Maldwyn Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Maldwyn Parry''' (1930-2008), a fu'n byw ym mhentref Pen-y-groes, yn athro yn Ysgol Dyffryn Nantlle am flynyddoedd lawer. Daeth i amlygrw...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Maldwyn Parry''' (1930-2008), a fu'n byw ym mhentref [[Pen-y-groes]], yn athro yn [[Ysgol Dyffryn Nantlle]] am flynyddoedd lawer. Daeth i amlygrwydd fel cerddor gan iddo ennill y Rhuban Glas yn | Roedd '''Maldwyn Parry''' (1930-2008), a fu'n byw ym mhentref [[Pen-y-groes]], yn athro yn [[Ysgol Dyffryn Nantlle]] am flynyddoedd lawer. Daeth i amlygrwydd fel cerddor gan iddo ennill y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1962 gyda'i lais bariton dwfn. Yr oedd hefyd yn un o'r ychydig i ennill y Rhuban Glas yr eildro, a hynny flynyddoedd yn ddiweddarach, ym 1984.<ref>Gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol, [https://eisteddfod.cymru/archif/enillwyr-yr-eisteddfod/enillwyr-gwobr-goffa-david-ellis], cyrchwyd 29.10.2021</ref> Am gyfnod tua 1960 bu'n byw yn Y Bermo, ac roedd yn aelod o gôr meibion y dref honno. | ||
Bu'n arweinydd | Bu'n arweinydd Côr Llais Cymysg Dyffryn Nantlle am rai blynyddoedd<ref>''Caernarfon and Denbigh Herald'', 17.11.2005</ref> cyn ymuno â chôr [[Lleisiau Mignedd]] bron o'r dechrau ym 1982 hyd 2005, gan eu harwain wrth iddynt ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1988, yn ogystal â dod yn agos at ennill ar sawl achlysur arall. Bu'r côr dan ei arweiniad hefyd yn llwyddiannus deirgwaith yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd. Cafodd y côr lysenw, sef "Cywion Maldwyn". | ||
Canodd y | Canodd y gân ''Benedictus'' yng nghinio Nadolig y côr y noson cyn iddo farw yn 2008. Gadawodd wraig a thri o blant.<ref>''Daily Post'', 1.1.2009</ref> | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:58, 1 Chwefror 2022
Roedd Maldwyn Parry (1930-2008), a fu'n byw ym mhentref Pen-y-groes, yn athro yn Ysgol Dyffryn Nantlle am flynyddoedd lawer. Daeth i amlygrwydd fel cerddor gan iddo ennill y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1962 gyda'i lais bariton dwfn. Yr oedd hefyd yn un o'r ychydig i ennill y Rhuban Glas yr eildro, a hynny flynyddoedd yn ddiweddarach, ym 1984.[1] Am gyfnod tua 1960 bu'n byw yn Y Bermo, ac roedd yn aelod o gôr meibion y dref honno.
Bu'n arweinydd Côr Llais Cymysg Dyffryn Nantlle am rai blynyddoedd[2] cyn ymuno â chôr Lleisiau Mignedd bron o'r dechrau ym 1982 hyd 2005, gan eu harwain wrth iddynt ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1988, yn ogystal â dod yn agos at ennill ar sawl achlysur arall. Bu'r côr dan ei arweiniad hefyd yn llwyddiannus deirgwaith yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd. Cafodd y côr lysenw, sef "Cywion Maldwyn".
Canodd y gân Benedictus yng nghinio Nadolig y côr y noson cyn iddo farw yn 2008. Gadawodd wraig a thri o blant.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma