Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd''', neu "Mynwent Bara Chaws", yn hen fynwent yn perthyn i enwad bach y Bedyddwyr Albanaidd oedd yn hynod uniongred ac a oedd â chapel yn [[Llanllyfni]], sef [[Capel Tŷ'n Lôn (BA), Llanllyfni|Capel Tŷ'n Lôn]]. Daw'r llysenw ar y fynwent o lysenw dilornus yr enwad, sef "Bedyddwyr Bara a Chaws", oherwydd iddynt deithio o bell i fynychu gwasanaethau ac felly yn dod â bwyd gyda nhw i'w bwyta mewn ystafell yn y capel.
Mae '''Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd''', neu "Mynwent Bara Chaws", yn hen fynwent yn perthyn i enwad bach y Bedyddwyr Albanaidd a oedd yn hynod uniongred ac a oedd â chapel yn [[Llanllyfni]], sef [[Capel Tŷ'n Lôn (BA), Llanllyfni|Capel Tŷ'n Lôn]]. Daw'r llysenw ar y fynwent o'r llysenw dilornus ar yr enwad, sef "Bedyddwyr Bara a Chaws", oherwydd eu harfer o deithio o bell i fynychu gwasanaethau ac felly'n dod â bwyd gyda nhw i'w fwyta mewn ystafell yn y capel.


Mae'n bosibl mai hen fynwent y Crynwyr oedd y tir i gychwyn, ac mae ambell i garreg fedd yno sy'n dyddio'n ôl i 1700, bron i ganrif cyn cychwyn achos y Bedyddwyr ar y safle. Ymysg y rhai sydd wedi eu claddu yno'n ddiweddarach y mae'r Hen Ddoctor Mynydd, sef [[David Thomas Jones]], a hynny wedi i'r achos ei hun ddirwyn i ben. Yn ei ewyllys gadawodd dŷ, sef Brynsisyllt, Llanllyfni, i'w osod, gyda'r rhent o £3.10.0c yn mynd at gynnal ei fedd o a beddau'r teulu, ac at gynnal y fynwent yn gyffredinol. Bu ymgyrch wedyn tua 1905 i gasglu arian at gynnal y fynwent. Nid yw'n amlwg pwy yw perchnogion y fynwent bellach, ond mae ymdrechion cymunedol wedi llwyddo i'w cynnal yn ddiweddar.<ref>Sylwadau O.P. Huws ar wefan Dyffryn Nantlle, [http://www.nantlle.com/hanes-llanllyfni-bedyddwyr.htm], cyrchwyd 22.4.2021</ref>
Mae'n bosibl mai hen fynwent y Crynwyr neu anghydffurfwyr eraill oedd y tir i gychwyn, gan fod ambell i garreg fedd yno yn dyddio'n ôl i 1700, bron i ganrif cyn cychwyn achos y Bedyddwyr ar y safle. Ymysg y rhai sydd wedi eu claddu yno'n ddiweddarach y mae'r Hen Ddoctor Mynydd, sef [[David Thomas Jones]], a hynny wedi i'r achos ei hun ddirwyn i ben. Yn ei ewyllys gadawodd dŷ, sef Brynsisyllt, Llanllyfni, i'w osod, gyda'r rhent o £3.10.0c yn mynd at gynnal ei fedd o a beddau'r teulu, ac at gynnal y fynwent yn gyffredinol. Bu ymgyrch wedyn tua 1905 i gasglu arian at gynnal y fynwent. Nid yw'n amlwg pwy yw perchnogion y fynwent bellach, ond mae ymdrechion cymunedol wedi llwyddo i'w chynnal yn ddiweddar.<ref>Sylwadau O.P. Huws ar wefan Dyffryn Nantlle, [http://www.nantlle.com/hanes-llanllyfni-bedyddwyr.htm], cyrchwyd 22.4.2021</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:58, 23 Ebrill 2021

Mae Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd, neu "Mynwent Bara Chaws", yn hen fynwent yn perthyn i enwad bach y Bedyddwyr Albanaidd a oedd yn hynod uniongred ac a oedd â chapel yn Llanllyfni, sef Capel Tŷ'n Lôn. Daw'r llysenw ar y fynwent o'r llysenw dilornus ar yr enwad, sef "Bedyddwyr Bara a Chaws", oherwydd eu harfer o deithio o bell i fynychu gwasanaethau ac felly'n dod â bwyd gyda nhw i'w fwyta mewn ystafell yn y capel.

Mae'n bosibl mai hen fynwent y Crynwyr neu anghydffurfwyr eraill oedd y tir i gychwyn, gan fod ambell i garreg fedd yno yn dyddio'n ôl i 1700, bron i ganrif cyn cychwyn achos y Bedyddwyr ar y safle. Ymysg y rhai sydd wedi eu claddu yno'n ddiweddarach y mae'r Hen Ddoctor Mynydd, sef David Thomas Jones, a hynny wedi i'r achos ei hun ddirwyn i ben. Yn ei ewyllys gadawodd dŷ, sef Brynsisyllt, Llanllyfni, i'w osod, gyda'r rhent o £3.10.0c yn mynd at gynnal ei fedd o a beddau'r teulu, ac at gynnal y fynwent yn gyffredinol. Bu ymgyrch wedyn tua 1905 i gasglu arian at gynnal y fynwent. Nid yw'n amlwg pwy yw perchnogion y fynwent bellach, ond mae ymdrechion cymunedol wedi llwyddo i'w chynnal yn ddiweddar.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Sylwadau O.P. Huws ar wefan Dyffryn Nantlle, [1], cyrchwyd 22.4.2021