Brian Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Hugh Brian Owen''' (1935-2014), Cefn Rhos, [[Y Groeslon]], yn adroddwr arobryn a enillodd yn aml mewn eisteddfodau. Mab ydoedd i John Henry a Nellie Owen, Rhiwenfa, er iddo gael ei fagu gan ei nain a'i daid yng Nghefn Rhos.  
Roedd '''Hugh Brian Owen''' (1935-2014), Cefn Rhos, [[Y Groeslon]], yn adroddwr o fri a enillodd lu o wobrau mewn eisteddfodau. Mab ydoedd i John Henry a Nellie Owen, Rhiwenfa, er iddo gael ei fagu gan ei nain a'i daid yng Nghefn Rhos.  


Enillodd bum gwaith yn Eisteddfod Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid, a derbyn cwpan aur. Erbyn Eisteddfod Genedlaethol y Drenewydd, 1965, roedd wedi ennill y gystadleuaeth adrodd i ddynion dros 25 oed bump o weithiau. Cafodd ei hyfforddi gan y Dr [[John Gwilym Jones]]. Ym 1961, enillodd y Rhuban Glas i Adroddwyr, sydd ond yn agored i enillwyr y categorïau adrodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd Wobr Goffa Llwyd o'r Bryn ddwywaith, sef y brif wobr am adrodd neu lefaru, a hynny ddwywaith, ym 1965 a 1968, un o ddim ond tri i gyflawni'r gamp honno - y lleill oedd Stewart Jones yr actor a Siân Teifi.<ref>''Daily Post'', 16.07.2008 [https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/book-launch-remembers-recitation-champion-2826188], cyrchwyd 09.05.2022</ref>
Enillodd bum gwaith yn Eisteddfod Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid, a derbyn cwpan aur. Erbyn Eisteddfod Genedlaethol Y Drenewydd, 1965, roedd wedi ennill y gystadleuaeth adrodd i ddynion dros 25 oed bump o weithiau. Cafodd ei hyfforddi gan Dr [[John Gwilym Jones]]. Ym 1961, enillodd y Rhuban Glas i Adroddwyr, sydd ond yn agored i enillwyr y categorïau adrodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd Wobr Goffa Llwyd o'r Bryn, y brif wobr am adrodd neu lefaru, ddwywaith, sef ym 1965 a 1968. Roedd yn un o ddim ond tri sydd wedi cyflawni'r gamp honno - y lleill oedd Stewart Jones yr actor a Siân Teifi.<ref>''Daily Post'', 16.07.2008 [https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/book-launch-remembers-recitation-champion-2826188], cyrchwyd 09.05.2022</ref>


Roedd yn adroddwr poblogaidd hefyd mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Cyhoeddwyd record gan Recordiau'r Dryw ohono'n adrodd.<ref>‘’Hanes y Groeslon’’, (Caernarfon, 2000), t.115</ref>
Roedd yn adroddwr poblogaidd hefyd mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Cyhoeddwyd record ohono'n adrodd gan Recordiau'r Dryw.<ref>‘’Hanes y Groeslon’’, (Caernarfon, 2000), t.115</ref>


Bu farw yn ystod Rhagfyur 2014 yn 79 oed.
Bu farw yn ystod Rhagfyr 2014 yn 79 oed.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:32, 10 Mai 2022

Roedd Hugh Brian Owen (1935-2014), Cefn Rhos, Y Groeslon, yn adroddwr o fri a enillodd lu o wobrau mewn eisteddfodau. Mab ydoedd i John Henry a Nellie Owen, Rhiwenfa, er iddo gael ei fagu gan ei nain a'i daid yng Nghefn Rhos.

Enillodd bum gwaith yn Eisteddfod Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid, a derbyn cwpan aur. Erbyn Eisteddfod Genedlaethol Y Drenewydd, 1965, roedd wedi ennill y gystadleuaeth adrodd i ddynion dros 25 oed bump o weithiau. Cafodd ei hyfforddi gan Dr John Gwilym Jones. Ym 1961, enillodd y Rhuban Glas i Adroddwyr, sydd ond yn agored i enillwyr y categorïau adrodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd Wobr Goffa Llwyd o'r Bryn, y brif wobr am adrodd neu lefaru, ddwywaith, sef ym 1965 a 1968. Roedd yn un o ddim ond tri sydd wedi cyflawni'r gamp honno - y lleill oedd Stewart Jones yr actor a Siân Teifi.[1]

Roedd yn adroddwr poblogaidd hefyd mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Cyhoeddwyd record ohono'n adrodd gan Recordiau'r Dryw.[2]

Bu farw yn ystod Rhagfyr 2014 yn 79 oed.

Cyfeiriadau

  1. Daily Post, 16.07.2008 [1], cyrchwyd 09.05.2022
  2. ‘’Hanes y Groeslon’’, (Caernarfon, 2000), t.115