B. Dew Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Hanesydd ac awdures oedd '''Barbara Dew Roberts''' (?1885-1963) oedd yn byw ar un adeg ym Mhlas Tryfan, ger Rhos-isaf. Ychydig a wyddy...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Hanesydd ac awdures oedd '''Barbara Dew Roberts''' (?1885-1963) oedd yn byw ar un adeg ym [[Plas Tryfan|Mhlas Tryfan]], ger [[Rhos-isaf]]. Ychydig a wyddys am ei bywyd a'i gyrfa ac ni cheir sôn amdani dan yr enw a ddefnyddid ganddiyng nghofnodion y Cyfrifiad. Dichon, fodd bynnag, iddi berthyn i deulu lleol Dew, yr arwerthwyr a thwrneiod o Fangor. Os felly, gellir dychmygu ei bod yn weddol gyfforddus ei byd, gan i un gangen fyw yn Wellfield House, Bangor ym 1891, a changen eraill ym mhlasty Carreg Brân, Llanfair Pwllgwyngyll.<ref>Cyfrifiadau Bangor a Llanfair Pwllgwyngyll, 1891</ref> Mae'n debyg na fuodd hi'n briod, gan i bobl wastad gyfeirio at "Miss B Dew Roberts". Mae 'na bosibirwydd felly ei bod yn ferch i un o ferched teulu Dew a rhywun gyda'r cyfenw Roberts.
Hanesydd ac awdures oedd '''Barbara Dew Roberts''' (?1885-1963) a oedd yn byw ar un adeg ym [[Plas Tryfan|Mhlas Tryfan]], ger [[Rhos-isaf]]. Ychydig a wyddys am ei bywyd a'i gyrfa ac ni cheir sôn amdani dan yr enw a ddefnyddid ganddi yng nghofnodion y Cyfrifiad. Dichon, fodd bynnag, iddi berthyn i deulu lleol Dew, yr arwerthwyr a thwrneiod o Fangor. Os felly, gellir dychmygu ei bod yn weddol gyfforddus ei byd, gan i un gangen o'r teulu fyw yn Wellfield House, Bangor, ym 1891, a changen arall ym mhlasty Carreg Brân, Llanfair Pwllgwyngyll.<ref>Cyfrifiadau Bangor a Llanfair Pwllgwyngyll, 1891</ref> Diddorol hefyd yw'r ffaith ei bod wedi cyhoeddi erthygl ar ''The Ynysfor Hunt'', sydd yn awgrymu efallai ei bod â chysylltiadau â'r dosbarth hela a saethu!<ref>''Trafodion Anrhydeddus Gynmdeithas y Cymmrodorion'', 1940, t.200</ref> Mae'n debyg na fu hi'n briod, gan i bobl wastad gyfeirio at "Miss B Dew Roberts". Mae 'na bosibilrwydd felly ei bod yn ferch i un o ferched teulu Dew a rhywun gyda'r cyfenw Roberts.


A hithau wedi cyrraedd ei 50au, dechreuodd ysgrifennu erthyglau a llyfrau hanes ar bynciau'n gysylltiedig â Gogledd Cymru. Yr oedd hi erbyn hyn yn byw ym Mhlas Tryfan, ac yno yr oedd hi'n byw pan ymunodd  â [[Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon|Chymdeithas Hanes Sir Gaernarfon]], ac yr oedd yn un o aelodau cyntaf  y gymdeithas honno ym 1939. Ymysg ei llyfrau ceir ''Mr Bulkeley and the Pirate" (Llundain, OUP, 1935); ''Mire and Musket: John Williams: Lord Keeper, Archbishop of York, 1582-1650'' (Llundain, OUP, 1938); ''Still Glides the Stream'' (Llundain, Chatto & Windus, 1940); ''Some Trees Stand'', (Llundain, Chatto & Windus, 1943); a "The Charlie Trees: a Jacobite novel", (Llundain, Chatto & Windus, 1951). Gellid dadlau, fodd bynnag, mai ei chynnyrch llenyddol pwysicaf oedd ei golygyddiad o ddyddiadur [[Edward Christian]], bachgen o [[Clynnog Fawr|Glynnog]] a farwodd yng Nghanada, a gyhoeddwyd efo'r teitl ''Unflinching'' (Llundain, Murray, 1937),<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Catalog</ref> ac ydd bellach yn cael ei gyfrif fel clasur yng Nghanada.
A hithau'n nesu at ei 50au, dechreuodd ysgrifennu erthyglau a llyfrau hanes ar bynciau'n gysylltiedig â Gogledd Cymru. Bu'n cyfrannu'n gyson i gylchgrawn y ''Welsh Outlook'' yn ystod tair blynedd olaf y cylchgrawn hwnnw. Ymysg ei llyfrau ceir ''Mr Bulkeley and the Pirate'' (Llundain, OUP, 1935); ''Mire and Musket: John Williams: Lord Keeper, Archbishop of York, 1582-1650'' (Llundain, OUP, 1938); a'r nofelau ''Still Glides the Stream'' (Llundain, Chatto & Windus, 1940); ''Some Trees Stand'', (Llundain, Chatto & Windus, 1943); ''The Island Feud", (Llundain, Chatto & Windus, 1947); a The Charlie Trees: a Jacobite novel, (Llundain, Chatto & Windus, 1951). Roedd A.H. Dodd yn ei hystyried yn hanesydd a oedd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i hanes Gogledd Cymru yn y 17-18g, ac yn ei chanmol fel nofelydd hanesyddol.<ref>A> H> Dodd, ''Miss Dew Roberts and Caernarvonshire History'', TCHSG  1941, tt.96-8. </ref> Gellid dadlau, fodd bynnag, mai ei chynnyrch llenyddol pwysicaf oedd ei golygiad o ddyddiadur [[Edgar Christian]], bachgen o [[Clynnog Fawr|Glynnog]] a fu farw yng Nghanada. Fe'i cyhoeddwyd dan y teitl ''Unflinching'' (Llundain, Murray, 1937),<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Catalog</ref> a bellach mae'n cael ei gyfrif fel clasur yng Nghanada.
 
Erbyn 1939 roedd hi'n byw ym Mhlas Tryfan, ac yno roedd hi'n byw pan ymunodd  â [[Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon|Chymdeithas Hanes Sir Gaernarfon]], ac yr oedd yn un o aelodau cyntaf y gymdeithas honno ym 1939. Ymysg ei herthyglau yn  Nhrafodion Cymdeithas Hanes y sir, ceir erthygl ar [[Maria Stella]], [[Glynllifon]]; a theuluoedd Bodfel a Bodwrdda. Ym 1947, nodwyd ei chyfeiriad fel Bryn Neuadd, Llanfaglan, ac yno yr oedd hi'n byw ym 1960 hefyd.<ref>Rhestrau aelodaeth Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 1939, 1947 a 1960</ref> Bu farw yn ystod hanner cyntaf 1963.


{{eginyn}}
{{eginyn}}
Llinell 8: Llinell 10:
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Awduron]]
[[Categori:Awduron]]
[[Categori:Haneswyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:57, 20 Gorffennaf 2022

Hanesydd ac awdures oedd Barbara Dew Roberts (?1885-1963) a oedd yn byw ar un adeg ym Mhlas Tryfan, ger Rhos-isaf. Ychydig a wyddys am ei bywyd a'i gyrfa ac ni cheir sôn amdani dan yr enw a ddefnyddid ganddi yng nghofnodion y Cyfrifiad. Dichon, fodd bynnag, iddi berthyn i deulu lleol Dew, yr arwerthwyr a thwrneiod o Fangor. Os felly, gellir dychmygu ei bod yn weddol gyfforddus ei byd, gan i un gangen o'r teulu fyw yn Wellfield House, Bangor, ym 1891, a changen arall ym mhlasty Carreg Brân, Llanfair Pwllgwyngyll.[1] Diddorol hefyd yw'r ffaith ei bod wedi cyhoeddi erthygl ar The Ynysfor Hunt, sydd yn awgrymu efallai ei bod â chysylltiadau â'r dosbarth hela a saethu![2] Mae'n debyg na fu hi'n briod, gan i bobl wastad gyfeirio at "Miss B Dew Roberts". Mae 'na bosibilrwydd felly ei bod yn ferch i un o ferched teulu Dew a rhywun gyda'r cyfenw Roberts.

A hithau'n nesu at ei 50au, dechreuodd ysgrifennu erthyglau a llyfrau hanes ar bynciau'n gysylltiedig â Gogledd Cymru. Bu'n cyfrannu'n gyson i gylchgrawn y Welsh Outlook yn ystod tair blynedd olaf y cylchgrawn hwnnw. Ymysg ei llyfrau ceir Mr Bulkeley and the Pirate (Llundain, OUP, 1935); Mire and Musket: John Williams: Lord Keeper, Archbishop of York, 1582-1650 (Llundain, OUP, 1938); a'r nofelau Still Glides the Stream (Llundain, Chatto & Windus, 1940); Some Trees Stand, (Llundain, Chatto & Windus, 1943); The Island Feud", (Llundain, Chatto & Windus, 1947); a The Charlie Trees: a Jacobite novel, (Llundain, Chatto & Windus, 1951). Roedd A.H. Dodd yn ei hystyried yn hanesydd a oedd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i hanes Gogledd Cymru yn y 17-18g, ac yn ei chanmol fel nofelydd hanesyddol.[3] Gellid dadlau, fodd bynnag, mai ei chynnyrch llenyddol pwysicaf oedd ei golygiad o ddyddiadur Edgar Christian, bachgen o Glynnog a fu farw yng Nghanada. Fe'i cyhoeddwyd dan y teitl Unflinching (Llundain, Murray, 1937),[4] a bellach mae'n cael ei gyfrif fel clasur yng Nghanada.

Erbyn 1939 roedd hi'n byw ym Mhlas Tryfan, ac yno roedd hi'n byw pan ymunodd â Chymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, ac yr oedd yn un o aelodau cyntaf y gymdeithas honno ym 1939. Ymysg ei herthyglau yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes y sir, ceir erthygl ar Maria Stella, Glynllifon; a theuluoedd Bodfel a Bodwrdda. Ym 1947, nodwyd ei chyfeiriad fel Bryn Neuadd, Llanfaglan, ac yno yr oedd hi'n byw ym 1960 hefyd.[5] Bu farw yn ystod hanner cyntaf 1963.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau Bangor a Llanfair Pwllgwyngyll, 1891
  2. Trafodion Anrhydeddus Gynmdeithas y Cymmrodorion, 1940, t.200
  3. A> H> Dodd, Miss Dew Roberts and Caernarvonshire History, TCHSG 1941, tt.96-8.
  4. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Catalog
  5. Rhestrau aelodaeth Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 1939, 1947 a 1960