Teulu Plas Newydd (Glynllifon): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 10 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Teulu nodedig a oedd yn ddisgynyddion hefyd i [[Cilmin Droed-ddu]] oedd teulu Plas Newydd. Roedd y rheiny a oedd yn byw ym [[Mlas Newydd|Plas Newydd]], Llandwrog yn gangen arall o [[Teulu Glynn, Glynllifon|Deulu'r Glyniaid o Lynllifon]], ac roeddynt wedi ymgartrefu yn [[Llandwrog]] ar ôl symud o’u cartref cynharach yn Nantlle.  
Teulu nodedig a oedd yn ddisgynyddion hefyd i [[Cilmin Droed-ddu]] oedd '''teulu Plas Newydd'''. Roedd y rheiny a oedd yn byw ym [[Plas Newydd, Llandwrog|Mhlas Newydd]], Llandwrog yn gangen arall o [[Teulu Glynn (Glynllifon)|deulu'r Glyniaid o Lynllifon]], ac roeddynt wedi ymgartrefu yn [[Llandwrog]] ar ôl symud o’u cartref cynharach yn Nantlle.  


Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, rhannwyd ystâd Robert ap Meredudd rhwng ei febion – Rhisiart ap Robert yn etifeddu tiroedd yr ystâd yn Nantlle, ac Edmund Lloyd yn cael Glynllifon. Disgynydd i Rhisiart ap Robert oedd Thomas Glynn o’r Nantlle, a briododd a Jane Griffith merch John Griffith, Cefnamlwch. Ef a symudodd y teulu i [[Plas Newydd|Blas Newydd]] o gwmpas 1632, ac yno y bu ei ddisgynyddion yn byw hyd at 1681. John Glynn oedd yr aelod olaf o’r teulu i fyw ym Mhlas Newydd, ac ar ôl ei farwolaeth aeth ei ystâd i’w berthnasau ym Modeon, Ynys Môn ac Orielton, Sir Benfro.  
Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, rhannwyd ystâd Robert ap Meredudd rhwng ei feibion – Rhisiart ap Robert yn etifeddu tiroedd yr ystâd yn Nantlle, ac Edmund Lloyd yn cael Glynllifon. Disgynnydd i Rhisiart ap Robert oedd Thomas Glynn o Nantlle, a briododd â Jane Griffith, merch John Griffith, Cefnamlwch. Ef a symudodd y teulu i [[Plas Newydd, Llandwrog| Blas Newydd]] o gwmpas 1632, ac yno y bu ei ddisgynyddion yn byw hyd at 1681. John Glynn oedd yr aelod olaf o’r teulu i fyw ym Mhlas Newydd, ac ar ôl ei farwolaeth aeth ei ystâd i’w berthnasau ym Modeon, Ynys Môn ac Orielton, Sir Benfro.  


==Ffynonellau==
==Ffynonellau==


[http://orapweb.rcahms.gov.uk/coflein//D/DCP2013_045_01.pdf Adroddiad Prosiect Dendrogronoleg Gogledd-Orllewin Cymru ar Tŷ Mawr, Nantlle.]
* [http://orapweb.rcahms.gov.uk/coflein//D/DCP2013_045_01.pdf Adroddiad Prosiect Dendrogronoleg Gogledd-Orllewin Cymru ar Tŷ Mawr, Nantlle.]


Griffith, J. E. ''The Pedigrees of Caernarvonshire and Anglesey Families'' (Llundain, 1914)
* Griffith, J. E. ''The Pedigrees of Caernarvonshire and Anglesey Families'' (Llundain, 1914)


[[Categori: Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori: Unigolion a theuluoedd nodedig]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:55, 3 Ebrill 2022

Teulu nodedig a oedd yn ddisgynyddion hefyd i Cilmin Droed-ddu oedd teulu Plas Newydd. Roedd y rheiny a oedd yn byw ym Mhlas Newydd, Llandwrog yn gangen arall o deulu'r Glyniaid o Lynllifon, ac roeddynt wedi ymgartrefu yn Llandwrog ar ôl symud o’u cartref cynharach yn Nantlle.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, rhannwyd ystâd Robert ap Meredudd rhwng ei feibion – Rhisiart ap Robert yn etifeddu tiroedd yr ystâd yn Nantlle, ac Edmund Lloyd yn cael Glynllifon. Disgynnydd i Rhisiart ap Robert oedd Thomas Glynn o Nantlle, a briododd â Jane Griffith, merch John Griffith, Cefnamlwch. Ef a symudodd y teulu i Blas Newydd o gwmpas 1632, ac yno y bu ei ddisgynyddion yn byw hyd at 1681. John Glynn oedd yr aelod olaf o’r teulu i fyw ym Mhlas Newydd, ac ar ôl ei farwolaeth aeth ei ystâd i’w berthnasau ym Modeon, Ynys Môn ac Orielton, Sir Benfro.

Ffynonellau

  • Griffith, J. E. The Pedigrees of Caernarvonshire and Anglesey Families (Llundain, 1914)