Lladd-dai yn Nhrefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 3 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Bu '''dau ladd-dy yn [[Trefor|Nhrefor]]''' ar wahanol adegau yn y gorffennol. | Bu '''dau ladd-dy yn [[Trefor|Nhrefor]]''' ar wahanol adegau yn y gorffennol. | ||
Ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif bu gan Owen Evans (bu farw 1930) fusnes cigydd yn y pentref. Un o [[Gurn Goch]] oedd Owen Evans yn enedigol, gyda'i dad Robert Evans yn cadw [[Tafarn y Sportsman, Gurn Goch|tafarn y Sportsman]] yno tua diwedd y 1850au a dechrau'r 1860au. Priododd Owen Evans â Saesnes o'r enw Elizabeth Luckett, a fagwyd ym mhentref Hook Norton ger Banbury yn Sir Rhydychen. Yn ôl y sôn daeth hi i [[Clynnog Fawr|Glynnog]] fel yr hyn a elwid bryd hynny yn ''companion'' i wraig rheithor Clynnog. Wedi i Owen a hithau briodi fe wnaethant gartrefu yn Nhrefor weddill eu hoes a magu saith o blant. Roeddent yn byw yn Hendy ar waelod Ffordd yr Eifl ger y bont, ac ychydig lathenni i ffwrdd, ar lan yr Afon Bach, fel y'i gelwir, bu gan Owen Evans ladd-dy bychan am rai blynyddoedd. Roedd yr adeilad ar dir tyddyn Bryn Gwenith (neu Dyddyn y Felin fel roedd yn cael ei alw'n wreiddiol) a oedd yn cael ei ddal a'i ffermio gan Owen ar y pryd. Adeilad bach a thywyll ydyw ac mae'n anodd credu iddo erioed drin gwartheg yno. Mae'n debyg mai wyn, defaid a moch oedd yr unig anifeiliaid a fyddai'n cael eu bwtsiera yno. Mae'r adeilad yn dal ar ei draed ac mewn cyflwr gweddol dda. Wedi ei ddyddiau fel lladd-dy fe'i defnyddiwyd fel sied i gadw amryfal bethau. | Ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif bu gan Owen Evans (bu farw 1930) fusnes cigydd yn y pentref. Un o [[Gurn Goch]] oedd Owen Evans yn enedigol, gyda'i dad Robert Evans yn cadw [[Tafarn y Sportsman, Gurn Goch|tafarn y Sportsman]] yno tua diwedd y 1850au a dechrau'r 1860au. Priododd Owen Evans â Saesnes o'r enw Elizabeth Luckett, a fagwyd ym mhentref Hook Norton ger Banbury yn Sir Rhydychen. Yn ôl y sôn daeth hi i [[Clynnog Fawr|Glynnog]] fel yr hyn a elwid bryd hynny yn ''companion'' i wraig rheithor Clynnog. Wedi i Owen a hithau briodi fe wnaethant gartrefu yn Nhrefor weddill eu hoes a magu saith o blant. Roeddent yn byw yn Hendy ar waelod Ffordd yr Eifl ger y bont, ac ychydig lathenni i ffwrdd, ar lan yr [[Afon Bach, Trefor|Afon Bach]], fel y'i gelwir, bu gan Owen Evans ladd-dy bychan am rai blynyddoedd. Roedd yr adeilad ar dir tyddyn Bryn Gwenith (neu Dyddyn y Felin fel roedd yn cael ei alw'n wreiddiol) a oedd yn cael ei ddal a'i ffermio gan Owen ar y pryd. Adeilad bach a thywyll ydyw ac mae'n anodd credu iddo erioed drin gwartheg yno. Mae'n debyg mai wyn, defaid a moch oedd yr unig anifeiliaid a fyddai'n cael eu bwtsiera yno. Mae'r adeilad yn dal ar ei draed ac mewn cyflwr gweddol dda. Wedi ei ddyddiau fel lladd-dy fe'i defnyddiwyd fel sied i gadw amryfal bethau. | ||
Roedd yr ail ladd-dy yn Nhrefor yn adeilad tipyn mwy a diweddarach nag un Owen Evans. Fe godwyd hwn hefyd ar dir Bryn Gwenith a hynny gan [[Cymdeithas Gydweithredol yr Eifl|Gymdeithas Gydweithredol yr Eifl]] i ddarparu cig i'r Stôr yn Nhrefor a'i changhennau yn y pentrefi cyfagos. Roedd hwn yn adeilad helaeth o frics ac wedi'i blastro. Roedd wedi ei rannu'n wahanol "ystafelloedd". Yn un roedd peniau cadarn i gadw anifeiliaid dros nos cyn iddynt gael eu lladd. Yn y rhan arall helaethach roedd boiler i ferwi dŵr a bachau yn dod i lawr o'r nenfwd i hongian y cig. Fodd bynnag, er i'r Gymdeithas wario'n helaeth ar yr adeilad hwn ni fu fawr o fri a defnydd arno. Erbyn y 1950au a'r 60au roedd yn fwy ymarferol i gael cig wedi ei ddanfon o ladd-dai mwy o fannau fel Caernarfon a gadawyd y lladd-dy i ddirywio.<ref>Gwybodaeth bersonol.</ref> | Roedd yr ail ladd-dy yn Nhrefor yn adeilad tipyn mwy a diweddarach nag un Owen Evans. Fe godwyd hwn hefyd ar dir Bryn Gwenith a hynny gan [[Cymdeithas Gydweithredol yr Eifl|Gymdeithas Gydweithredol yr Eifl]] i ddarparu cig i'r Stôr yn Nhrefor a'i changhennau yn y pentrefi cyfagos. Roedd hwn yn adeilad helaeth o frics ac wedi'i blastro. Roedd wedi ei rannu'n wahanol "ystafelloedd". Yn un roedd peniau cadarn i gadw anifeiliaid dros nos cyn iddynt gael eu lladd. Yn y rhan arall helaethach roedd boiler i ferwi dŵr a bachau yn dod i lawr o'r nenfwd i hongian y cig. Fodd bynnag, er i'r Gymdeithas wario'n helaeth ar yr adeilad hwn ni fu fawr o fri a defnydd arno. Erbyn y 1950au a'r 60au roedd yn fwy ymarferol i gael cig wedi ei ddanfon o ladd-dai mwy o fannau fel Caernarfon a gadawyd y lladd-dy i ddirywio.<ref>Gwybodaeth bersonol.</ref> | ||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
[[Categori:Diwydiant a Masnach]] | [[Categori:Diwydiant a Masnach]] | ||
[[Categori:Lladd-dai a chigyddion]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:47, 7 Tachwedd 2021
Bu dau ladd-dy yn Nhrefor ar wahanol adegau yn y gorffennol.
Ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif bu gan Owen Evans (bu farw 1930) fusnes cigydd yn y pentref. Un o Gurn Goch oedd Owen Evans yn enedigol, gyda'i dad Robert Evans yn cadw tafarn y Sportsman yno tua diwedd y 1850au a dechrau'r 1860au. Priododd Owen Evans â Saesnes o'r enw Elizabeth Luckett, a fagwyd ym mhentref Hook Norton ger Banbury yn Sir Rhydychen. Yn ôl y sôn daeth hi i Glynnog fel yr hyn a elwid bryd hynny yn companion i wraig rheithor Clynnog. Wedi i Owen a hithau briodi fe wnaethant gartrefu yn Nhrefor weddill eu hoes a magu saith o blant. Roeddent yn byw yn Hendy ar waelod Ffordd yr Eifl ger y bont, ac ychydig lathenni i ffwrdd, ar lan yr Afon Bach, fel y'i gelwir, bu gan Owen Evans ladd-dy bychan am rai blynyddoedd. Roedd yr adeilad ar dir tyddyn Bryn Gwenith (neu Dyddyn y Felin fel roedd yn cael ei alw'n wreiddiol) a oedd yn cael ei ddal a'i ffermio gan Owen ar y pryd. Adeilad bach a thywyll ydyw ac mae'n anodd credu iddo erioed drin gwartheg yno. Mae'n debyg mai wyn, defaid a moch oedd yr unig anifeiliaid a fyddai'n cael eu bwtsiera yno. Mae'r adeilad yn dal ar ei draed ac mewn cyflwr gweddol dda. Wedi ei ddyddiau fel lladd-dy fe'i defnyddiwyd fel sied i gadw amryfal bethau.
Roedd yr ail ladd-dy yn Nhrefor yn adeilad tipyn mwy a diweddarach nag un Owen Evans. Fe godwyd hwn hefyd ar dir Bryn Gwenith a hynny gan Gymdeithas Gydweithredol yr Eifl i ddarparu cig i'r Stôr yn Nhrefor a'i changhennau yn y pentrefi cyfagos. Roedd hwn yn adeilad helaeth o frics ac wedi'i blastro. Roedd wedi ei rannu'n wahanol "ystafelloedd". Yn un roedd peniau cadarn i gadw anifeiliaid dros nos cyn iddynt gael eu lladd. Yn y rhan arall helaethach roedd boiler i ferwi dŵr a bachau yn dod i lawr o'r nenfwd i hongian y cig. Fodd bynnag, er i'r Gymdeithas wario'n helaeth ar yr adeilad hwn ni fu fawr o fri a defnydd arno. Erbyn y 1950au a'r 60au roedd yn fwy ymarferol i gael cig wedi ei ddanfon o ladd-dai mwy o fannau fel Caernarfon a gadawyd y lladd-dy i ddirywio.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwybodaeth bersonol.