Becws a Siop Glanrhyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Sefydlwyd '''Becws a Siop Glanrhyd''' ym mhentref [[Llanaelhaearn]] gan R.L. Jones. Fe'i holynwyd yn y busnes gan ei fab, Gwilym, ac aelodau eraill o'r teulu. Ar un adeg bu'n fusnes pur fawr ac roedd bri ar y siop a oedd mewn lleoliad da ar fin ffordd fawr Pwllheli - Caernarfon. Roedd gan y cwmni fflyd o faniau hefyd, a fyddai'n danfon nwyddau i ffermydd yr ardaloedd cyfagos yn ogystal ag i siopau lleol. Erbyn hyn mae'r siop wedi cau ers rhai blynyddoedd ond mae'r becws yn dal i weithredu gan gynhyrchu amrywiaeth o fara a theisennau. Mae'r cynnyrch ar gael o hyd yn siopau'r pentrefi a'r trefi cyfagos.  
Sefydlwyd '''Becws a Siop Glanrhyd''' ym mhentref [[Llanaelhaearn]] gan R.L. (Robert Lewis) Jones.  
 
Un o ardal Rhuthun oedd R.L. (fel yr adwaenid ef fel rheol) a phriododd â merch o Lithfaen, Margaret (Margiad) Owen. Sefydlodd fusnes becws yn wreiddiol yn West Kirby yng Nghilgwri (y ''Wirral'') ar ddiwedd y Rhyfel Mawr ac mae'n debyg mai yn y parthau hynny y cyfarfu â'i ddarpar wraig, a oedd yn gweini yn Lerpwl. Yn nechrau'r 1920'au fe wnaethant symud yn ôl i gynefin Margiad gan ymgartrefu yn Llanaelhaearn lle magwyd eu pum plentyn. Tŷ bychan ger Allt Bost y pentref oedd eu cartref cyntaf - a chartref gwreiddiol becws R.L. yn Llanaelhaearn. Fodd bynnag, wrth i'r busnes gynyddu symudwyd i Glanrhyd ar fin ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon ac ymhen amser agorwyd siop y drws nesaf i'r busnes yn gwerthu nwyddau cyffredinol. Bu farw R.L. Jones ym 1953 yn ddyn cymharol ifanc ac fe'i holynwyd yn y busnes gan ei fab, Gwilym, ac aelodau eraill y teulu a fu'n gefn mawr i'w mam weddw, a fu farw ym 1980. Ar un adeg bu'n fusnes pur fawr ac roedd bri ar y siop a oedd mewn lleoliad da ar fin y ffordd fawr Roedd gan y cwmni fflyd o faniau hefyd, a fyddai'n danfon nwyddau i ffermydd yr ardaloedd cyfagos yn ogystal ag i siopau lleol.  
 
Fe wnaeth y siop gau rai blynyddoedd yn ôl ond parhaodd y becws i weithredu gan gynhyrchu amrywiaeth o fara a theisennau. Hyd at y 1970au golosg a ddefnyddid yn y ffwrnais i gynhesu'r poptai ond newidiwyd bryd hynny i boptai trydan. Parhaodd y busnes ym meddiant tair cenhedlaeth o'r teulu ond yn 2023 cyhoeddwyd bod y perchenogion am ymddeol ac roedd yn ymddangos fel pe bai'r becws am ddod i ben. Fodd bynnag, erbyn hyn (dechrau 2024) mae menter [[Antur Aelhaearn]] wedi llwyddo i brynu'r busnes yn dilyn cais am gyllid o'r gronfa Ffyniant Bro ac mae ganddynt gynlluniau ar gyfer ei ddatblygu ymhellach ac eisoes wedi penodi staff i weithio yno. Mae'r cwmni newydd eisoes yn gweithredu a chynhyrchu bara a gaiff ei werthu mewn siopau lleol - gan gynnwys siop fechan sydd newydd agor (diwedd 2023) mewn ystafell ym Meddygfa Llanaelhaearn - dros y ffordd i'r becws.  




Llinell 5: Llinell 9:
Gwybodaeth bersonol
Gwybodaeth bersonol


Erthygl yn ''Y Ffynnon'', Ionawr 2024, tt.20-1.
[[Categori:Siopau]]
[[Categori:Siopau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:37, 29 Ionawr 2024

Sefydlwyd Becws a Siop Glanrhyd ym mhentref Llanaelhaearn gan R.L. (Robert Lewis) Jones.

Un o ardal Rhuthun oedd R.L. (fel yr adwaenid ef fel rheol) a phriododd â merch o Lithfaen, Margaret (Margiad) Owen. Sefydlodd fusnes becws yn wreiddiol yn West Kirby yng Nghilgwri (y Wirral) ar ddiwedd y Rhyfel Mawr ac mae'n debyg mai yn y parthau hynny y cyfarfu â'i ddarpar wraig, a oedd yn gweini yn Lerpwl. Yn nechrau'r 1920'au fe wnaethant symud yn ôl i gynefin Margiad gan ymgartrefu yn Llanaelhaearn lle magwyd eu pum plentyn. Tŷ bychan ger Allt Bost y pentref oedd eu cartref cyntaf - a chartref gwreiddiol becws R.L. yn Llanaelhaearn. Fodd bynnag, wrth i'r busnes gynyddu symudwyd i Glanrhyd ar fin ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon ac ymhen amser agorwyd siop y drws nesaf i'r busnes yn gwerthu nwyddau cyffredinol. Bu farw R.L. Jones ym 1953 yn ddyn cymharol ifanc ac fe'i holynwyd yn y busnes gan ei fab, Gwilym, ac aelodau eraill y teulu a fu'n gefn mawr i'w mam weddw, a fu farw ym 1980. Ar un adeg bu'n fusnes pur fawr ac roedd bri ar y siop a oedd mewn lleoliad da ar fin y ffordd fawr Roedd gan y cwmni fflyd o faniau hefyd, a fyddai'n danfon nwyddau i ffermydd yr ardaloedd cyfagos yn ogystal ag i siopau lleol.

Fe wnaeth y siop gau rai blynyddoedd yn ôl ond parhaodd y becws i weithredu gan gynhyrchu amrywiaeth o fara a theisennau. Hyd at y 1970au golosg a ddefnyddid yn y ffwrnais i gynhesu'r poptai ond newidiwyd bryd hynny i boptai trydan. Parhaodd y busnes ym meddiant tair cenhedlaeth o'r teulu ond yn 2023 cyhoeddwyd bod y perchenogion am ymddeol ac roedd yn ymddangos fel pe bai'r becws am ddod i ben. Fodd bynnag, erbyn hyn (dechrau 2024) mae menter Antur Aelhaearn wedi llwyddo i brynu'r busnes yn dilyn cais am gyllid o'r gronfa Ffyniant Bro ac mae ganddynt gynlluniau ar gyfer ei ddatblygu ymhellach ac eisoes wedi penodi staff i weithio yno. Mae'r cwmni newydd eisoes yn gweithredu a chynhyrchu bara a gaiff ei werthu mewn siopau lleol - gan gynnwys siop fechan sydd newydd agor (diwedd 2023) mewn ystafell ym Meddygfa Llanaelhaearn - dros y ffordd i'r becws.


Cyfeiriadau

Gwybodaeth bersonol

Erthygl yn Y Ffynnon, Ionawr 2024, tt.20-1.