Idwal Jones (peilot): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 3: Llinell 3:
Roedd '''Idwal Jones''' (1905-1937), neu Idwal ap Ieuan Jones i roi ei enw llawn iddo, yn hanu o [[Tal-y-sarn|Dal-y-sarn]]. Daeth yn enwog fel peilot yn nyddiau cynnar hedfan masnachol.
Roedd '''Idwal Jones''' (1905-1937), neu Idwal ap Ieuan Jones i roi ei enw llawn iddo, yn hanu o [[Tal-y-sarn|Dal-y-sarn]]. Daeth yn enwog fel peilot yn nyddiau cynnar hedfan masnachol.


Ganed Idwal 10 Hydref 1905 ym Mhenhafodlas Bach, tŷ yng Nghoetmor, sef rhesiad o dai hanner ffordd rhwng [[Pen-y-groes]] a Thal-y-sarn. Ei rieni oedd Evan a Catherine Mary Jones.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr bedyddiadau plwyf Llanllyfni</ref> Chwarelwr oedd ei dad, a elwid yn "Ifan Garn" gan ei gydnabod. Yr oedd hwnnw'n awdur llyfr sylweddol ar hanes chwareli Dyffryn Nantlle. Bu farw ei wraig ym 1906 yn fuan ar ôl geni Idwal ac ymhen rhai blynyddoedd fe ail-briododd gan gael tair hanner chwaer i Idwal. Aeth i [[Ysgol Tal-y-sarn]] ac wedyn i [[Ysgol Dyffryn Nantlle|Ysgol Ramadeg Pen-y-groes]].<ref>Cledwyn Jones, ''Idwal ap Ieuan Jones (1906-1937)'',(''Lleu'', Mehefin 2020) t.10</ref> Erbyn 1908 pan fynychai Idwal yr ysgol am y tro cyntaf, yr oedd y teulu'n byw yn Ffordd yr Orsaf. Fe adawodd yr ysgol fach ym 1917 wedi iddo lwyddo i fod yr uchaf ar restr ysgoloriaeth y sir, gan fynd dymlaen i Ysgol Ramadeg Pen-y-groes.<ref>Cofrestrau Mynediad Ysgol Genedlaethol Tal-y-sarn, t.3</ref>
Ganed Idwal 10 Hydref 1905 ym Mhenhafodlas Bach, tŷ yng Nghoetmor, sef rhesiad o dai hanner ffordd rhwng [[Pen-y-groes]] a Thal-y-sarn. Ei rieni oedd Evan a Catherine Mary Jones.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr bedyddiadau plwyf Llanllyfni</ref> Chwarelwr oedd ei dad, a elwid yn "Ifan Garn" gan ei gydnabod. Yr oedd hwnnw'n awdur llyfr sylweddol ar hanes chwareli Dyffryn Nantlle. Bu farw ei wraig pan oedd Idwal yn ifanc ac ymhen rhai blynyddoedd fe ail-briododd ac o'r briodas honno cafwyd tair hanner chwaer i Idwal. Aeth i [[Ysgol Tal-y-sarn]] ac wedyn i [[Ysgol Dyffryn Nantlle|Ysgol Ramadeg Pen-y-groes]].<ref>Cledwyn Jones, ''Idwal ap Ieuan Jones (1906-1937)'',(''Lleu'', Mehefin 2020) t.10</ref> Erbyn 1908 pan fynychodd Idwal yr ysgol am y tro cyntaf, yr oedd y teulu'n byw yn Ffordd yr Orsaf. Fe adawodd yr ysgol fach ym 1917 wedi iddo lwyddo i fod yr uchaf ar restr ysgoloriaeth y sir, gan fynd ymlaen i Ysgol Ramadeg Pen-y-groes.<ref>Cofrestrau Mynediad Ysgol Genedlaethol Tal-y-sarn, t.3</ref>


Yn y man cymhwysodd fel peilot, gan arbenigo mewn hedfan erobatig er mwyn adloniant i'r tyrfaoedd a ddaeth i weld hedfan mentrus gan aelodau Syrcas Hedfan Syr Alan Cobham, yr oedd Idwal Jones yn brif beilot erobatig ynddi. Un o'i gampau oedd codi hances boced o'r ddaear gyda blaen un o adenydd ei awyren.<ref>''Hen Luniau Dyffryn Nantlle'', (Caernarfon, 1985), delwedd 33</ref>
Yn y man cymhwysodd fel peilot, gan arbenigo mewn hedfan erobatig er mwyn adloniant i'r tyrfaoedd a ddaeth i weld hedfan mentrus gan aelodau Syrcas Hedfan Syr Alan Cobham, yr oedd Idwal Jones yn brif beilot erobatig ynddi. Un o'i gampau oedd codi hances boced oddi ar y ddaear gyda blaen un o adenydd ei awyren.<ref>''Hen Luniau Dyffryn Nantlle'', (Caernarfon, 1985), delwedd 33</ref>


Yn y 1930au cynnar, roedd Idwal Jones yn byw adref pan nad oedd yn hedfan. Er bod ganddo car a "dillad Lloegr" (chwedl [[Cledwyn Jones]], awdur erthygl amdano) ar ôl iddo wneud pres da yn y Syrcas Awyr, byddai'n dal i gymdeithasu ar nos Sadwrn gyda hogiau'r dyffryn, a chyrchu rhai ohonynt adref yn ei gar wedi iddynt fwynhau'r noson yn ormodol.<ref>Cledwyn Jones, ''Idwal ap Ieuan Jones (1906-1937)'',(''Lleu'', Mehefin 2020) t.10</ref>
Yn y 1930au cynnar, roedd Idwal Jones yn byw adref pan nad oedd yn hedfan. Er bod ganddo gar a "dillad Lloegr" (chwedl [[Cledwyn Jones]], awdur erthygl amdano) ar ôl iddo wneud pres da yn y Syrcas Awyr, byddai'n dal i gymdeithasu ar nos Sadwrn gyda hogiau'r dyffryn, a chyrchu rhai ohonynt adref yn ei gar wedi iddynt fwynhau'r noson yn ormodol.<ref>Cledwyn Jones, ''Idwal ap Ieuan Jones (1906-1937)'',(''Lleu'', Mehefin 2020) t.10</ref>


Bu farw oherwydd damwain yn 31 oed. Yr oedd yn hedfan awyren yn cario pum o bobl eraill ac yn troi i lanio, pan darodd yr awyren y ddaear ar gyrion Maes Awyr Doncaster, Swydd Efrog, 29 Mai 1937. Roedd yn awyren fwy na'r un arferai Idwal Jones ei hedfan i wneud campau ac nid oedd yn gwneud campau hedfan ond yn rhoi tripiau byr i'r cyhoedd mewn diwrnod agored gan y Llu Awyr yno. Roedd yr awyren Airspeed Courier G-ACSZ yn eiddo i'r  ''North Eastern Airways''. fe'i defnyddid fel arfer i hedfan teithiau masnachol rhwng Maes Awyr Croydon, ac o Gaeredin i Lundain. Fe'i gladdwyd ym mynwent [[Eglwys Sant Ioan, Tal-y-sarn]].<ref>Gwefan Yorkshire Aircraft [http://www.yorkshire-aircraft.co.uk/aircraft/yorkshire/yorksother/acsz.html], cyrchwyd 18.03.2021</ref>
Bu farw oherwydd damwain yn 31 oed. Yr oedd yn hedfan awyren yn cario pump o bobl eraill ac yn troi i lanio, pan darodd yr awyren y ddaear ar gyrion Maes Awyr Doncaster, Swydd Efrog, 29 Mai 1937. Roedd yn awyren fwy na'r un yr arferai Idwal Jones ei hedfan i wneud campau ac nid oedd yn gwneud campau hedfan ond yn rhoi tripiau byr i'r cyhoedd mewn diwrnod agored gan y Llu Awyr yno. Roedd yr awyren Airspeed Courier G-ACSZ yn eiddo i'r  ''North Eastern Airways''. Fe'i defnyddid fel arfer i hedfan teithiau masnachol rhwng Maes Awyr Croydon a Ffrainc, ac o Gaeredin i Lundain. Fe'i claddwyd ym mynwent [[Eglwys Sant Ioan, Tal-y-sarn]].<ref>Gwefan Yorkshire Aircraft [http://www.yorkshire-aircraft.co.uk/aircraft/yorkshire/yorksother/acsz.html], cyrchwyd 18.03.2021</ref> Mae cerfiad o lun awyren ar ei garreg fedd.


Ni ddylid ei gymysgu gyda'i gyfoeswr, y Parch. [[Idwal Jones (gweinidog ac awdur)|Idwal Jones]].
Ni ddylid ei gymysgu gyda'i gyfoeswr, y Parch. [[Idwal Jones (gweinidog ac awdur)|Idwal Jones]].

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:52, 20 Mawrth 2021

Roedd Idwal Jones (1905-1937), neu Idwal ap Ieuan Jones i roi ei enw llawn iddo, yn hanu o Dal-y-sarn. Daeth yn enwog fel peilot yn nyddiau cynnar hedfan masnachol.

Ganed Idwal 10 Hydref 1905 ym Mhenhafodlas Bach, tŷ yng Nghoetmor, sef rhesiad o dai hanner ffordd rhwng Pen-y-groes a Thal-y-sarn. Ei rieni oedd Evan a Catherine Mary Jones.[1] Chwarelwr oedd ei dad, a elwid yn "Ifan Garn" gan ei gydnabod. Yr oedd hwnnw'n awdur llyfr sylweddol ar hanes chwareli Dyffryn Nantlle. Bu farw ei wraig pan oedd Idwal yn ifanc ac ymhen rhai blynyddoedd fe ail-briododd ac o'r briodas honno cafwyd tair hanner chwaer i Idwal. Aeth i Ysgol Tal-y-sarn ac wedyn i Ysgol Ramadeg Pen-y-groes.[2] Erbyn 1908 pan fynychodd Idwal yr ysgol am y tro cyntaf, yr oedd y teulu'n byw yn Ffordd yr Orsaf. Fe adawodd yr ysgol fach ym 1917 wedi iddo lwyddo i fod yr uchaf ar restr ysgoloriaeth y sir, gan fynd ymlaen i Ysgol Ramadeg Pen-y-groes.[3]

Yn y man cymhwysodd fel peilot, gan arbenigo mewn hedfan erobatig er mwyn adloniant i'r tyrfaoedd a ddaeth i weld hedfan mentrus gan aelodau Syrcas Hedfan Syr Alan Cobham, yr oedd Idwal Jones yn brif beilot erobatig ynddi. Un o'i gampau oedd codi hances boced oddi ar y ddaear gyda blaen un o adenydd ei awyren.[4]

Yn y 1930au cynnar, roedd Idwal Jones yn byw adref pan nad oedd yn hedfan. Er bod ganddo gar a "dillad Lloegr" (chwedl Cledwyn Jones, awdur erthygl amdano) ar ôl iddo wneud pres da yn y Syrcas Awyr, byddai'n dal i gymdeithasu ar nos Sadwrn gyda hogiau'r dyffryn, a chyrchu rhai ohonynt adref yn ei gar wedi iddynt fwynhau'r noson yn ormodol.[5]

Bu farw oherwydd damwain yn 31 oed. Yr oedd yn hedfan awyren yn cario pump o bobl eraill ac yn troi i lanio, pan darodd yr awyren y ddaear ar gyrion Maes Awyr Doncaster, Swydd Efrog, 29 Mai 1937. Roedd yn awyren fwy na'r un yr arferai Idwal Jones ei hedfan i wneud campau ac nid oedd yn gwneud campau hedfan ond yn rhoi tripiau byr i'r cyhoedd mewn diwrnod agored gan y Llu Awyr yno. Roedd yr awyren Airspeed Courier G-ACSZ yn eiddo i'r North Eastern Airways. Fe'i defnyddid fel arfer i hedfan teithiau masnachol rhwng Maes Awyr Croydon a Ffrainc, ac o Gaeredin i Lundain. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Ioan, Tal-y-sarn.[6] Mae cerfiad o lun awyren ar ei garreg fedd.

Ni ddylid ei gymysgu gyda'i gyfoeswr, y Parch. Idwal Jones.


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr bedyddiadau plwyf Llanllyfni
  2. Cledwyn Jones, Idwal ap Ieuan Jones (1906-1937),(Lleu, Mehefin 2020) t.10
  3. Cofrestrau Mynediad Ysgol Genedlaethol Tal-y-sarn, t.3
  4. Hen Luniau Dyffryn Nantlle, (Caernarfon, 1985), delwedd 33
  5. Cledwyn Jones, Idwal ap Ieuan Jones (1906-1937),(Lleu, Mehefin 2020) t.10
  6. Gwefan Yorkshire Aircraft [1], cyrchwyd 18.03.2021