Prosiect:Amdanom: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| (Ni ddangosir y 17 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
| Llinell 2: | Llinell 2: | ||
== Hanes == | == Hanes == | ||
Sefydlwyd '''Cof y Cwmwd''' ym mis Hydref 2017, fel un o weithgareddau elusennol [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]] gyda grant hael gan Gronfa Loteri | Sefydlwyd '''Cof y Cwmwd''' ym mis Hydref 2017, fel un o weithgareddau elusennol [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]] gyda grant hael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein cenedl i bobl [[Uwchgwyrfai]] a Chymru gyfan, a hynny gyda help unrhyw un sydd am ymuno yn y gwaith. | ||
== Amcanion == | == Amcanion == | ||
| Llinell 9: | Llinell 9: | ||
* hwyluso, ac yn wir, annog, pobl leol i ymdrin â hanes trwy gyfrwng y Gymraeg. | * hwyluso, ac yn wir, annog, pobl leol i ymdrin â hanes trwy gyfrwng y Gymraeg. | ||
Ein bwriad yw gweld '''Cof y Cwmwd''' yn datblygu fel prif ffynhonnell gwybodaeth am hanes a thraddodiadau ein cwr bach ni o Gymru. Erfyniwn arnoch i wneud eich rhan er mwyn cyrraedd y nod hwnnw. Mae '''Cof y Cwmwd''' yn ymdrin ag ardal yr hen gwmwd, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol [[Clynnog-fawr]], [[Llanaelhaearn]], [[Llandwrog]], [[Llanllyfni]] a [[Llanwnda]]. Mae hyn yn cynnwys [[Dyffryn Nantlle]] i gyd | Ein bwriad yw gweld '''Cof y Cwmwd''' yn datblygu fel prif ffynhonnell gwybodaeth am hanes a thraddodiadau ein cwr bach ni o Gymru. Erfyniwn arnoch i wneud eich rhan er mwyn cyrraedd y nod hwnnw. Mae '''Cof y Cwmwd''' yn ymdrin ag ardal yr hen gwmwd, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol [[Clynnog-fawr]], [[Llanaelhaearn]], [[Llandwrog]], [[Llanllyfni]] a [[Llanwnda]]. Mae hyn yn cynnwys [[Dyffryn Nantlle]] i gyd hyd at [[Rhyd-ddu|Ryd-ddu]] ac wedyn ar hyd [[Afon Gwyrfai]] o Ryd-ddu trwy'r [[Bontnewydd]] ac at y môr. | ||
== Pobl== | == Pobl== | ||
| Llinell 15: | Llinell 15: | ||
Penodwyd [https://morris.cymru Carl Morris], Cymro Tseiniaidd Cymraeg ac arbenigwr ar greu a chynnal wicïau, i osod y meddalwedd angenrheidiol, sef MediaWiki, meddalwedd rydd a ddefnyddir gan Wicipedia ei hun, a fe hefyd a baratôdd sgerbwd y wici. | Penodwyd [https://morris.cymru Carl Morris], Cymro Tseiniaidd Cymraeg ac arbenigwr ar greu a chynnal wicïau, i osod y meddalwedd angenrheidiol, sef MediaWiki, meddalwedd rydd a ddefnyddir gan Wicipedia ei hun, a fe hefyd a baratôdd sgerbwd y wici. | ||
Penodwyd Miriam Lloyd Jones o'r Bontnewydd i greu eginynau fel sail i erthyglau ar lawer o destunau sy'n berthnasol i Uwchgwyrfai. | Penodwyd Miriam Lloyd Jones o'r Bontnewydd i greu eginynau fel sail i erthyglau ar lawer o destunau sy'n berthnasol i Uwchgwyrfai. Wrth i gyfnod Miriam ddod i ben yn swyddogol, diolchwyd iddi'n ddiffuant am ei holl gyfraniad at lwyddiant y '''Cof'''. | ||
Rhaid hefyd gydnabod cefnogaeth a chyngor sylweddol Robin Llwyd ab Owain, | Rhaid hefyd gydnabod cefnogaeth a chyngor sylweddol Robin Llwyd ab Owain, cyn-reolwr WikiMedia yng Nghymru, a gymerodd ddiddordeb rhagweithiol yn yr fenter hon; a Jason Evans, Y Wicipediwr Cenedlaethol. | ||
== Y wici == | == Y wici == | ||
Y nod cychwynnol | Y nod cychwynnol oedd llunio tua 400 o eginynnau neu erthyglau cyflawn erbyn diwedd Gorffennaf 2018, pan daeth grant y Loteri i ben. Erbyn hynny, roedd bron i 500 o erthyglau ac eginynnau wedi eu llwytho ar y '''Cof'''. Nid yr adeg honno fodd bynnag daeth y '''Cof''' ei hun i ben. Mae o'n dal i gael ei gynnal yn barhaol fel y gall pobl ddal i gyfrannu at ein gwybodaeth o'r fro. Fis Ebrill 2020, pasiodd y '''Cof''' y cyfanswm o 1,000 o erthyglau unigol ac erbyn diwedd 2025 yr oedd dros 1850 o erthyglau. OND mae pell i fynd eto cyn y bydd holl hanes Uwchgwyrfai ar gof yn y Cof - gwyddom am sawl bwnc sydd heb fod yna erthygl amdano - a heb os, mae 'na lawer mwy y gellid eu hychwanegu at erthyglau sy'n bodoli eisoes trwy ychwanegu gwybodaeth bellach atynt. | ||
Mae '''Cof y Cwmwd''' yn wici, sef casgliad o erthyglau y mae croeso i unrhyw un eu newid neu ychwanegu atynt, os ydynt yn gyfarwydd â'r pwnc. Mae 'wici', gyda llaw, yn air o Ynysoedd Hawaii sy'n golygu 'sydyn', a'r syniad y tu ôl i'r gair yw bod rhywun yn gallu cyfeirio at bethau mewn dim o dro. Gall unrhyw un gyfrannu ffeithiau newydd hefyd, a hynny heb fawr o drafferth | Mae '''Cof y Cwmwd''' yn wici, sef casgliad o erthyglau y mae croeso i unrhyw un eu newid neu ychwanegu atynt, os ydynt yn gyfarwydd â'r pwnc. Mae 'wici', gyda llaw, yn air o Ynysoedd Hawaii sy'n golygu 'sydyn', a'r syniad y tu ôl i'r gair yw bod rhywun yn gallu cyfeirio at bethau mewn dim o dro. Gall unrhyw un gyfrannu ffeithiau newydd yn y fan a'r lle hefyd, a hynny heb fawr o drafferth. Mae'n debyg y byddwch wedi defnyddio Wicipedia ar y We rywbryd neu'i gilydd, ac efallai eich bod wedi 'golygu' (sef newid neu gyfrannu at) rai o'r erthyglau yno. Cofiwch: mae '''Cof y Cwmwd''' yn gweithio yn yr un ffordd yn union â Wicipedia, ac felly os ydych wedi defnyddio'r wefan fawr honno - neu Wikipaedia yn Saesneg - bydd y drefn yn hollol gyfarwydd i chi. | ||
Mae croeso i rywun hefyd gywiro camgymeriadau teipio neu iaith anghywir. | Mae croeso i rywun hefyd gywiro camgymeriadau teipio neu iaith anghywir. | ||
| Llinell 31: | Llinell 31: | ||
== Trwydded == | == Trwydded == | ||
Dylid nodi nad | Dylid nodi nad oeddem ar y dechrau wedi mabwysiadu trwydded hollol agored Comin Creu, sef CC-BY-SA, oherwydd dymuniad Cronfa Dreftadaeth y Loteri i rwystro defnydd masnachol o'r wefan. Fodd bynnag, roeddem yn gofyn i bobl roi gwybodaeth ar ein gwefan heb gyfyngiad, fel y gallwn ni roi caniatâd i bobl ddefnyddio deunydd ar gyfer pethau a gyhoeddir. Rhaid oedd gwneud hyn gan fod y gair masnachol, yn ôl diffiniad Comin Creu, yn cynnwys unrhyw ddefnydd lle mae arian yn newid dwylo - e.e. lle mae ysgol yn codi tâl am raglen cyngerdd gyda llun o'r wefan! Ym mis Awst 2020, newidiodd Cronfa'r Loteri ei pholisi, ac ers hynny, mae holl erthyglau '''Cof y Cwmwd''' - oni noder yn wahanol - yn hollol rydd i'w defnyddio dan drwydded Comin Creu CC-BY-4.0. | ||
== E-bost == | == E-bost == | ||
Os oes gennych ymholiadau, anfonwch e-bost at [mailto: | Os oes gennych ymholiadau, anfonwch e-bost at [mailto:cofycwmwd@gmail.com] . | ||
==Cysylltiad â'r gymuned wici ehangach== | |||
Mae '''Cof y Cwmwd''' yn cael ei gynrychioli ar Grŵp Defnyddwyr Cymuned Wicimedia Cymru:[https://meta.wikimedia.org/wiki/Wikimedia_Community_User_Group_Wales] | |||
Golygiad diweddaraf yn ôl 13:43, 3 Rhagfyr 2025

Hanes
Sefydlwyd Cof y Cwmwd ym mis Hydref 2017, fel un o weithgareddau elusennol Canolfan Hanes Uwchgwyrfai gyda grant hael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein cenedl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan, a hynny gyda help unrhyw un sydd am ymuno yn y gwaith.
Amcanion
Y ddau amcan a sefydlwyd ar gyfer Cof y Cwmwd yw:
- creu bas data sylweddol o wybodaeth am hanes a thraddodiadau Uwchgwyrfai, yn niffyg unrhyw lyfrau cyfoes ar hanes cyffredinol y cwmwd
- hwyluso, ac yn wir, annog, pobl leol i ymdrin â hanes trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ein bwriad yw gweld Cof y Cwmwd yn datblygu fel prif ffynhonnell gwybodaeth am hanes a thraddodiadau ein cwr bach ni o Gymru. Erfyniwn arnoch i wneud eich rhan er mwyn cyrraedd y nod hwnnw. Mae Cof y Cwmwd yn ymdrin ag ardal yr hen gwmwd, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda. Mae hyn yn cynnwys Dyffryn Nantlle i gyd hyd at Ryd-ddu ac wedyn ar hyd Afon Gwyrfai o Ryd-ddu trwy'r Bontnewydd ac at y môr.
Pobl
Penodwyd Carl Morris, Cymro Tseiniaidd Cymraeg ac arbenigwr ar greu a chynnal wicïau, i osod y meddalwedd angenrheidiol, sef MediaWiki, meddalwedd rydd a ddefnyddir gan Wicipedia ei hun, a fe hefyd a baratôdd sgerbwd y wici.
Penodwyd Miriam Lloyd Jones o'r Bontnewydd i greu eginynau fel sail i erthyglau ar lawer o destunau sy'n berthnasol i Uwchgwyrfai. Wrth i gyfnod Miriam ddod i ben yn swyddogol, diolchwyd iddi'n ddiffuant am ei holl gyfraniad at lwyddiant y Cof.
Rhaid hefyd gydnabod cefnogaeth a chyngor sylweddol Robin Llwyd ab Owain, cyn-reolwr WikiMedia yng Nghymru, a gymerodd ddiddordeb rhagweithiol yn yr fenter hon; a Jason Evans, Y Wicipediwr Cenedlaethol.
Y wici
Y nod cychwynnol oedd llunio tua 400 o eginynnau neu erthyglau cyflawn erbyn diwedd Gorffennaf 2018, pan daeth grant y Loteri i ben. Erbyn hynny, roedd bron i 500 o erthyglau ac eginynnau wedi eu llwytho ar y Cof. Nid yr adeg honno fodd bynnag daeth y Cof ei hun i ben. Mae o'n dal i gael ei gynnal yn barhaol fel y gall pobl ddal i gyfrannu at ein gwybodaeth o'r fro. Fis Ebrill 2020, pasiodd y Cof y cyfanswm o 1,000 o erthyglau unigol ac erbyn diwedd 2025 yr oedd dros 1850 o erthyglau. OND mae pell i fynd eto cyn y bydd holl hanes Uwchgwyrfai ar gof yn y Cof - gwyddom am sawl bwnc sydd heb fod yna erthygl amdano - a heb os, mae 'na lawer mwy y gellid eu hychwanegu at erthyglau sy'n bodoli eisoes trwy ychwanegu gwybodaeth bellach atynt.
Mae Cof y Cwmwd yn wici, sef casgliad o erthyglau y mae croeso i unrhyw un eu newid neu ychwanegu atynt, os ydynt yn gyfarwydd â'r pwnc. Mae 'wici', gyda llaw, yn air o Ynysoedd Hawaii sy'n golygu 'sydyn', a'r syniad y tu ôl i'r gair yw bod rhywun yn gallu cyfeirio at bethau mewn dim o dro. Gall unrhyw un gyfrannu ffeithiau newydd yn y fan a'r lle hefyd, a hynny heb fawr o drafferth. Mae'n debyg y byddwch wedi defnyddio Wicipedia ar y We rywbryd neu'i gilydd, ac efallai eich bod wedi 'golygu' (sef newid neu gyfrannu at) rai o'r erthyglau yno. Cofiwch: mae Cof y Cwmwd yn gweithio yn yr un ffordd yn union â Wicipedia, ac felly os ydych wedi defnyddio'r wefan fawr honno - neu Wikipaedia yn Saesneg - bydd y drefn yn hollol gyfarwydd i chi.
Mae croeso i rywun hefyd gywiro camgymeriadau teipio neu iaith anghywir.
Help
Am gyfarwyddiadau am sut i gyfrannu at Cof y Cwmwd, cliciwch yma. Mae manylion pellach hefyd ar y dudalen Cymorth - cliciwch ar y ddolen ar y chwith.
Trwydded
Dylid nodi nad oeddem ar y dechrau wedi mabwysiadu trwydded hollol agored Comin Creu, sef CC-BY-SA, oherwydd dymuniad Cronfa Dreftadaeth y Loteri i rwystro defnydd masnachol o'r wefan. Fodd bynnag, roeddem yn gofyn i bobl roi gwybodaeth ar ein gwefan heb gyfyngiad, fel y gallwn ni roi caniatâd i bobl ddefnyddio deunydd ar gyfer pethau a gyhoeddir. Rhaid oedd gwneud hyn gan fod y gair masnachol, yn ôl diffiniad Comin Creu, yn cynnwys unrhyw ddefnydd lle mae arian yn newid dwylo - e.e. lle mae ysgol yn codi tâl am raglen cyngerdd gyda llun o'r wefan! Ym mis Awst 2020, newidiodd Cronfa'r Loteri ei pholisi, ac ers hynny, mae holl erthyglau Cof y Cwmwd - oni noder yn wahanol - yn hollol rydd i'w defnyddio dan drwydded Comin Creu CC-BY-4.0.
E-bost
Os oes gennych ymholiadau, anfonwch e-bost at [1] .
Cysylltiad â'r gymuned wici ehangach
Mae Cof y Cwmwd yn cael ei gynrychioli ar Grŵp Defnyddwyr Cymuned Wicimedia Cymru:[2]