Antony Armstrong-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Heulfryn y dudalen Anthony Armstrong-Jones i Antony Armstrong-Jones
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Antony Armstrong-Jones''', y ffotograffydd a briododd y Dywysoges Margaret, yn ddisgynnydd i'r teulu Roberts a fu'n byw ym [[Plas Dinas|Mhlas Dinas]], [[Y Bontnewydd]] yn y 19g. Fe'i penodwyd yn Iarll Yr Wyddfa yn dilyn ei briodas. Trwy briodas, yr oedd ei daid, y seiciatrydd Robert Armstrong-Jones, wedi etifeddu'r ystad fechan a'r plas. Er nad oedd o erioed wedi byw yno ar wahân am gyfnodau pan oedd ar ei wyliau'n blentyn, arddelai Antony ei gysylltiad teuluol â'r ardal, a defnyddiodd y plas fel llety disylw ar gyfer gwyliau gyda'i wraig y Dywysoges. Yn wir, bu rhai coeglyd eu natur yn cyfeirio at honno fel "Magi'r Bont" oherwydd y cysylltiad. Ail-briododd wedi iddo fo a'r Dywysoges ysgaru.
Roedd '''Antony Armstrong-Jones''', y ffotograffydd a briododd y Dywysoges Margaret, yn ddisgynnydd i'r teulu Roberts a fu'n byw ym [[Plas Dinas|Mhlas Dinas]], [[Y Bontnewydd]] yn y 19g. Fe'i penodwyd yn Iarll Yr Wyddfa yn dilyn ei briodas. Trwy briodas, yr oedd ei daid, y seiciatrydd Robert Armstrong-Jones, wedi etifeddu'r ystad fechan a'r plas. Er nad oedd o erioed wedi byw yno, ar wahân i gyfnodau pan oedd ar ei wyliau'n blentyn, arddelai Antony ei gysylltiad teuluol â'r ardal, a defnyddiodd y plas fel llety disylw ar gyfer gwyliau gyda'i wraig y Dywysoges. Yn wir, bu rhai coeglyd eu natur yn cyfeirio at honno fel "Magi'r Bont" oherwydd y cysylltiad. Ail-briododd wedi iddo fo a'r Dywysoges ysgaru.

Oherwydd ei gysylltiadau brenhinol a'r ffaith ei fod yn gweithio ym maes y celfyddydau gweledol, fe'i rhoddwyd yn gyfrifol am addurno Castell Caernarfon ym 1969 ar gyfer sioe yr arwisgiad. Dros y blynyddoedd, cymerodd ran mewn rhai o'r dadleuon yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac fe'i penodwyd yn farwn am oes er mwyn iddo gael parhau yn y rôl honno wedi i arglwyddi etifeddol golli eu hawl awtomatig i eistedd yn y Tŷ. Cafodd nifer o anrhydeddau, a bu'n weithgar ar rai cyrff Cymreig megis Cwmni Thetar Cymru (Saesneg) ac Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru.
Oherwydd ei gysylltiadau brenhinol a'r ffaith ei fod yn gweithio ym maes y celfyddydau gweledol, fe'i rhoddwyd yn gyfrifol am addurno Castell Caernarfon ym 1969 ar gyfer sioe yr arwisgiad. Dros y blynyddoedd, cymerodd ran mewn rhai o'r dadleuon yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac fe'i penodwyd yn farwn am oes er mwyn iddo gael parhau yn y swyddogaeth honno wedi i arglwyddi etifeddol golli eu hawl awtomatig i eistedd yn y Tŷ. Cafodd nifer o anrhydeddau, a bu'n weithgar ar rai cyrff Cymreig megis Cwmni Theatr Cymru (Saesneg) ac Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru.

Bu farw yn 2017 a'i gladdu ym mynwent Llanfaglan.<ref>Wikipedia, erthygl ar Antony Armstrong-Jones, [https://en.wikipedia.org/wiki/Antony_Armstrong-Jones,_1st_Earl_of_Snowdon], cyrchwyd 04.05.2022]</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:20, 10 Mai 2022

Roedd Antony Armstrong-Jones, y ffotograffydd a briododd y Dywysoges Margaret, yn ddisgynnydd i'r teulu Roberts a fu'n byw ym Mhlas Dinas, Y Bontnewydd yn y 19g. Fe'i penodwyd yn Iarll Yr Wyddfa yn dilyn ei briodas. Trwy briodas, yr oedd ei daid, y seiciatrydd Robert Armstrong-Jones, wedi etifeddu'r ystad fechan a'r plas. Er nad oedd o erioed wedi byw yno, ar wahân i gyfnodau pan oedd ar ei wyliau'n blentyn, arddelai Antony ei gysylltiad teuluol â'r ardal, a defnyddiodd y plas fel llety disylw ar gyfer gwyliau gyda'i wraig y Dywysoges. Yn wir, bu rhai coeglyd eu natur yn cyfeirio at honno fel "Magi'r Bont" oherwydd y cysylltiad. Ail-briododd wedi iddo fo a'r Dywysoges ysgaru.

Oherwydd ei gysylltiadau brenhinol a'r ffaith ei fod yn gweithio ym maes y celfyddydau gweledol, fe'i rhoddwyd yn gyfrifol am addurno Castell Caernarfon ym 1969 ar gyfer sioe yr arwisgiad. Dros y blynyddoedd, cymerodd ran mewn rhai o'r dadleuon yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac fe'i penodwyd yn farwn am oes er mwyn iddo gael parhau yn y swyddogaeth honno wedi i arglwyddi etifeddol golli eu hawl awtomatig i eistedd yn y Tŷ. Cafodd nifer o anrhydeddau, a bu'n weithgar ar rai cyrff Cymreig megis Cwmni Theatr Cymru (Saesneg) ac Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru.

Bu farw yn 2017 a'i gladdu ym mynwent Llanfaglan.[1]

  1. Wikipedia, erthygl ar Antony Armstrong-Jones, [1], cyrchwyd 04.05.2022]