Melin Glan-yr-afon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Safai '''Melin Glan-yr-afon''' ger fferm Glan-yr-afon ar lan ogleddol Afon Llyfni - ac felly ym mhlwyf [[Llanllyfni]], gyferbyn â [[Lleuar Fawr]]. Yr enw lleol ar y felin oedd "Injan Doctor". Dywedir iddi gael ei chodi tua 1774.<ref>Manylion gwerthwr tai Dafydd Hardy, [https://www.youtube.com/watch?v=IFAF8KhTEJY], cyrchwyd 02.08.2018</ref> Roedd cafn neu ffrwd felin hir o'r afon yn arwain at y felin, er mwyn gyrru'r peiriannau. Ar fap Ordnans 1888 fe ddisgrifir y felin fel 'gwaith llechi', a phrif waith y felin oedd cynhyrchu llechi ysgrifennu, a ddefnyddid yn gyffredinol mewn ysgolion ar draws Prydain yn lle llyfrau ysgrifennu papur.<ref>''Hen Luniau Dyffryn Nantlle'' (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1985), llun 43.</ref> | Safai '''Melin Glan-yr-afon''' ger fferm Glan-yr-afon ar lan ogleddol Afon Llyfni - ac felly ym mhlwyf [[Llanllyfni]], gyferbyn â [[Lleuar Fawr]]. Yr enw lleol ar y felin oedd "Injan Doctor". Dywedir iddi gael ei chodi tua 1774.<ref>Manylion gwerthwr tai Dafydd Hardy, [https://www.youtube.com/watch?v=IFAF8KhTEJY], cyrchwyd 02.08.2018</ref> Roedd cafn neu ffrwd felin hir o'r afon yn arwain at y felin, er mwyn gyrru'r peiriannau. Ar fap Ordnans 1888 fe ddisgrifir y felin fel 'gwaith llechi', a phrif waith y felin oedd cynhyrchu llechi ysgrifennu, a ddefnyddid yn gyffredinol mewn ysgolion ar draws Prydain yn lle llyfrau ysgrifennu papur.<ref>''Hen Luniau Dyffryn Nantlle'' (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1985), llun 43.</ref> | ||
Erbyn 1899, fodd bynnag, roedd y map Ordnans yn ei disgrifio fel melin wlân. Felly y disgrifiwyd hi ar fapiau 1920 a 1948 hefyd. Fe'i gelwid yn "Melin Llyfnwy". Caewyd y felin ym 1950. Dair blynedd ynghynt, ym 1947, roedd 6 o bobl yn cael eu cyflogi yno, a'r cynnyrch oedd edafedd ar gyfer gweu | Erbyn 1899, fodd bynnag, roedd y map Ordnans yn ei disgrifio fel melin wlân. Felly y disgrifiwyd hi ar fapiau 1920 a 1948 hefyd. Fe'i gelwid erbyn hynny yn "Melin Llyfnwy". Caewyd y felin ym 1950. Dair blynedd ynghynt, ym 1947, roedd 6 o bobl yn cael eu cyflogi yno, a'r cynnyrch oedd edafedd ar gyfer gweu blancedi, a gwerthid yr holl gynnyrch ar stondin ac mewn siop ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]].<ref>J. Geraint Jenkins, ''The Welsh Woollen Industry'' (Caerdydd, 1969), tt.243-4.</ref> | ||
Gweitha'r modd, mae'r perchnogion presennol wedi dewis ail enwi'r felin fel ''The Woollen Mill, Clynnog Road''. | Mae rhestr o beiriannau'r felin cyn iddi gau ar gael ac wedi ei hargraffu yn llyfr J. Geraint Jenkins.<ref>''op. cit.'', t.244</ref> Ymysg yr offer yr oedd dwy injan gardio, un ohonynt yn cynhyrchu deugain edefyn ar y tro; peiriant nyddu gyda 220 o werthydau; melin ystofi; peiriant torri; dau wŷdd wedi'u pweru 120 modfedd o hyd ar gyfer gwneud blancedi; a chyfarpar lliwio. Yr oedd cyffion pandy yno hefyd i bannu'r defnyddiau a gynhyrchid ac mae hyn yn esbonio efallai pam fod pandai'r ardal wedi diflannu'n gynt na'r melinau - aeth yr holl broses dan yr un to. | ||
Gweitha'r modd, mae'r perchnogion presennol wedi dewis ail-enwi'r felin fel ''The Woollen Mill, Clynnog Road''. | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
Llinell 14: | Llinell 16: | ||
[[Categori:Melinau]] | [[Categori:Melinau]] | ||
[[Categori:Pandai]] | |||
[[Categori:Diwydiant a Masnach]] | [[Categori:Diwydiant a Masnach]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:11, 17 Mawrth 2022
Safai Melin Glan-yr-afon ger fferm Glan-yr-afon ar lan ogleddol Afon Llyfni - ac felly ym mhlwyf Llanllyfni, gyferbyn â Lleuar Fawr. Yr enw lleol ar y felin oedd "Injan Doctor". Dywedir iddi gael ei chodi tua 1774.[1] Roedd cafn neu ffrwd felin hir o'r afon yn arwain at y felin, er mwyn gyrru'r peiriannau. Ar fap Ordnans 1888 fe ddisgrifir y felin fel 'gwaith llechi', a phrif waith y felin oedd cynhyrchu llechi ysgrifennu, a ddefnyddid yn gyffredinol mewn ysgolion ar draws Prydain yn lle llyfrau ysgrifennu papur.[2]
Erbyn 1899, fodd bynnag, roedd y map Ordnans yn ei disgrifio fel melin wlân. Felly y disgrifiwyd hi ar fapiau 1920 a 1948 hefyd. Fe'i gelwid erbyn hynny yn "Melin Llyfnwy". Caewyd y felin ym 1950. Dair blynedd ynghynt, ym 1947, roedd 6 o bobl yn cael eu cyflogi yno, a'r cynnyrch oedd edafedd ar gyfer gweu blancedi, a gwerthid yr holl gynnyrch ar stondin ac mewn siop ym Mhen-y-groes.[3]
Mae rhestr o beiriannau'r felin cyn iddi gau ar gael ac wedi ei hargraffu yn llyfr J. Geraint Jenkins.[4] Ymysg yr offer yr oedd dwy injan gardio, un ohonynt yn cynhyrchu deugain edefyn ar y tro; peiriant nyddu gyda 220 o werthydau; melin ystofi; peiriant torri; dau wŷdd wedi'u pweru 120 modfedd o hyd ar gyfer gwneud blancedi; a chyfarpar lliwio. Yr oedd cyffion pandy yno hefyd i bannu'r defnyddiau a gynhyrchid ac mae hyn yn esbonio efallai pam fod pandai'r ardal wedi diflannu'n gynt na'r melinau - aeth yr holl broses dan yr un to.
Gweitha'r modd, mae'r perchnogion presennol wedi dewis ail-enwi'r felin fel The Woollen Mill, Clynnog Road.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma