Pont Mur-y-goeden: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif '''Pont Mur-y-goeden''' ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai yn y man lle mae'r ffordd i Ben Llŷn yn croesi o blwyf Llanaelhaearn i hen blwyf Carnguwch...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Saif '''Pont Mur-y-goeden''' ar ffin cwmwd [[Uwchgwyrfai]] yn y man lle mae'r ffordd i Ben Llŷn yn croesi o blwyf [[Llanaelhaearn]] i hen blwyf Carnguwch, ger [[Bwlch Siwncwl]] rhwng [[Yr Eifl]] a Mynydd Carnguwch. Nid oes sicrwydd ynglŷn ag oedran y bont ond mae'n debygol o fod yn bur hen gan ei fod yn rhannu rhai o nodweddion hen bontydd Llŷn ag Eifionydd gyda sarnau ar bob pen. Mae'n cael ei henw o hen fwthyn Mur-y-goeden a safai ar ochr y lôn gerllaw.
Saif '''Pont Mur-y-goeden''' ar ffin cwmwd [[Uwchgwyrfai]] yn y man lle mae'r ffordd i Lŷn yn croesi o blwyf [[Llanaelhaearn]] i hen blwyf Carnguwch, ger [[Bwlch Siwncwl]] rhwng [[Yr Eifl]] a Mynydd Carnguwch. Mae'n nodi'r ffin rhwng plwyf [[Llanaelhaearn]] a phlwyf Carnguwch (sydd bellach wedi uno â phlwyf Pistyll, a chario enw Pistyll wedi'r uniad). Mae hefyd yn nodi'r ffin rhwng Cwmwd [[Uwchgwyrfai]] a Chwmwd Din-lläen, a thrwy hynny'r ffin rhwng Cantref Arfon a Chantref Llŷn yn ogystal. Nid oes sicrwydd ynglŷn ag oedran y bont ond mae'n debygol o fod yn bur hen gan ei bod yn rhannu rhai o nodweddion hen bontydd Llŷn ac Eifionydd gyda sarnau ar bob pen.
 
Daw enw'r bont o enw'r tyddyn bychan gerllaw, sef Mur y Goeden. Yno, ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y trigai Thomas Williams a oedd yn fasnachwr prysur i boblogaeth amaethyddol y ddwy ochr i'r Eifl. Gwelir ei adfeilion yn amlwg o hyd a bu'n cael ei ddefnyddio fel cwt ieir hyd yn gymharol ddiweddar.


[[Categori:Pontydd]]
[[Categori:Pontydd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:37, 9 Ionawr 2024

Saif Pont Mur-y-goeden ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai yn y man lle mae'r ffordd i Lŷn yn croesi o blwyf Llanaelhaearn i hen blwyf Carnguwch, ger Bwlch Siwncwl rhwng Yr Eifl a Mynydd Carnguwch. Mae'n nodi'r ffin rhwng plwyf Llanaelhaearn a phlwyf Carnguwch (sydd bellach wedi uno â phlwyf Pistyll, a chario enw Pistyll wedi'r uniad). Mae hefyd yn nodi'r ffin rhwng Cwmwd Uwchgwyrfai a Chwmwd Din-lläen, a thrwy hynny'r ffin rhwng Cantref Arfon a Chantref Llŷn yn ogystal. Nid oes sicrwydd ynglŷn ag oedran y bont ond mae'n debygol o fod yn bur hen gan ei bod yn rhannu rhai o nodweddion hen bontydd Llŷn ac Eifionydd gyda sarnau ar bob pen.

Daw enw'r bont o enw'r tyddyn bychan gerllaw, sef Mur y Goeden. Yno, ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y trigai Thomas Williams a oedd yn fasnachwr prysur i boblogaeth amaethyddol y ddwy ochr i'r Eifl. Gwelir ei adfeilion yn amlwg o hyd a bu'n cael ei ddefnyddio fel cwt ieir hyd yn gymharol ddiweddar.