gan ennill ym meysydd cerddoriaeth a rhyddiaith, cyn troi at feirniadu, eto yn y ddau faes.[1]
  • Yr oedd yn feilinydd medrus a berfformiai'n aml mewn cyngherddau lleol
  • Bu’n arwain cymanfaoedd canu ar hyd a lled y wlad ac yn Lloegr.
  • Hyfforddodd lawer o gerddorion a bu’n beirniadu cerddoriaeth mewn cannoedd o eisteddfodau.
  • Roedd ganddo gôr bychan —Côr y Delyn Aur.[2]
  • Ysgrifennydd Clwb Awen a Chân yng Nghaernarfon ac un o’i sylfaenwyr.
  • Cymerai ddiddordeb mawr yn Urdd Gobaith Cymru yng Nghaernarfon.

• Awdur cofiannau fel: Fanny Jones (1907); Ieuan Twrog (1909); J.O. Jones (Ap Ffarmwr) (1912); T.E. Ellis (1916); Anthropos a Chlwb Awen a Chân (1946); a Bywyd a gwaith ac arabedd Anthropos (1953)

  • Awdur nifer o erthyglau yn Y Traethodydd a’r Drysorfa.
  • Awdur Hanes y Ddrama yng Nghymru 1850-1943 (1948)
  • Priododd Claudia Roberts ym 1916. Wedi iddi hi farw ym 1918, ailbriododd ag Enid May Jones o'r Felinheli ym 1921. Bu farw yn eu cartref, Bryn-y-coed, 10 Pretoria Avenue, Caernarfon, 8 Ionawr 1956.[3]

Amlosgwyd ei weddillion ym Mhenbedw.[4]


Troednodiadau

  1. Cyfeiriadau lluosog mewn papurau newydd a ganfyddwyd ym mynegai papurau newydd LlGC
  2. Er gwaethaf chwilota ym mhapurau newydd y cyfnod, ni chafwyd unrhyw wybodaeth am y côr hwn, na'i leoliad. Efallai mai côr yn ardal Caernarfon ydoedd.
  3. Nid oes stryd o’r enw hwn yng Nghaernarfon bellach ond ceir Rhes Pretoria yno.
  4. Crynhowyd o’r Bywgraffiadur Cymreig (awdur Evan David Jones, FSA, Aberystwyth).