Thomas Bulkeley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Aelod Seneddol ac aelod uchel o’r fonedd yng Ngwynedd oedd '''Thomas Bulkeley''' o’r Dinas, Llanwnda. Ganwyd yn fab i’r Arglwydd...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Aelod Seneddol ac aelod uchel o’r fonedd yng Ngwynedd oedd '''Thomas Bulkeley''' o’r [[Plas Dinas|Dinas]], [[Llanwnda]].
Aelod Seneddol ac aelod uchel o’r fonedd yng Ngwynedd oedd '''Thomas Bulkeley''' (1632-1708) o’r [[Plas Dinas|Dinas]], [[Llanwnda]].


Ganwyd yn fab i’r Arglwydd Bulkeley o’r Baron Hill, Biwmares. Cyn symud tua’r Dinas i fyw, roedd yn byw ym Maes y Castell yn Nyffryn Conwy. Priododd gyda gweddw Thomas Williams, y Dinas sef Jane Griffith o Gastellmarch. Trwy ei briodas a gweddw Thomas Williams, etifeddodd ystâd y Dinas ac ymestynnodd ei ddylanwad dros yr ardal yma o gwmwd [[Uwchgwyrfai]].  
Ganwyd yn fab i’r Arglwydd Bulkeley o’r Baron Hill, Biwmares. Cyn symud tua’r Dinas i fyw, roedd yn byw ym Maes y Castell yn Nyffryn Conwy. Priododd gyda gweddw Thomas Williams, y Dinas sef Jane Griffith o Gastellmarch. Trwy ei briodas â gweddw Thomas Williams, etifeddodd ystâd y Dinas ac ymestynnodd ei ddylanwad dros yr ardal yma o gwmwd [[Uwchgwyrfai]].  


Roedd wedi cynrychioli Sir Gaernarfon yn y senedd yn 1679, 1680 a 1681. Dadleuai’r hanesydd W. Gilbert Williams fod gan Thomas Bulkeley y gallu i weinyddu fel Aelod Seneddol mewn cyfnod anwastad yn Llundain rhwng y Seneddwyr a’r Brenhinwyr, ac ei fod wedi gwneud peth call o gadw allan o ymgyrch ffyrnig wleidyddol. Roedd wedi cadw ei sedd dros y sir, ac wedi cynrychioli’r bwrdeistref ac hefyd ei sir enedigol o Ynys Môn.  
Cynrychiolodd Sir Gaernarfon yn y senedd yn 1679, 1680 a 1681. Dadleuai’r hanesydd [[W. Gilbert Williams]] fod gan Thomas Bulkeley y gallu i weinyddu fel Aelod Seneddol mewn cyfnod anwastad yn Llundain rhwng y Seneddwyr a’r Brenhinwyr, ac ei fod wedi gwneud peth call o gadw allan o ymgyrch ffyrnig wleidyddol. Roedd wedi cadw ei sedd dros y sir, ac wedi cynrychioli’r bwrdeistref ac hefyd ei sir enedigol o Ynys Môn. Bu hefyd yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1688.


Collodd ei wraig yn 1687, a buodd yntau farw yn 1708. Roedd ei nai, Thomas Bulkeley wedyn yn byw ym Mlas Dinas am rhai blynyddoedd. Ymadroddodd y bardd gwerin, Owen Gruffudd farwnadau caredig iawn Thomas a Jane Bulkeley, ac adlewyrchai hyn ar natur y ddau aelod yma o fonedd Gwynedd yn y bymthegfed ganrif.  
Collodd ei wraig yn 1687, a buodd yntau farw yn 1708. Roedd ei nai, Thomas Bulkeley wedyn yn byw ym Mlas Dinas am rhai blynyddoedd. Canodd y bardd gwerin, Owen Gruffudd, farwnadau caredig iawn Thomas a Jane Bulkeley, ac adlewyrchai hyn ar natur y ddau aelod yma o fonedd Gwynedd yn yr ail ganrif ar bymtheg.  


==Ffynonellau==
==Ffynonellau==
 
J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.42
W. Gilbert Williams ''Thomas Bwcle o'r Dinas'' '''Cymru''' (1912)
W. Gilbert Williams ''Thomas Bwcle o'r Dinas'' '''Cymru''' (1912)
W. Gilbert Williams ''Plas Dinas''
W. Gilbert Williams ''Moel Tryfan i'r Traeth'' (Cyhoeddiadau Mei, 1983)


[[Categori: Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori: Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:38, 27 Chwefror 2023

Aelod Seneddol ac aelod uchel o’r fonedd yng Ngwynedd oedd Thomas Bulkeley (1632-1708) o’r Dinas, Llanwnda.

Ganwyd yn fab i’r Arglwydd Bulkeley o’r Baron Hill, Biwmares. Cyn symud tua’r Dinas i fyw, roedd yn byw ym Maes y Castell yn Nyffryn Conwy. Priododd gyda gweddw Thomas Williams, y Dinas sef Jane Griffith o Gastellmarch. Trwy ei briodas â gweddw Thomas Williams, etifeddodd ystâd y Dinas ac ymestynnodd ei ddylanwad dros yr ardal yma o gwmwd Uwchgwyrfai.

Cynrychiolodd Sir Gaernarfon yn y senedd yn 1679, 1680 a 1681. Dadleuai’r hanesydd W. Gilbert Williams fod gan Thomas Bulkeley y gallu i weinyddu fel Aelod Seneddol mewn cyfnod anwastad yn Llundain rhwng y Seneddwyr a’r Brenhinwyr, ac ei fod wedi gwneud peth call o gadw allan o ymgyrch ffyrnig wleidyddol. Roedd wedi cadw ei sedd dros y sir, ac wedi cynrychioli’r bwrdeistref ac hefyd ei sir enedigol o Ynys Môn. Bu hefyd yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1688.

Collodd ei wraig yn 1687, a buodd yntau farw yn 1708. Roedd ei nai, Thomas Bulkeley wedyn yn byw ym Mlas Dinas am rhai blynyddoedd. Canodd y bardd gwerin, Owen Gruffudd, farwnadau caredig iawn Thomas a Jane Bulkeley, ac adlewyrchai hyn ar natur y ddau aelod yma o fonedd Gwynedd yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Ffynonellau

J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.42 W. Gilbert Williams Thomas Bwcle o'r Dinas Cymru (1912) W. Gilbert Williams Moel Tryfan i'r Traeth (Cyhoeddiadau Mei, 1983)