Ebenezer Thomas (Eben Fardd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 11: Llinell 11:
==Eben Fardd yr athro a'r dyddiadurwr==
==Eben Fardd yr athro a'r dyddiadurwr==


Ym 1827 symudodd i [[Clynnog Fawr|Glynnog Fawr]] i gadw ysgol ar gais Hugh Williams, ficer y plwyf, yn y rhan o'r [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr|eglwys]] a elwir yn [[Capel Beuno|Gapel Beuno]]. Priododd ym 1830 â Mary Williams, Cae'rpwsan, [[Clynnog Fawr]] a ganwyd iddynt dair merch ac un mab yn eu cartref, [[Bod Gybi]]. Byddai ei wraig yn pobi bara a chadw siop a byddai Eben yntau yn rhwymo llyfrau a gwneud cyfrifon i bobl i ychwanegu at ei incwm fel ysgolfeistr. Yn ddiweddarach bu'n cadw post yn y pentref hefyd. Ym 1856 bu bron i Eben Fardd symud i Gaernarfon pan glywodd fod swydd lewyrchus postfeistr wedi dod yn rhydd, ond er iddo ofyn i'r [[Arglwydd Newborough]] ddefnyddio ei ddylanwad ar ei ran, nid oedd Newborough yn fodlon gwneud hynny ac ni chafodd Eben y swydd. <ref>Archifdy Gwynedd, XD2/25074, 25878, 25882</ref>Yn fuan ar ôl iddo symud i Glynnog dechreuodd gadw dyddiadur a chyflawnodd yr orchwyl honno bron yn ddi-dor wedyn tan flynyddoedd olaf ei oes. Mae'r dyddiaduron hyn yn ffynhonnell eithriadol bwysig o wybodaeth am amgylchiadau'r cyfnod, yn ogystal â thaflu goleuni ar amgylchiadau personol y bardd a'i deulu. Roedd Eben yn arw am ddiod er sawl ymgais i ddiwygio. Dioddefai'n gyson oddi wrth bruddglwyfni hefyd a phoenai'n aml ynghylch cyflwr ei enaid.  Dioddefai ef a'r teulu oddi wrth salwch blin a chyson a cheir disgrifiadau o rai o feddyginiaethau'r oes ar dudalennau'r dyddiaduron hefyd. Cyhoeddwyd detholiad helaeth ohonynt gan E.G. Millward ym 1968 gyda rhagair sylweddol.<ref>E.G. Millward, ''Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd'' (Caerdydd, 1968).</ref>  
Ym 1827 symudodd i [[Clynnog Fawr|Glynnog Fawr]] i gadw ysgol ar gais Hugh Williams, ficer y plwyf, yn y rhan o'r [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr|eglwys]] a elwir yn [[Capel Beuno|Gapel Beuno]]. Priododd ym 1830 â Mary Williams, [[Cae'r Pwsan]], [[Clynnog Fawr]], merch Thomas Williams a gadwai'r [[Tafarn y Sportsman, Gurn Goch|Dafarn y Sportsman]] yng [[Gurn Goch|Ngurn Goch]].<ref>''North Wales Chronicle'', 2.12.1830, t.3</ref> Ganwyd iddynt dair merch ac un mab yn eu cartref, [[Bod Gybi]]. Byddai ei wraig yn pobi bara a chadw siop a byddai Eben yntau yn rhwymo llyfrau a gwneud cyfrifon i bobl i ychwanegu at ei incwm fel ysgolfeistr. Yn ddiweddarach bu'n cadw post yn y pentref hefyd. Ym 1856 bu bron i Eben Fardd symud i Gaernarfon pan glywodd fod swydd lewyrchus postfeistr wedi dod yn rhydd, ond er iddo ofyn i'r [[Arglwydd Newborough]] ddefnyddio ei ddylanwad ar ei ran, nid oedd Newborough yn fodlon gwneud hynny ac ni chafodd Eben y swydd. <ref>Archifdy Gwynedd, XD2/25074, 25878, 25882</ref>Yn fuan ar ôl iddo symud i Glynnog dechreuodd gadw dyddiadur a chyflawnodd yr orchwyl honno bron yn ddi-dor wedyn tan flynyddoedd olaf ei oes. Mae'r dyddiaduron hyn yn ffynhonnell eithriadol bwysig o wybodaeth am amgylchiadau'r cyfnod, yn ogystal â thaflu goleuni ar amgylchiadau personol y bardd a'i deulu. Roedd Eben yn arw am ddiod er sawl ymgais i ddiwygio. Dioddefai'n gyson oddi wrth bruddglwyfni hefyd a phoenai'n aml ynghylch cyflwr ei enaid.  Dioddefai ef a'r teulu oddi wrth salwch blin a chyson a cheir disgrifiadau o rai o feddyginiaethau'r oes ar dudalennau'r dyddiaduron hefyd. Cyhoeddwyd detholiad helaeth ohonynt gan E.G. Millward ym 1968 gyda rhagair sylweddol.<ref>E.G. Millward, ''Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd'' (Caerdydd, 1968).</ref>  


==Bardd ac awdur==
==Bardd ac awdur==
Llinell 28: Llinell 28:
[[Categori:Haneswyr]]
[[Categori:Haneswyr]]
[[Categori:Awduron]]
[[Categori:Awduron]]
[[Categori:Emynwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:07, 5 Chwefror 2024

Ysgolfeistr a bardd oedd Ebenezer Thomas (Eben Fardd) (Awst 1802 - 17 Chwefror 1863).

Bywyd cynnar

Ganed Ebenezer Thomas yn Nhan-lan, ger Llangybi, i Thomas Williams a Catherine Prys. Gwehydd oedd ei dad ac roedd ef a'i wraig yn aelodau ffyddlon yn y Seiat Fethodistaidd ym Mhencaenewydd. Ymunodd Eben â'r seiat ei hun ym 1811. Cafodd addysg gynnar mewn ysgolion yn Llangybi ac Abererch a dysgodd grefft ei dad yn ogystal. Aeth ymlaen wedyn i gael addysg bellach mewn ysgol yn Nhudweiliog ond pan fu farw ei frawd, Evan, ym 1822 dychwelodd i fro ei febyd i ofalu am ysgol a gadwai Evan yn Llangybi.

Dechreuodd ymhél â barddoniaeth cyn bod yn 15 oed ac roedd wedi dod i adnabod dau o brifeirdd cwmwd Eifionydd erbyn hynny, sef Dewi Wyn o Eifion a Robert ap Gwilym Ddu. Ei enw barddol cynnar oedd Cybi o Eifion a dyna a geir wrth ei gerddi cynharaf. Ym 1824 enillodd gadair Eisteddfod Powys am ei awdl Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniaid. Mae hon yn un o awdlau mwyaf adnabyddus y 19g a cheir ynddi ddarnau cynhyrfus a dramatig iawn.

Eben Fardd yr athro a'r dyddiadurwr

Ym 1827 symudodd i Glynnog Fawr i gadw ysgol ar gais Hugh Williams, ficer y plwyf, yn y rhan o'r eglwys a elwir yn Gapel Beuno. Priododd ym 1830 â Mary Williams, Cae'r Pwsan, Clynnog Fawr, merch Thomas Williams a gadwai'r Dafarn y Sportsman yng Ngurn Goch.[1] Ganwyd iddynt dair merch ac un mab yn eu cartref, Bod Gybi. Byddai ei wraig yn pobi bara a chadw siop a byddai Eben yntau yn rhwymo llyfrau a gwneud cyfrifon i bobl i ychwanegu at ei incwm fel ysgolfeistr. Yn ddiweddarach bu'n cadw post yn y pentref hefyd. Ym 1856 bu bron i Eben Fardd symud i Gaernarfon pan glywodd fod swydd lewyrchus postfeistr wedi dod yn rhydd, ond er iddo ofyn i'r Arglwydd Newborough ddefnyddio ei ddylanwad ar ei ran, nid oedd Newborough yn fodlon gwneud hynny ac ni chafodd Eben y swydd. [2]Yn fuan ar ôl iddo symud i Glynnog dechreuodd gadw dyddiadur a chyflawnodd yr orchwyl honno bron yn ddi-dor wedyn tan flynyddoedd olaf ei oes. Mae'r dyddiaduron hyn yn ffynhonnell eithriadol bwysig o wybodaeth am amgylchiadau'r cyfnod, yn ogystal â thaflu goleuni ar amgylchiadau personol y bardd a'i deulu. Roedd Eben yn arw am ddiod er sawl ymgais i ddiwygio. Dioddefai'n gyson oddi wrth bruddglwyfni hefyd a phoenai'n aml ynghylch cyflwr ei enaid. Dioddefai ef a'r teulu oddi wrth salwch blin a chyson a cheir disgrifiadau o rai o feddyginiaethau'r oes ar dudalennau'r dyddiaduron hefyd. Cyhoeddwyd detholiad helaeth ohonynt gan E.G. Millward ym 1968 gyda rhagair sylweddol.[3]

Bardd ac awdur

Enillodd Eben Fardd ei ail wobr eisteddfodol bwysig yn Eisteddfod y Gordofigion yn Lerpwl ym 1840 am awdl ar 'Cystudd, Amynedd ac Adferiad Job' ac er nad yw honno'n awdl cystal â 'Dinistr Jerusalem' fe geir rhai darnau dramatig a chain ynddi hithau hefyd.[4]

Cyff Beuno yw'r enw a roddodd Eben Fardd ar awdl o'i waith i nodi atgyweiriad Eglwys Clynnog Fawr a hefyd yn deitl ar ei lyfr sydd yn ymwneud â hanes y fro - gan gynnwys yr awdl - ac a gyhoeddwyd yn Nhremadog wedi ei farwolaeth ym 1863. Mae'r awdl yn dal yn ddigon difyr a darllenadwy ac yn rhoi cip ar hanes Beuno Sant, yr eglwys a'r sefydliadau a oedd yn gysylltiedig â hi fel y canfyddid yr hanes mewn oes pan nad oedd ffynonellau dibynadwy ar gael i haneswyr yn gyffredinol. Mae gweddill y llyfr yn cynnwys nodiadau ffeithiol eu naws (yn ôl dealltwriaeth yr oes) ar bethau yr ymdrinnir â hwy yn yr awdl, a manylion am enwogion y plwyf a'u hachau a nodweddion hanesyddol eglwys a phlwyf Clynnog Fawr. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys nodiadau am y bardd a'i "hynodion" gan Ioan ab Hu Feddyg, sef cofiant a gwerthfawrogiad o gyfraniad Eben Fardd. Er cofio i'r llyfr gael ei gyhoeddi dros 150 mlynedd yn ôl, a bod llawer o waith hanesyddol wedi ei wneud ers hynny, eto gellid honni mai dyma un o'r gweithiau pwysicaf ar hanes Uwchgwyrfai hyd yn ddiweddar oherwydd ei flaengaredd a'r ymdrech i gofnodi hanes ffeithiol yr ardal.[5]

Cyfeiriadau

  1. North Wales Chronicle, 2.12.1830, t.3
  2. Archifdy Gwynedd, XD2/25074, 25878, 25882
  3. E.G. Millward, Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd (Caerdydd, 1968).
  4. Sail cychwynnol yr erthygl gyfan yw'r Bywgraffiadur Cymreig ar-lein Cofnod ar y Bywgraffiadaur Cymreig
  5. Eben Fardd, Cyff Beuno, sef Awdl ar Adgyweiiad Eglwys Clynnog Fawr, yng nghyd a nodiadau hynafol, achyddiaeth, daiaregaeth y plwyf, rhestr o'r beirdd a'r llenorion &c (Tremadog, 1863)