Rheilffordd a Harbwr Dyffryn Llyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Rheilffordd a Harbwr Dyffryn Llyfni''' (''The Llyfni Vale Railway & Harbour'') yn gynllun nas gwireddwyd i gludo llechi o chwareli Dyffryn Nant...'
 
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Rheilffordd a Harbwr Dyffryn Llyfni''' (''The Llyfni Vale Railway & Harbour'') yn gynllun nas gwireddwyd i gludo llechi o chwareli [[Dyffryn Nantlle]] at y môr gan osgoi defnyddio harbwr Caernarfon trwy greu siwrne lai ar hyd cledrau at lan y môr ym [[Pontlyfni|Mhontlyfni]].Y pryd hynny, sef tua diwedd y 1850au, roedd nifer o gynlluniau ar droed i ddod â chledrau lled safonol trwy [[Uwchgwyrfai]] ac Eifionydd i gysylltu’r lein o Fangor I Gaernarfon gyda rheilffyrdd arfordir Bae Ceredigion.
Roedd '''Rheilffordd a Harbwr Dyffryn Llyfni''' (''The Llyfni Vale Railway & Harbour'') yn gynllun nas gwireddwyd i gludo llechi o chwareli [[Dyffryn Nantlle]] at y môr gan osgoi defnyddio harbwr Caernarfon trwy greu siwrnai fyrrach ar hyd cledrau at lan y môr ym [[Pontlyfni|Mhontlyfni]].Y pryd hynny, sef tua diwedd y 1850au, roedd nifer o gynlluniau ar droed i ddod â chledrau lled safonol trwy [[Uwchgwyrfai]] ac Eifionydd i gysylltu’r lein o Fangor i Gaernarfon gyda rheilffyrdd arfordir Bae Ceredigion.


Yr awgrym oedd defnyddio traciau [[Rheilffordd Nantlle]] o’r chwareli hyd [[Pen-y-groes]], lle byddai lein newydd yn cychwyn ar hyd [[Afon Llyfni]] i harbwr newydd sbon i’w godi ym Montlyfni. Enw’r harbwr hwnnw fyddai “Port Newborough”. Mae’n debyg mai lein 3’ 6” o led rhwng y cledrau oedd dan sylw, gyda’r trenau wedi eu tynnu, mae’n debyg, gan geffylau. Cysyniad costus ydoedd, felly, ond yn defnyddio technoleg hen ffasiwn.  
Yr awgrym oedd defnyddio traciau [[Rheilffordd Nantlle]] o’r chwareli hyd [[Pen-y-groes]], lle byddai lein newydd yn cychwyn ar hyd [[Afon Llyfni]] i harbwr newydd sbon i’w godi ym Mhontlyfni. Enw’r harbwr hwnnw fyddai “Port Newborough”. Mae’n debyg mai lein 3’ 6” o led rhwng y cledrau oedd dan sylw, gyda’r trenau'n cael eu tynnu gan geffylau mae'n debyg. Cysyniad costus ydoedd, felly, ond yn defnyddio technoleg hen ffasiwn.  


Codwyd llawer o wrthwynebiad i’r holl syniad pan aeth y mesur preifat o flaen y Senedd yn San Steffan fis Chwefror 1859. Roedd ymddiriedolwyr Harbwr Caernarfon a chwmni Rheilffordd Nantlle yn daer yn eu gwrthwynebiad, a gwrthodwyd y mesur gan y Senedd. Ail-godwyd y syniad ym mis Tachwedd 1859, ond unwaith eto fe’i gwrthodwyd - a dyna oedd diwedd y mater.
Cododd llawer o wrthwynebiad i’r holl syniad pan aeth y mesur preifat o flaen y Senedd yn San Steffan fis Chwefror 1859. Roedd ymddiriedolwyr Harbwr Caernarfon a chwmni Rheilffordd Nantlle yn daer yn eu gwrthwynebiad, a gwrthodwyd y mesur gan y Senedd. Ail-godwyd y syniad ym mis Tachwedd 1859, ond unwaith eto fe’i gwrthodwyd - a dyna oedd diwedd y mater.


Dichon mai ffordd o danseilio Rheilffordd Nantlle a gludai’r llechi ar hyd lein hirach na’r hyn a fwriadwyd yn y cynllun hwn oedd y tu ôl i’r syniad, ac efallai na fwriadwyd iddo erioed gael ei wireddu. Awgryma J.I.C. Boyd mai dyfais i gael cwmni [[Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR)]] i ddatgan beth oedd eu cynlluniau yn yr ardal oedd y cwbl.<ref> J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.33-4.</ref>
Dichon mai ffordd o danseilio Rheilffordd Nantlle a gludai’r llechi ar hyd lein hirach na’r hyn a fwriadwyd yn y cynllun hwn oedd y tu ôl i’r syniad, ac efallai na fwriadwyd iddo erioed gael ei wireddu. Awgryma J.I.C. Boyd mai dyfais i gael cwmni [[Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR)]] i ddatgan beth oedd eu cynlluniau yn yr ardal oedd y cwbl.<ref> J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.33-4.</ref>


Mae planiau’r lein arfaethedig i’w gweld yn yr archifdy yng Nghaernarfon.
Mae cynlluniau’r lein arfaethedig i’w gweld yn yr archifdy yng Nghaernarfon.
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
[[Categori:Rheilffyrdd]]
[[Categori:Rheilffyrdd]]
[[Categori:Cludiant]]
[[Categori:Cludiant]]
[[Categori:Harbyrau a glanfeydd]]
[[Categori:Harbyrau a glanfeydd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:13, 14 Mehefin 2022

Roedd Rheilffordd a Harbwr Dyffryn Llyfni (The Llyfni Vale Railway & Harbour) yn gynllun nas gwireddwyd i gludo llechi o chwareli Dyffryn Nantlle at y môr gan osgoi defnyddio harbwr Caernarfon trwy greu siwrnai fyrrach ar hyd cledrau at lan y môr ym Mhontlyfni.Y pryd hynny, sef tua diwedd y 1850au, roedd nifer o gynlluniau ar droed i ddod â chledrau lled safonol trwy Uwchgwyrfai ac Eifionydd i gysylltu’r lein o Fangor i Gaernarfon gyda rheilffyrdd arfordir Bae Ceredigion.

Yr awgrym oedd defnyddio traciau Rheilffordd Nantlle o’r chwareli hyd Pen-y-groes, lle byddai lein newydd yn cychwyn ar hyd Afon Llyfni i harbwr newydd sbon i’w godi ym Mhontlyfni. Enw’r harbwr hwnnw fyddai “Port Newborough”. Mae’n debyg mai lein 3’ 6” o led rhwng y cledrau oedd dan sylw, gyda’r trenau'n cael eu tynnu gan geffylau mae'n debyg. Cysyniad costus ydoedd, felly, ond yn defnyddio technoleg hen ffasiwn.

Cododd llawer o wrthwynebiad i’r holl syniad pan aeth y mesur preifat o flaen y Senedd yn San Steffan fis Chwefror 1859. Roedd ymddiriedolwyr Harbwr Caernarfon a chwmni Rheilffordd Nantlle yn daer yn eu gwrthwynebiad, a gwrthodwyd y mesur gan y Senedd. Ail-godwyd y syniad ym mis Tachwedd 1859, ond unwaith eto fe’i gwrthodwyd - a dyna oedd diwedd y mater.

Dichon mai ffordd o danseilio Rheilffordd Nantlle a gludai’r llechi ar hyd lein hirach na’r hyn a fwriadwyd yn y cynllun hwn oedd y tu ôl i’r syniad, ac efallai na fwriadwyd iddo erioed gael ei wireddu. Awgryma J.I.C. Boyd mai dyfais i gael cwmni Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR) i ddatgan beth oedd eu cynlluniau yn yr ardal oedd y cwbl.[1]

Mae cynlluniau’r lein arfaethedig i’w gweld yn yr archifdy yng Nghaernarfon.

Cyfeiriadau

  1. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.33-4.