John Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 3 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Am flynyddoedd lawer bu'r llyfryn bychan hwnnw, ''Rhodd Mam'', yn rhan bwysig o hyfforddiant plant ifanc yn yr Ysgol Sul ac ym mhlwyf [[Llandwrog]] y ganed ei awdur, [[John Parry]], er mai yn ninas Caer y treuliodd gyfran sylweddol o'i oes.  
Am flynyddoedd lawer bu'r llyfryn bychan hwnnw, ''Rhodd Mam'', yn rhan bwysig o hyfforddiant plant ifanc yn yr Ysgol Sul ac ym mhlwyf [[Llandwrog]] y ganed ei awdur, [[John Parry]], er mai yn ninas Caer y treuliodd gyfran sylweddol o'i oes.  


Ar 7 Mai 1775 y ganed John Parry, yn Groeslon-grugan, (lle saif pentref [[Y Groeslon heddiw) ym mhlwyf Llandwrog, yn fab i Owen a Jane Parry. Yn blentyn cafodd dymor o ysgol yn un o Ysgolion Madam Bevan, fel y gelwid hwy, a gedwid ym [[Capel Bryn'rodyn (MC)|Mrynrodyn]], a chafodd gyfnodau pellach o addysg gyda John Roberts (John Roberts, Llangwm]] yn ddiweddarach - un o feibion [[Ffridd Baladeulyn]],[[ Nantlle]] a brawd i'r pregethwr tanbaid [[Robert Roberts, Clynnog]]) yn [[Llanllyfni]] ac yn ysgol adnabyddus [[Evan Richardson]] yng Nghaernarfon.  
Ar 7 Mai 1775 y ganed John Parry, yn Groeslon-grugan, (lle saif pentref [[Y Groeslon]] heddiw) ym mhlwyf Llandwrog, yn fab i Owen a Jane Parry. Yn blentyn cafodd dymor o ysgol yn un o Ysgolion Madam Bevan, fel y gelwid hwy, a gedwid ym [[Capel Bryn'rodyn (MC)|Mrynrodyn]], a chafodd gyfnodau pellach o addysg gyda [[David Wilson]] yn ei ysgol yn [[Groeslon Ffrwd]],  a chyda John Roberts ([[John Roberts, Llangwm]] yn ddiweddarach) - un o feibion [[Ffridd Baladeulyn]], [[ Nantlle]] a brawd i'r pregethwr tanbaid [[Robert Roberts, gweinidog Capel Uchaf]]) yn [[Llanllyfni]] ac yn ysgol adnabyddus [[Evan Richardson]] yng Nghaernarfon.  


Ym 1793 gadawodd [[Uwchgwyrfai]] a symud dros y Fenai i Fôn i gadw ysgol ei hun ym Mrynsiencyn - ysgol a hyfforddai blant yn ystod y dydd ac oedolion gyda'r nos. Dechreuodd bregethu'n fuan wedyn ac ym 1800 symudodd i Gaergybi. Aeth cyn belled â Sir y Fflint i chwilio am wraig, gan briodi â Miss Bellis o ardal Caerfallwch (a elwir yn Rhosesmor yn gyffredin erbyn hyn). Yn fuan wedi'r briodas symudodd i Lundain gan wasanaethu yno fel pregethwr a hefyd gynorthwyo Thomas Charles i ddarllen proflenni'r Beibl Cymraeg a gyhoeddid gan y Gymdeithas Feiblau.  
Ym 1793 gadawodd [[Uwchgwyrfai]] a symud dros y Fenai i Fôn i gadw ysgol ei hun ym Mrynsiencyn - ysgol a hyfforddai blant yn ystod y dydd ac oedolion gyda'r nos gan ddilyn yn nhraed ei hen athro David Wilson o bosibl wrth i hwnnw symud ymlaen o Frynsiencyn (lle bu'n cadw ysgol o 1789 ymlaen) i Lanllechid. Dechreuodd Parry bregethu'n fuan wedyn ac ym 1800 symudodd i Gaergybi. Aeth cyn belled â Sir y Fflint i chwilio am wraig, gan briodi â Miss Bellis o ardal Caerfallwch (a elwir yn Rhosesmor yn gyffredin erbyn hyn). Yn fuan wedi'r briodas symudodd i Lundain gan wasanaethu yno fel pregethwr a hefyd gynorthwyo Thomas Charles i ddarllen proflenni'r Beibl Cymraeg a gyhoeddid gan y Gymdeithas Feiblau.  


Ym 1806 ymsefydlodd John Parry a'i briod yn ninas Caer. Ar ôl cadw siop ddillad yno am gyfnod byr sefydlodd fasnach lyfrau a gwasg hynod lwyddiannus yng Nghaer. Roedd yn ddiwyd, trefnus a manwl fel argraffydd a dyn busnes a chyhoeddwyd toreth o lyfrau Cymraeg, o natur grefyddol yn bennaf, gan wasg John Parry yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yn awdur cynhyrchiol iawn ei hun hefyd. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau diwinyddol sylweddol, ynghyd â dau lyfr gramadeg, ond mae'n debyg y cofir ef yn arbennig fel awdur y ''Rhodd Mam''.  
Ym 1806 ymsefydlodd John Parry a'i briod yn ninas Caer. Ar ôl cadw siop ddillad yno am gyfnod byr sefydlodd fasnach lyfrau a gwasg hynod lwyddiannus yng Nghaer. Roedd yn ddiwyd, trefnus a manwl fel argraffydd a dyn busnes a chyhoeddwyd toreth o lyfrau Cymraeg, o natur grefyddol yn bennaf, gan wasg John Parry yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yn awdur cynhyrchiol iawn ei hun hefyd. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau diwinyddol sylweddol, ynghyd â dau lyfr gramadeg, ond mae'n debyg y cofir ef yn arbennig fel awdur y ''Rhodd Mam''.  

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:38, 21 Chwefror 2022

Am flynyddoedd lawer bu'r llyfryn bychan hwnnw, Rhodd Mam, yn rhan bwysig o hyfforddiant plant ifanc yn yr Ysgol Sul ac ym mhlwyf Llandwrog y ganed ei awdur, John Parry, er mai yn ninas Caer y treuliodd gyfran sylweddol o'i oes.

Ar 7 Mai 1775 y ganed John Parry, yn Groeslon-grugan, (lle saif pentref Y Groeslon heddiw) ym mhlwyf Llandwrog, yn fab i Owen a Jane Parry. Yn blentyn cafodd dymor o ysgol yn un o Ysgolion Madam Bevan, fel y gelwid hwy, a gedwid ym Mrynrodyn, a chafodd gyfnodau pellach o addysg gyda David Wilson yn ei ysgol yn Groeslon Ffrwd, a chyda John Roberts (John Roberts, Llangwm yn ddiweddarach) - un o feibion Ffridd Baladeulyn, Nantlle a brawd i'r pregethwr tanbaid Robert Roberts, gweinidog Capel Uchaf) yn Llanllyfni ac yn ysgol adnabyddus Evan Richardson yng Nghaernarfon.

Ym 1793 gadawodd Uwchgwyrfai a symud dros y Fenai i Fôn i gadw ysgol ei hun ym Mrynsiencyn - ysgol a hyfforddai blant yn ystod y dydd ac oedolion gyda'r nos gan ddilyn yn nhraed ei hen athro David Wilson o bosibl wrth i hwnnw symud ymlaen o Frynsiencyn (lle bu'n cadw ysgol o 1789 ymlaen) i Lanllechid. Dechreuodd Parry bregethu'n fuan wedyn ac ym 1800 symudodd i Gaergybi. Aeth cyn belled â Sir y Fflint i chwilio am wraig, gan briodi â Miss Bellis o ardal Caerfallwch (a elwir yn Rhosesmor yn gyffredin erbyn hyn). Yn fuan wedi'r briodas symudodd i Lundain gan wasanaethu yno fel pregethwr a hefyd gynorthwyo Thomas Charles i ddarllen proflenni'r Beibl Cymraeg a gyhoeddid gan y Gymdeithas Feiblau.

Ym 1806 ymsefydlodd John Parry a'i briod yn ninas Caer. Ar ôl cadw siop ddillad yno am gyfnod byr sefydlodd fasnach lyfrau a gwasg hynod lwyddiannus yng Nghaer. Roedd yn ddiwyd, trefnus a manwl fel argraffydd a dyn busnes a chyhoeddwyd toreth o lyfrau Cymraeg, o natur grefyddol yn bennaf, gan wasg John Parry yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yn awdur cynhyrchiol iawn ei hun hefyd. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau diwinyddol sylweddol, ynghyd â dau lyfr gramadeg, ond mae'n debyg y cofir ef yn arbennig fel awdur y Rhodd Mam.

Roedd yn eithriadol frwd dros fudiadau fel y genhadaeth gartref a thramor, addysg grefyddol a gwaith yr Ysgol Sul. Fe'i hordeiniwyd yn weinidog ym 1814 a chymerodd ran yn y gwaith o lunio Cyffes Ffydd y Methodistiaid Calfinaidd ym 1823. Ar ôl iddo sefydlu ei wasg ei hun, cychwynnodd gylchgrawn misol o'r enw Goleuad Gwynedd ym 1818. Dair blynedd yn ddiweddarach, newidiwyd hwnnw'n gyhoeddiad anenwadol a'i gyhoeddi dan yr enw Goleuad Cymru. Yn ogystal ag ymdrin â materion crefyddol amryfal, roedd y Goleuad hefyd yn cynnwys llawer o newyddion o Gymru, yn ogystal â newyddion o wledydd eraill Prydain ac ymdrin â materion rhyngwladol. Roedd y newyddion hyn fel rheol yn addasiadau o newyddion a gyhoeddid mewn papurau newydd Saesneg. Yn ogystal rhoddid lle amlwg i farddoniaeth ynddo ac i lythyrau oddi wrth y darllenwyr. Roedd ei bris yn bedair ceiniog y rhifyn ac roedd yn bapur newydd pur sylweddol yn ôl safonau'r cyfnod. Yn Ionawr 1831 fe wnaeth John Parry hefyd ddechrau'r fenter o gyhoeddi cyfres newydd o'r cylchgrawn Y Drysorfa, a oedd wedi dod allan yn fylchog cyn hynny, a bu'n ei olygu tan ddiwedd ei oes.

Bu farw yng Nghaer ar 28 Ebrill 1846. [1]

Cyfeiriadau

  1. Gweler ysgrif gan Y Parch Richard Thomas yn Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein.