Harry Heyes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Arweinydd bandiau oedd '''Harry Heyes'' (1894-1963), a aned yn Aspull, Sir Gaerhirfryn. Symudodd i Dde Cymru ym 1917 lle bu'n arwain bandiau pres Caerau,...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Arweinydd bandiau oedd '''Harry Heyes'' (1894-1963), a aned yn Aspull, Sir Gaerhirfryn. Symudodd i Dde Cymru ym 1917 lle bu'n arwain bandiau pres Caerau, Glofa Aldridge, Glofa Glynderwen a Lydney. Symudodd i ardal [[Uwchgwyrfai]] ym 1927, lle bu'n arweinydd proffesiynol sawl band: Llanberis i ddechrau, wedyn [[Band Pres Dyffryn Nantlle]], [[Band Caernarfon]] ac, ym 1929, [[Band Pres Moeltryfan]]. Mae'n amlwg o'r cofnodion fod gan y bandiau hyn arweinyddionlleol, ond Harry Heyes oedd yn cael ei dalu i arwain y bandiau hyn pan fyddant yn cystadlu. Cafodd nifer o lwyddiannau, gan gynnwys tair wobr gyntaf (bandiau Dosbarth A) gyda Band Dyffryn Nantlle ym 1927; a thair gyntaf (Dosbarth B) ym 1929 gyda Band Moeltryfan. Ymddengys iddo symud yn ôl i Loegr tua 1930, a bu'n arwain rhai o fandiau mwyaf llwyddiannus y cyfnod, yn cynnwys Band Parc a Dâr yn y Rhondda. Cafodd ei wahodd yn ôl unwaith neu ddwy i arwain bandiau Llanberis a Chaernarfon wedi hynny, a hynny ar gyfer cystadlaethau pwysig, ond 1929 oedd y tro olaf sydd wedi ei gofnodi iddo arwain band o Uwchgwyrfai.
Arweinydd bandiau oedd '''Harry Heyes''' (1894-1963), a aned yn Aspull, Sir Gaerhirfryn. Symudodd i Dde Cymru ym 1917 lle bu'n arwain bandiau pres Caerau, Glofa Aldridge, Glofa Glynderwen a Lydney. Symudodd i ardal [[Uwchgwyrfai]] ym 1927, lle bu'n arweinydd proffesiynol sawl band: Llanberis i ddechrau, wedyn [[Seindorf Dyffryn Nantlle]], Band Caernarfon ac, ym 1929, [[Band Moeltryfan]]. Mae'n amlwg o'r cofnodion fod gan y bandiau hyn arweinyddion lleol, ond Harry Heyes oedd yn cael ei dalu i arwain y bandiau hyn pan fyddent yn cystadlu. Cafodd nifer o lwyddiannau, gan gynnwys tair gwobr gyntaf (bandiau Dosbarth A) gyda Band Dyffryn Nantlle ym 1927; a thair gyntaf (Dosbarth B) ym 1929 gyda Band Moeltryfan. Ymddengys iddo symud yn ôl i Loegr tua 1930, a bu'n arwain rhai o fandiau mwyaf llwyddiannus y cyfnod, yn cynnwys Band Parc a Dâr yn y Rhondda. Cafodd ei wahodd yn ôl unwaith neu ddwy i arwain bandiau Llanberis a Chaernarfon wedi hynny, a hynny ar gyfer cystadlaethau pwysig, ond 1929 oedd y tro olaf sydd wedi ei gofnodi iddo arwain band o Uwchgwyrfai.


Bu Heyes yn parhau i arwain mewn cystadlaethau hyd 1961, a bu farw 21 Ionawr 1963. Yn ystod ei yrfa, roedd wedi arwain bandiau pan gafwyd y wobr gyntaf 53 o weithiau.<ref>Gwefan "Brass Band Results", [https://brassbandresults.co.uk/people/h-heyes/], cyrchwyd 9.12.2021</ref>
Bu Heyes yn parhau i arwain mewn cystadlaethau hyd 1961, a bu farw 21 Ionawr 1963. Yn ystod ei yrfa, roedd wedi arwain gwahanol fandiau pan gawsant y wobr gyntaf, a hynny 53 o weithiau.<ref>Gwefan "Brass Band Results", [https://brassbandresults.co.uk/people/h-heyes/], cyrchwyd 9.12.2021</ref> Bu hefyd yn feirniad ar lefel genedlaethol mewn cystadlaethau bandiau pres.


==Cyfeiriadau==  
==Cyfeiriadau==  

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:13, 10 Rhagfyr 2021

Arweinydd bandiau oedd Harry Heyes (1894-1963), a aned yn Aspull, Sir Gaerhirfryn. Symudodd i Dde Cymru ym 1917 lle bu'n arwain bandiau pres Caerau, Glofa Aldridge, Glofa Glynderwen a Lydney. Symudodd i ardal Uwchgwyrfai ym 1927, lle bu'n arweinydd proffesiynol sawl band: Llanberis i ddechrau, wedyn Seindorf Dyffryn Nantlle, Band Caernarfon ac, ym 1929, Band Moeltryfan. Mae'n amlwg o'r cofnodion fod gan y bandiau hyn arweinyddion lleol, ond Harry Heyes oedd yn cael ei dalu i arwain y bandiau hyn pan fyddent yn cystadlu. Cafodd nifer o lwyddiannau, gan gynnwys tair gwobr gyntaf (bandiau Dosbarth A) gyda Band Dyffryn Nantlle ym 1927; a thair gyntaf (Dosbarth B) ym 1929 gyda Band Moeltryfan. Ymddengys iddo symud yn ôl i Loegr tua 1930, a bu'n arwain rhai o fandiau mwyaf llwyddiannus y cyfnod, yn cynnwys Band Parc a Dâr yn y Rhondda. Cafodd ei wahodd yn ôl unwaith neu ddwy i arwain bandiau Llanberis a Chaernarfon wedi hynny, a hynny ar gyfer cystadlaethau pwysig, ond 1929 oedd y tro olaf sydd wedi ei gofnodi iddo arwain band o Uwchgwyrfai.

Bu Heyes yn parhau i arwain mewn cystadlaethau hyd 1961, a bu farw 21 Ionawr 1963. Yn ystod ei yrfa, roedd wedi arwain gwahanol fandiau pan gawsant y wobr gyntaf, a hynny 53 o weithiau.[1] Bu hefyd yn feirniad ar lefel genedlaethol mewn cystadlaethau bandiau pres.

Cyfeiriadau

  1. Gwefan "Brass Band Results", [1], cyrchwyd 9.12.2021