Achos Methodistaidd Hen Derfyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 2 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Blagurodd achos '''Methodistaidd cynnar yn ffermdy Hen Derfyn''' - neu Terfyn Dau Blwyf fel y'i gelwid hefyd - yn niwedd y ddeunawfed ganrif. O'r achos yma y tarddodd eglwysi [[Capel Seion (MC), Gurn Goch|Seion Gurn Goch]] a [[Capel Gosen (MC), Trefor|Gosen Trefor]] i raddau helaeth. Mae enw'r fferm yn nodi'r terfyn rhwng plwyfi [[Llanaelhaearn]] a [[Clynnog Fawr|Chlynnog]], a hefyd roedd yn ffin rhwng [[Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd]] a [[Henaduriaeth Arfon]]. Roedd Methodistiaeth wedi ennill peth tir yn yr ardaloedd hyn ers canol y ddeunawfed ganrif, yn dilyn ymweliadau Howel Harris a phregethwyr teithiol eraill â Llŷn, Eifionydd ac [[Arfon]] yn y 1740au a'r 1750au. (Gweler yr erthygl yn Cof y Cwmwd ar [[Achos Methodistaidd Bryngadfa]].) Hefyd cynhaliwyd [[Ysgolion Cylchynnol|Ysgol Gylchynol]] yn ffermdy Cefn Buarthau (Cefn Berdda ar lafar), gerllaw'r Terfyn, ym 1755-56 a bu ysgolion cyffelyb yn [[Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn|Eglwys Llanaelhaearn]] hefyd ar sawl achlysur.  
Blagurodd achos '''Methodistaidd cynnar yn ffermdy Hen Derfyn''' - neu Terfyn Dau Blwyf fel y'i gelwid hefyd - yn niwedd y ddeunawfed ganrif. O'r achos yma y tarddodd eglwysi [[Capel Seion (MC), Gurn Goch|Seion Gurn Goch]] a [[Capel Gosen (MC), Trefor|Gosen Trefor]] i raddau helaeth. Mae enw'r fferm yn nodi'r terfyn rhwng plwyfi [[Llanaelhaearn]] a [[Clynnog Fawr|Chlynnog]], a hefyd roedd yn ffin rhwng [[Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd]] a [[Henaduriaeth Arfon]]. Roedd Methodistiaeth wedi ennill peth tir yn yr ardaloedd hyn ers canol y ddeunawfed ganrif, yn dilyn ymweliadau Howel Harris a phregethwyr teithiol eraill â Llŷn, Eifionydd ac [[Arfon]] yn y 1740au a'r 1750au. (Gweler yr erthygl yn Cof y Cwmwd ar [[Seiat Fethodistaidd Bryngadfa]].) Hefyd cynhaliwyd [[Ysgolion Cylchynol|Ysgol Gylchynol]] yn ffermdy Cefn Buarthau (Cefn Berdda ar lafar), gerllaw'r Terfyn, ym 1755-56 a bu ysgolion cyffelyb yn [[Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn|Eglwys Llanaelhaearn]] hefyd ar sawl achlysur.  

Erbyn degawd olaf y ddeunawfed ganrif a degawd cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ceir cofnodion am oedfaon pregethu a bedyddiadau'n cael eu cynnal yn y Terfyn, gyda rhai fel Robert Jones, Rhos-lan, [[Evan Richardson]], Caernarfon a William Lloyd yn gwasanaethu. Ar 4 Tachwedd 1812 cofrestrwyd "Terfyn y Ddau blwyf" yn fan i gynnal addoliad cyhoeddus, a chyfeirir ato fel "Terfyn Chapel" mewn ffynhonnell o 1811. Yn ystod yr un blynyddoedd cynhaliwyd oedfaon hefyd yn ffermdy Llwynraethnen, yng ngwaelod plwyf Llanaelhaearn ac sydd ar gyrion pentref [[Trefor]] yn awr. Roedd Llwynraethnen bryd hynny'n gartref i Evan Pierce, a oedd yn un o flaenoriaid ac yn drysorydd yr achos yn y Terfyn. Gor-ŵyr iddo ef oedd Evan Evans, Llwynraethnen, a fu'n gyfrwng, gyda Griffith Jones o Lithfaen, i sefydlu eglwys Fethodistaidd Gosen yn Nhrefor ym 1862, dim ond chwe blynedd ar ôl codi tai cyntaf y pentref chwarelyddol newydd wrth droed [[Yr Eifl|yr Eifl]].<ref>Goronwy P. Owen, ''Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd'', (Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, 1978), tt.211-13.</ref> Gweler hefyd yr erthyglau yn Cof y Cwmwd ar gapeli Seion Gurn Goch a Gosen Trefor.  

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:44, 28 Ebrill 2021

Blagurodd achos Methodistaidd cynnar yn ffermdy Hen Derfyn - neu Terfyn Dau Blwyf fel y'i gelwid hefyd - yn niwedd y ddeunawfed ganrif. O'r achos yma y tarddodd eglwysi Seion Gurn Goch a Gosen Trefor i raddau helaeth. Mae enw'r fferm yn nodi'r terfyn rhwng plwyfi Llanaelhaearn a Chlynnog, a hefyd roedd yn ffin rhwng Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd a Henaduriaeth Arfon. Roedd Methodistiaeth wedi ennill peth tir yn yr ardaloedd hyn ers canol y ddeunawfed ganrif, yn dilyn ymweliadau Howel Harris a phregethwyr teithiol eraill â Llŷn, Eifionydd ac Arfon yn y 1740au a'r 1750au. (Gweler yr erthygl yn Cof y Cwmwd ar Seiat Fethodistaidd Bryngadfa.) Hefyd cynhaliwyd Ysgol Gylchynol yn ffermdy Cefn Buarthau (Cefn Berdda ar lafar), gerllaw'r Terfyn, ym 1755-56 a bu ysgolion cyffelyb yn Eglwys Llanaelhaearn hefyd ar sawl achlysur.

Erbyn degawd olaf y ddeunawfed ganrif a degawd cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ceir cofnodion am oedfaon pregethu a bedyddiadau'n cael eu cynnal yn y Terfyn, gyda rhai fel Robert Jones, Rhos-lan, Evan Richardson, Caernarfon a William Lloyd yn gwasanaethu. Ar 4 Tachwedd 1812 cofrestrwyd "Terfyn y Ddau blwyf" yn fan i gynnal addoliad cyhoeddus, a chyfeirir ato fel "Terfyn Chapel" mewn ffynhonnell o 1811. Yn ystod yr un blynyddoedd cynhaliwyd oedfaon hefyd yn ffermdy Llwynraethnen, yng ngwaelod plwyf Llanaelhaearn ac sydd ar gyrion pentref Trefor yn awr. Roedd Llwynraethnen bryd hynny'n gartref i Evan Pierce, a oedd yn un o flaenoriaid ac yn drysorydd yr achos yn y Terfyn. Gor-ŵyr iddo ef oedd Evan Evans, Llwynraethnen, a fu'n gyfrwng, gyda Griffith Jones o Lithfaen, i sefydlu eglwys Fethodistaidd Gosen yn Nhrefor ym 1862, dim ond chwe blynedd ar ôl codi tai cyntaf y pentref chwarelyddol newydd wrth droed yr Eifl.[1] Gweler hefyd yr erthyglau yn Cof y Cwmwd ar gapeli Seion Gurn Goch a Gosen Trefor.

Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Goronwy P. Owen, Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd, (Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, 1978), tt.211-13.