Gwesty'r Nantlle Vale: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Adeilad sylweddol a godwyd yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]] yn y 1860au<ref>Gwefan Heneb [http://www.heneb.co.uk/hlc/caernarfon-nantlle/caer7.html], cyrchwyd 6.`1.2022</ref> oedd '''Gwesty'r Nantlle Vale'''. Safai nid nepell o [[Gorsaf reilffordd Nantlle|orsaf]] newydd Nantlle a agorwyd ym 1872, a dichon mai'r rheswm am godi gwesty yno oedd er mwyn darparu llety i unrhyw ddynion busnes a'u cyffelyb a fyddai'n cyrraedd ar y trenau newydd. Rhaid cofio mai pentref newydd ar ei brifiant oedd Tal-y-sarn ar y pryd, gyda'r chwareli llechi'n ehangu'n gyflym.
Adeilad sylweddol a godwyd yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]] yn y 1860au<ref>Gwefan Heneb [http://www.heneb.co.uk/hlc/caernarfon-nantlle/caer7.html], cyrchwyd 6.`1.2022</ref> oedd '''Gwesty'r Nantlle Vale'''. Fe'i codwyd gan [[Thomas Lloyd Jones]] a'i alw'n Bryn Llywelyn. Erbyn 1872 yr oedd wedi ei droi'n westy.<ref>W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), t.95</ref> Safai o fewn cyrraedd i [[Gorsaf reilffordd Nantlle|orsaf]] newydd Nantlle a agorwyd ym 1872, a dichon mai'r rheswm am agor gwesty yno oedd er mwyn darparu llety i unrhyw ddynion busnes a'u cyffelyb a fyddai'n cyrraedd ar y trenau newydd. Rhaid cofio mai pentref newydd ar ei brifiant oedd Tal-y-sarn ar y pryd, gyda'r chwareli llechi'n ehangu'n gyflym.  
 
Ym 1871, roedd chwarelwr ifanc, Thomas Griffith, a'i deulu'n byw yno, ac nid yw'r Cyfrifiad yn nodi fod yr adeilad yn westy - er bod un neu ddau o lojars yno: "Nantlle Vale" yn syml oedd enw'r adeilad. Erbyn 1881, fodd bynnag, nodwyd "Nantlle Vale Hotel" fel enw'r adeilad. Roedd Thomas Griffith yn dal yno, ond erbyn hynny, fe'i disgrifir fel Ceidwad Gwesty - er nad oedd yr un ymwelydd yn aros yno; yr un oedd y sefyllfa ym 1891 a 1901 - a Thomas Griffith a'i wraig wedi cynnal y busnes am fwy na 30 o flynyddoedd. Erbyn 1911, roedd ef a'i wraig wedi symud i Frondeg, Tal-y-sarn, a nododd Thomas Griffith ei fod yn "Westywr wedi ymneillduo". Erbyn hynny, roedd yn 66 oed a'i wraig Margaret yn 70 oed. Diddorol yw sylwi bod nifer o dafarndai (''inns'') yn cael eu nodi ar y Cyfrifiad, ond ni nodwyd ond un gwesty, sef y Nantlle Vale. Rhaid felly i'r sefydliad fod o well safon na'r tafarndai cyffredin, er iddo wasanaethu fel tŷ tafarn yn ogystal â llety.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1871-1911</ref>


[[Delwedd:Hysbyseb nantlle vale.png|bawd|de|400px|Hysbyseb y Carnarvon & Denbigh Herald, 1910]]
[[Delwedd:Hysbyseb nantlle vale.png|bawd|de|400px|Hysbyseb y Carnarvon & Denbigh Herald, 1910]]
Dyma oedd prif dafarn y pentref am ganrif a mwy. Ym 1907, ceisiwyd gwerthu'r gwesty, ond nid yw'n bendant ei bod wedi ei gwerthu y pryd hynny yn yr arwerthiant. <ref>Archifdy Prifysgol Bangor, SC/878/22</ref>Ym 1909, methodd y perchnogion â thalu'r forgais ac aeth dan y morthwyl unwaith eto. Mae'r hysbyseb a ymddangosodd yn y ''Carnarvon & Denbigh Herald'' yn rhoi rhybudd am yr arwerthiant ar 10 Ionawr 1910 yn dangos yn glir maint a safon yr eiddo. Roedd yr adeilad yn cynnwys lobi gyda nenfwd uchel, ystafell fasnachol, ystafell ysmygu, lolfa breifat, selerydd, adran jwg a photel, naw ystafell wely, storfa, cegin, washws, toiledau, certws a stablau, gerddi addurniadol a chae borfa, tua  3402 o lathenni sgwâr i gyd.<ref>''Carnarvon & Denbigh Herald'', 7.1.1910, t.4</ref> Diddorol yw sylwi mai Nantlle yw enw'r lle yn yr hysbyseb - er mai yn Nhal-y-sarn oedd y dafarn.
Erbyn 1910, os nad cynt, dyma oedd yr unig fan trwyddedig yn y pentref. Ym 1907, ceisiwyd gwerthu'r gwesty, ond nid oes sicrwydd ei fod wedi ei werthu yn yr arwerthiant. <ref>Archifdy Prifysgol Bangor, SC/878/22</ref>Ym 1909, methodd y perchnogion â thalu'r morgais ac aeth dan y morthwyl unwaith eto. Mae'r hysbyseb a ymddangosodd yn y ''Carnarvon & Denbigh Herald'' er mwyn rhoi rhybudd am yr arwerthiant ar 10 Ionawr 1910 yn dangos yn glir maint a safon yr eiddo. Roedd yr adeilad yn cynnwys lobi gyda nenfwd uchel, ystafell fasnachol, ystafell ysmygu, lolfa breifat, selerydd, adran jwg a photel, naw ystafell wely, storfa, cegin, cegin gefn, toiledau, certws a stablau, gerddi addurniadol a chae porfa, tua  3402 o lathenni sgwâr i gyd.<ref>''Carnarvon & Denbigh Herald'', 7.1.1910, t.4</ref> Diddorol yw sylwi mai Nantlle yw enw'r lle yn yr hysbyseb - er mai yn Nhal-y-sarn oedd y dafarn.


Caewyd y gwesty tua dechrau'r ganrif hon, ac erbyn 2008 roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael, a'r tir wedi tyfu'n wyllt. Cafwyd caniatâd i ddymchwel yr adeilad a chodi tai a fflatiau newydd ar y safle.<ref>Gwefan ''North Wales Live'', 3.11.2008, [https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/hotel-conversion-plan-set-yes-2803462], cyrchwyd 4.1.2022</ref>
Agorwyd adeilad arall, yn nes i'r orsaf, fel tafarn ymhen blynyddoedd wedyn a'i alw'n Westy Nantlle Vale. Caewyd y dafarn hon tua dechrau'r ganrif hon, ac erbyn 2008 roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael, a'r tir wedi tyfu'n wyllt. Cafwyd caniatâd i ddymchwel yr adeilad a chodi tai a fflatiau newydd ar y safle.<ref>Gwefan ''North Wales Live'', 3.11.2008, [https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/hotel-conversion-plan-set-yes-2803462], cyrchwyd 4.1.2022</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}
Llinell 11: Llinell 13:


[[Categori:Tafarndai]]
[[Categori:Tafarndai]]
 
[[Categori:Gwestai]]
ERTHYGL HEB EI GORFFEN

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:28, 7 Ionawr 2022

Adeilad sylweddol a godwyd yn Nhal-y-sarn yn y 1860au[1] oedd Gwesty'r Nantlle Vale. Fe'i codwyd gan Thomas Lloyd Jones a'i alw'n Bryn Llywelyn. Erbyn 1872 yr oedd wedi ei droi'n westy.[2] Safai o fewn cyrraedd i orsaf newydd Nantlle a agorwyd ym 1872, a dichon mai'r rheswm am agor gwesty yno oedd er mwyn darparu llety i unrhyw ddynion busnes a'u cyffelyb a fyddai'n cyrraedd ar y trenau newydd. Rhaid cofio mai pentref newydd ar ei brifiant oedd Tal-y-sarn ar y pryd, gyda'r chwareli llechi'n ehangu'n gyflym.

Ym 1871, roedd chwarelwr ifanc, Thomas Griffith, a'i deulu'n byw yno, ac nid yw'r Cyfrifiad yn nodi fod yr adeilad yn westy - er bod un neu ddau o lojars yno: "Nantlle Vale" yn syml oedd enw'r adeilad. Erbyn 1881, fodd bynnag, nodwyd "Nantlle Vale Hotel" fel enw'r adeilad. Roedd Thomas Griffith yn dal yno, ond erbyn hynny, fe'i disgrifir fel Ceidwad Gwesty - er nad oedd yr un ymwelydd yn aros yno; yr un oedd y sefyllfa ym 1891 a 1901 - a Thomas Griffith a'i wraig wedi cynnal y busnes am fwy na 30 o flynyddoedd. Erbyn 1911, roedd ef a'i wraig wedi symud i Frondeg, Tal-y-sarn, a nododd Thomas Griffith ei fod yn "Westywr wedi ymneillduo". Erbyn hynny, roedd yn 66 oed a'i wraig Margaret yn 70 oed. Diddorol yw sylwi bod nifer o dafarndai (inns) yn cael eu nodi ar y Cyfrifiad, ond ni nodwyd ond un gwesty, sef y Nantlle Vale. Rhaid felly i'r sefydliad fod o well safon na'r tafarndai cyffredin, er iddo wasanaethu fel tŷ tafarn yn ogystal â llety.[3]

Hysbyseb y Carnarvon & Denbigh Herald, 1910

Erbyn 1910, os nad cynt, dyma oedd yr unig fan trwyddedig yn y pentref. Ym 1907, ceisiwyd gwerthu'r gwesty, ond nid oes sicrwydd ei fod wedi ei werthu yn yr arwerthiant. [4]Ym 1909, methodd y perchnogion â thalu'r morgais ac aeth dan y morthwyl unwaith eto. Mae'r hysbyseb a ymddangosodd yn y Carnarvon & Denbigh Herald er mwyn rhoi rhybudd am yr arwerthiant ar 10 Ionawr 1910 yn dangos yn glir maint a safon yr eiddo. Roedd yr adeilad yn cynnwys lobi gyda nenfwd uchel, ystafell fasnachol, ystafell ysmygu, lolfa breifat, selerydd, adran jwg a photel, naw ystafell wely, storfa, cegin, cegin gefn, toiledau, certws a stablau, gerddi addurniadol a chae porfa, tua 3402 o lathenni sgwâr i gyd.[5] Diddorol yw sylwi mai Nantlle yw enw'r lle yn yr hysbyseb - er mai yn Nhal-y-sarn oedd y dafarn.

Agorwyd adeilad arall, yn nes i'r orsaf, fel tafarn ymhen blynyddoedd wedyn a'i alw'n Westy Nantlle Vale. Caewyd y dafarn hon tua dechrau'r ganrif hon, ac erbyn 2008 roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael, a'r tir wedi tyfu'n wyllt. Cafwyd caniatâd i ddymchwel yr adeilad a chodi tai a fflatiau newydd ar y safle.[6]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Heneb [1], cyrchwyd 6.`1.2022
  2. W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), t.95
  3. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1871-1911
  4. Archifdy Prifysgol Bangor, SC/878/22
  5. Carnarvon & Denbigh Herald, 7.1.1910, t.4
  6. Gwefan North Wales Live, 3.11.2008, [2], cyrchwyd 4.1.2022