Elis Dafydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Bardd a fagwyd yn [[ | Bardd a fagwyd yn [[Trefor|Nhrefor]] yw '''Elis Dafydd''', ac mae'n frawd iau i'r Prifardd [[Guto Dafydd]]. Fel ei frawd, dechreuodd Elis Dafydd ymhel â llenydda a barddoni yn ei arddegau, pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, gan ennill nifer o wobrau mewn eisteddfodau lleol. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Eisteddfod Caerffili a'r Cylch yn 2015 ac mae wedi cyhoeddi cyfrol fer o gerddi, "Chwilio am dân" (Cyhoeddiadau Barddas), yn 2016. Fel ei frawd, graddiodd Elis Dafydd gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor a chyflawnodd waith ymchwil am ddoethuriaeth ar fywyd a gwaith y llenor [[John Rowlands]]. Bu'n gweithio fel cyfieithydd gyda Chyngor Bwrdeisdref Conwy am gyfnod byr ac yn 2021 fe'i penodwyd i swydd ddarlithio yn ei hen adran, Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor. | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:48, 10 Mai 2022
Bardd a fagwyd yn Nhrefor yw Elis Dafydd, ac mae'n frawd iau i'r Prifardd Guto Dafydd. Fel ei frawd, dechreuodd Elis Dafydd ymhel â llenydda a barddoni yn ei arddegau, pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, gan ennill nifer o wobrau mewn eisteddfodau lleol. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Eisteddfod Caerffili a'r Cylch yn 2015 ac mae wedi cyhoeddi cyfrol fer o gerddi, "Chwilio am dân" (Cyhoeddiadau Barddas), yn 2016. Fel ei frawd, graddiodd Elis Dafydd gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor a chyflawnodd waith ymchwil am ddoethuriaeth ar fywyd a gwaith y llenor John Rowlands. Bu'n gweithio fel cyfieithydd gyda Chyngor Bwrdeisdref Conwy am gyfnod byr ac yn 2021 fe'i penodwyd i swydd ddarlithio yn ei hen adran, Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma