John Williams (J.W. Llundain): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Masnachwr llechi a golygydd papur newydd oedd '''John Williams''' (1872-1944).
Masnachwr llechi a golygydd papur newydd oedd '''John Williams''' (1872-1944).

Ganwyd John Williams yn Nhŷ’r Capel, Rhostryfan ym 1872. Roedd yn frawd i'r hanesydd lleol, [[W. Gilbert Williams]].  
Ganwyd John Williams yn Nhŷ’r Capel, [[Rhostryfan]] ym 1872. Roedd yn frawd i'r hanesydd lleol, [[W. Gilbert Williams]].  

Dechreuodd weithio yn [[Chwarel y Braich]] cyn mudo i Lerpwl. Gweithiodd fel clerc i adeiladwr am gyfnod, cyn symud wedyn i Lundain. Gweithiodd yno fel goruchwyliwr busnes llechi a gwaith toi. Priododd â Margaret Jane, ail ferch Edward Lloyd, Pen-y-fron, Dinbych. Ganwyd iddynt ddwy ferch a dau fab.

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:47, 6 Mehefin 2022

Masnachwr llechi a golygydd papur newydd oedd John Williams (1872-1944).

Ganwyd John Williams yn Nhŷ’r Capel, Rhostryfan ym 1872. Roedd yn frawd i'r hanesydd lleol, W. Gilbert Williams.

Dechreuodd weithio yn Chwarel y Braich cyn mudo i Lerpwl. Gweithiodd fel clerc i adeiladwr am gyfnod, cyn symud wedyn i Lundain. Gweithiodd yno fel goruchwyliwr busnes llechi a gwaith toi. Priododd â Margaret Jane, ail ferch Edward Lloyd, Pen-y-fron, Dinbych. Ganwyd iddynt ddwy ferch a dau fab.

Ym Medi 1923, dechreuodd gwmni masnachu defnyddiau toi ei hun, gyda’i fab hynaf yn glerc. Bu'n brysur oherwydd yr angen i adeiladu rhwng y ddau ryfel byd.

Nid masnachu oedd unig waith y gŵr yma. Roedd yn gyfrifol am olygu papur newydd ‘Y Ddolen’ – sef papur Cymraeg Llundain, ac roedd yn darlithio i gymdeithasau amrywiol ac yn cyfrannu erthyglau'n gyson i bapur newydd ‘Y Brython’. Cyhoeddodd ei hunangofiant ym 1943 – Hynt Gwerinwr (ceir rhagor o fanylion amdano yn yr erthygl honno yn Cof y Cwmwd). Yn ei flynyddoedd olaf symudodd i fyw o Lundain i Gwynfa, Llandwrog ac yno y bu'n trigo hyd ei farwolaeth ym 1944.[1]

Cyfeiriadau