Karen Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bardd, newyddiadurwr, darllenwraig a gweinidog yw '''Karen Owen'''. Cafodd ei magu ym Mhen-y-groes ac mae hi’n dal i fyw yno. Ar ôl dyd...'
 
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Bardd, newyddiadurwr, darllenwraig a gweinidog yw '''Karen Owen'''. Cafodd ei magu ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]] ac mae hi’n dal i fyw yno. Ar ôl dyddiau ysgol yn [[Ysgol Gynradd Pen-y-groes]] ac [[Ysgol Dyffryn Nantlle]], aeth ymlaen i Brifysgol Bangor, lle astudiodd fathemateg. Serch natur ei gradd, penderfynodd ddilyn yrfa ym maes newyddiaduraeth, gan ymuno â staff ''Golwg'' fel gohebydd y celfyddydau; o 2000 hyd 2007 hi oedd golygydd ''Golwg''. Am dair blynedd wedyn, bu’n gynhyrchydd rhaglenni celfyddydol gyda’r BBC. Yn 2010, trodd yn ôl at newyddiaduraeth brint trwy dderbyn swydd gyda’r ''Cymro'' a gweithio fel awdures lawrydd.
Bardd, newyddiadurwr, darlledwraig a gweinidog yw '''Karen Owen'''. Cafodd ei magu ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]] ac mae’n dal i fyw yno. Ar ôl dyddiau ysgol yn [[Ysgol Gynradd Pen-y-groes]] ac [[Ysgol Dyffryn Nantlle]], aeth ymlaen i Brifysgol Bangor, lle astudiodd fathemateg. Serch natur ei gradd, penderfynodd ddilyn gyrfa ym maes newyddiaduraeth, gan ymuno â staff ''Golwg'' fel gohebydd y celfyddydau; o 2000 hyd 2007 hi oedd golygydd ''Golwg''. Am dair blynedd wedyn, bu’n gynhyrchydd rhaglenni celfyddydol gyda’r BBC. Yn 2010, trodd yn ôl at newyddiaduraeth brint trwy dderbyn swydd gyda’r ''Cymro'' a gweithio fel awdures lawrydd.


Fel bardd, mae hi wedi cyhoeddi ''Yn Fy Lle'' yn 2006 a ''Siarad Trwy’i Het'' yn 2011, y ddwy gyfrol wedi’u cyhoeddi gan Wasg Barddas; a ''Glaniad'' (ar y cyd â Mererid Hopwood) yn 2015. Bu’n athrawes ar sawl dosbarth cynghanedd. Mae hi hefyd wedi ennill nifer o gadeiriau eisteddfodol. Enillodd ysgoloriaeth Winston Churchill yn 2011 er mwyn gallu teithio dramor i ystyried traddodiadau sawl gwlad, yn cynnwys Colombia, India, Wcráin a De Affrica. Yn 2014-15, fe dreuliodd hanner blwyddyn yn byw yn Fienna’n darlithio ar Lenyddiaeth Cymru yn y brifysgol yno, ac yn byw mewn cwfaint dinesig.<ref>Gwefan Merched Chwarel, [https://www.merchedchwarel.org/karen-owen]; Gwefan Cyfnewidfa Lên Cymru, [https://waleslitexchange.org/authors/owen-karen]], cyrchwyd 21.04.2022</ref>  
Fel bardd, mae wedi cyhoeddi ''Yn Fy Lle'' yn 2006 a ''Siarad Trwy’i Het'' yn 2011, y ddwy gyfrol wedi’u cyhoeddi gan Wasg Barddas; a ''Glaniad'' (ar y cyd â Mererid Hopwood) yn 2015. Bu’n athrawes ar sawl dosbarth cynganeddu. Mae hefyd wedi ennill nifer o gadeiriau eisteddfodol. Enillodd ysgoloriaeth Winston Churchill yn 2011 er mwyn gallu teithio dramor i ystyried traddodiadau sawl gwlad, yn cynnwys Colombia, India, Wcráin a De Affrica. Yn 2014-15, treuliodd hanner blwyddyn yn byw yn Fienna’n darlithio ar Lenyddiaeth Cymru yn y brifysgol yno, gan aros mewn cwfaint dinesig.<ref>Gwefan Merched Chwarel, [https://www.merchedchwarel.org/karen-owen]; Gwefan Cyfnewidfa Lên Cymru, [https://waleslitexchange.org/authors/owen-karen]], cyrchwyd 21.04.2022</ref>  


Yn 2020, ar ôl nifer o flynyddoedd yn pregethu, derbyniodd alwad i’r weinidogaeth fel gweinidog eglwysi [[Capel y Groes (MC), Pen-y-groes]] a [[Capel Soar (A), Pen-y-groes|Chapel Soar (A), Pen-y-groes]].
Yn 2020, ar ôl nifer o flynyddoedd yn pregethu, derbyniodd alwad i’r weinidogaeth fel gweinidog eglwysi [[Capel y Groes (MC), Pen-y-groes]] a [[Capel Soar (A), Pen-y-groes|Chapel Soar (A), Pen-y-groes]].

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:33, 30 Ebrill 2022

Bardd, newyddiadurwr, darlledwraig a gweinidog yw Karen Owen. Cafodd ei magu ym Mhen-y-groes ac mae’n dal i fyw yno. Ar ôl dyddiau ysgol yn Ysgol Gynradd Pen-y-groes ac Ysgol Dyffryn Nantlle, aeth ymlaen i Brifysgol Bangor, lle astudiodd fathemateg. Serch natur ei gradd, penderfynodd ddilyn gyrfa ym maes newyddiaduraeth, gan ymuno â staff Golwg fel gohebydd y celfyddydau; o 2000 hyd 2007 hi oedd golygydd Golwg. Am dair blynedd wedyn, bu’n gynhyrchydd rhaglenni celfyddydol gyda’r BBC. Yn 2010, trodd yn ôl at newyddiaduraeth brint trwy dderbyn swydd gyda’r Cymro a gweithio fel awdures lawrydd.

Fel bardd, mae wedi cyhoeddi Yn Fy Lle yn 2006 a Siarad Trwy’i Het yn 2011, y ddwy gyfrol wedi’u cyhoeddi gan Wasg Barddas; a Glaniad (ar y cyd â Mererid Hopwood) yn 2015. Bu’n athrawes ar sawl dosbarth cynganeddu. Mae hefyd wedi ennill nifer o gadeiriau eisteddfodol. Enillodd ysgoloriaeth Winston Churchill yn 2011 er mwyn gallu teithio dramor i ystyried traddodiadau sawl gwlad, yn cynnwys Colombia, India, Wcráin a De Affrica. Yn 2014-15, treuliodd hanner blwyddyn yn byw yn Fienna’n darlithio ar Lenyddiaeth Cymru yn y brifysgol yno, gan aros mewn cwfaint dinesig.[1]

Yn 2020, ar ôl nifer o flynyddoedd yn pregethu, derbyniodd alwad i’r weinidogaeth fel gweinidog eglwysi Capel y Groes (MC), Pen-y-groes a Chapel Soar (A), Pen-y-groes.

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Merched Chwarel, [1]; Gwefan Cyfnewidfa Lên Cymru, [2]], cyrchwyd 21.04.2022