Frederick George Wynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 4: Llinell 4:


Gwasanaethodd fel Dirprwy Arglwydd Raglaw'r Sir, ac fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1894.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.173.</ref>
Gwasanaethodd fel Dirprwy Arglwydd Raglaw'r Sir, ac fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1894.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.173.</ref>
Yn ei gyfrol ddifyr o atgofion, ''Ar draws ac ar hyd'', mae'r diweddar Dr [[John Gwilym Jones]], [[Y Groeslon]], yn sôn fel yr oedd wal enfawr [[Wal Glynllifon|Glynllifon]] yn ddychryn i bawb yn yr ardal gyda'r bwlch rhwng y teulu breintiedig o fewn ei muriau a'r werin bobl y tu allan iddi yn ymddangos yn enfawr bryd hynny. Ac roedd ganddo un atgof pur hunllefus am Frederick George Wynn, ac mae'n werth ei ddyfynnu yma:
"... roedd y wal honno yn ddychryn i bawb yn yr ardal. Y tu mewn iddi safai Plas Glynllifon, cartref ''The Honourable'' F.G. Wynne. Unwaith erioed y gwelais i hwnnw yn fy mywyd a hynny mewn rasys cŵn defaid yn [[Llandwrog]]. Roedd ganddo glogyn mawr amdano ac ni welais i ddyn hyllach yn fy nydd. Roedd o'n hyll ryfeddol er eu bod nhw'n dweud, ac mae'n debyg bod hynny'n hollol wir, ei fod yn perthyn i deulu Bourbon o Ffrainc. Medrodd [[Maria Stella Petronella Chiappini|Maria Stella]], ei nain, brofi ei bod hi o'r teulu hwnnw, a oedd, mae'n debyg, yn bobl dlws iawn ac yn hollol wahanol i'r ''Honourable'' Frederick, y dyn hyll mewn clogyn du a defaid ar ei wyneb oedd yn ddychryn mawr i ni'r plant."<ref> John Gwilym Jones, ''Ar draws ac ar hyd'', (Gwasg Gwynedd, 1986), t.21.</ref>
Cofiaf hefyd i'r diweddar John Francis Jones (gynt o Benrallt a Chilcoed, Clynnog) sôn wrthyf unwaith ei fod allan ar y stryd yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] ryw gyda'r nos pan oedd tua deg oed (ym 1932), a beth ddaeth drwy'r pentref ond gorymdaith angladdol Frederick (neu Freddie) Wynn. Roedd John yn cofio bod yr hers yn cael ei thynnu gan ddau geffyl du a rheini'n sgleinio a chyda phlu duon yn addurno eu pennau. Roedd yr arch hefyd fel y gellid disgwyl yn un ddrudfawr a chaboledig, pur wahanol i eirch pobl gyffredin y cyfnod. Roedd Frederick ar ei ffordd i'w orffwysfa olaf ym meddrod y teulu yn eglwys Boduan, ac mae'n debyg bod y gwasanaeth claddu i'w gynnal fore trannoeth ac mai dyna pam roedd y corff yn cael ei gludo o Glynllifon i Foduan gyda'r nos. 


{{eginyn}}
{{eginyn}}


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Tirfeddianwyr]]
[[Categori:Tirfeddianwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:41, 29 Mawrth 2021

Yr Anrh. Frederick George Wynn (1853-1932) oedd y mab ieuengaf o bedwar mab Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough a'i wraig Fanny (Frances Maria Wilkins).[1] Fo etifeddodd ystadau Glynllifon a Boduan oddi wrth ei dad ar farwolaeth hwnnw ym 1888. Ni phriododd, ond dewisodd fyw bywyd hen lanc yn y Plas, lle cynhelid llawer o bartïon saethu a hela. Roedd hefyd yn parhau â thraddodiad y teulu o hwylio yn ei gwch ei hun a gedwid yng Nghaer Belan.

Dilynodd yn nhraed ei dad a'i daid trwy ymddiddori mewn adeiladu a gwella'r ystâd, gan adeiladu adain newydd i'r Plas ar gyfer ei bartïon o ymwelwyr, ystafell biliards a hyd yn oed theatr. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf aeth yr ystâd i ddyled, oherwydd costau cynnal y plas a chwch stêm F.G. Wynn, a gadawodd yr ystâd mewn dyled sylweddol ar ei farwolaeth.[2]

Gwasanaethodd fel Dirprwy Arglwydd Raglaw'r Sir, ac fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1894.[3]

Yn ei gyfrol ddifyr o atgofion, Ar draws ac ar hyd, mae'r diweddar Dr John Gwilym Jones, Y Groeslon, yn sôn fel yr oedd wal enfawr Glynllifon yn ddychryn i bawb yn yr ardal gyda'r bwlch rhwng y teulu breintiedig o fewn ei muriau a'r werin bobl y tu allan iddi yn ymddangos yn enfawr bryd hynny. Ac roedd ganddo un atgof pur hunllefus am Frederick George Wynn, ac mae'n werth ei ddyfynnu yma:

"... roedd y wal honno yn ddychryn i bawb yn yr ardal. Y tu mewn iddi safai Plas Glynllifon, cartref The Honourable F.G. Wynne. Unwaith erioed y gwelais i hwnnw yn fy mywyd a hynny mewn rasys cŵn defaid yn Llandwrog. Roedd ganddo glogyn mawr amdano ac ni welais i ddyn hyllach yn fy nydd. Roedd o'n hyll ryfeddol er eu bod nhw'n dweud, ac mae'n debyg bod hynny'n hollol wir, ei fod yn perthyn i deulu Bourbon o Ffrainc. Medrodd Maria Stella, ei nain, brofi ei bod hi o'r teulu hwnnw, a oedd, mae'n debyg, yn bobl dlws iawn ac yn hollol wahanol i'r Honourable Frederick, y dyn hyll mewn clogyn du a defaid ar ei wyneb oedd yn ddychryn mawr i ni'r plant."[4]

Cofiaf hefyd i'r diweddar John Francis Jones (gynt o Benrallt a Chilcoed, Clynnog) sôn wrthyf unwaith ei fod allan ar y stryd yng Nghlynnog ryw gyda'r nos pan oedd tua deg oed (ym 1932), a beth ddaeth drwy'r pentref ond gorymdaith angladdol Frederick (neu Freddie) Wynn. Roedd John yn cofio bod yr hers yn cael ei thynnu gan ddau geffyl du a rheini'n sgleinio a chyda phlu duon yn addurno eu pennau. Roedd yr arch hefyd fel y gellid disgwyl yn un ddrudfawr a chaboledig, pur wahanol i eirch pobl gyffredin y cyfnod. Roedd Frederick ar ei ffordd i'w orffwysfa olaf ym meddrod y teulu yn eglwys Boduan, ac mae'n debyg bod y gwasanaeth claddu i'w gynnal fore trannoeth ac mai dyna pam roedd y corff yn cael ei gludo o Glynllifon i Foduan gyda'r nos.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.173.
  2. Michael Stammers, A Maritime Fortress, (Caerdydd, 2001), t.8
  3. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.173.
  4. John Gwilym Jones, Ar draws ac ar hyd, (Gwasg Gwynedd, 1986), t.21.