Afon Llyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Afon Llyfni''' yw prif afon [[Dyffryn Nantlle]]. Mae | '''Afon Llyfni''' yw prif afon [[Dyffryn Nantlle]]. Mae'n llifo mewn gwirionedd o Lyn Bwlch-y-moch uwchben [[Drws-y-coed]] ym mhen uchaf y dyffryn trwy [[Llyn Nantlle Uchaf]], heibio pentrefi [[Tal-y-sarn]] a [[Llanllyfni]] (sydd wedi cael ei enwi ar ôl yr afon yn hytrach na nawddsant y plwyf, [[Rhedyw Sant]]), ac ymlaen hyd [[Pontlyfni]] gan arllwys i'r môr ym [[Bae Caernarfon|Mae Caernarfon]] yn y fan honno. Fodd bynnag, yr enw a roddir ar ddarn uchaf yr afon, o'i tharddiad hyd Llyn Nantlle Uchaf, yw [[Afon Drws-y-coed]]. O ran enw prif ddarn yr afon, enw gwneud mewn gwirionedd ar [[Afon Llyfni]], a fabwysiadwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yw "Llyfnwy", er bod llawer yn ei arddel gan feddwl ei fod yn fwy Cymreigaidd. Noda'r rhestr safonol o enwau, fodd bynnag, mai Afon Llyfni sy'n gywir,<ref>Elwyn Davies (gol.), ''Rhestr o Enwau Lleoedd'', (Caerdydd, 3ydd argraffiad, 1967), t.8</ref> ac yr oedd yr arbenigwr Melville Richards y cytuno. Meddai | ||
Terfyniad yn ''-i'' sydd yma, nid yn ''-wy'' fel y tybid yn y ganrif ddiwethaf (sef y 19fed g.), ac er bod y ffurf ''Llyfnwy'' wedi bod yn ffasiwn ar un adeg, nid oes sail iddi o gwbl.<ref>Melville Richards, ''Enwau Tir a Gwlad'', (Caernarfon, 1998), t.190</ref> | Terfyniad yn ''-i'' sydd yma, nid yn ''-wy'' fel y tybid yn y ganrif ddiwethaf (sef y 19fed g.), ac er bod y ffurf ''Llyfnwy'' wedi bod yn ffasiwn ar un adeg, nid oes sail iddi o gwbl.<ref>Melville Richards, ''Enwau Tir a Gwlad'', (Caernarfon, 1998), t.190</ref> | ||
Fe ddargyfeiriwyd yr afon tua 1891, gan ffurfio cwrs newydd rhwng ceg uchaf y llyn lle rhedai Llyn Nantlle Uchaf iddo a man yn nes at Dal-y-sarn.<ref>''Hen Luniau Dyffryn Nantlle'', (Caernarfon, 1985), llun 34 a'r capsiwn</ref> | Fe ddargyfeiriwyd yr afon tua 1891, gan ffurfio cwrs newydd iddi rhwng ceg uchaf y llyn lle rhedai Llyn Nantlle Uchaf iddo a man yn nes at Dal-y-sarn.<ref>''Hen Luniau Dyffryn Nantlle'', (Caernarfon, 1985), llun 34 a'r capsiwn</ref> | ||
[[Delwedd:Dargyfeirio afon llyfni 1891.jpg|bawd|de|350px| Dargyfeirio Afon Llyfni tua 1891. Plas Dorothea yn y cefndir.]] | |||
Yr oedd nifer o [[Melinau Afon Llyfnwy|felinau]] ar ei glannau, ac er nad yw'r afon yn llifo'n arbennig o gyflym fel | Yr oedd nifer o [[Melinau Afon Llyfnwy|felinau]] ar ei glannau, ac er nad yw'r afon yn llifo'n arbennig o gyflym fel rheol (fel mae enw'r afon yn ei gyfleu - sef dŵr llyfn), roedd digon o ddŵr ynddi i'r melinwyr greu ffosydd a ffrydiau melin i droi'r olwynion cyn ail-gyfeirio'r dŵr yn ôl i'r afon fawr. | ||
Mae'n afon sy'n dal i ddenu pysgotwyr i ddal eogiaid a sewiniaid. | Mae'n afon sy'n dal i ddenu pysgotwyr i ddal eogiaid a sewiniaid. |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:34, 5 Ebrill 2022
Afon Llyfni yw prif afon Dyffryn Nantlle. Mae'n llifo mewn gwirionedd o Lyn Bwlch-y-moch uwchben Drws-y-coed ym mhen uchaf y dyffryn trwy Llyn Nantlle Uchaf, heibio pentrefi Tal-y-sarn a Llanllyfni (sydd wedi cael ei enwi ar ôl yr afon yn hytrach na nawddsant y plwyf, Rhedyw Sant), ac ymlaen hyd Pontlyfni gan arllwys i'r môr ym Mae Caernarfon yn y fan honno. Fodd bynnag, yr enw a roddir ar ddarn uchaf yr afon, o'i tharddiad hyd Llyn Nantlle Uchaf, yw Afon Drws-y-coed. O ran enw prif ddarn yr afon, enw gwneud mewn gwirionedd ar Afon Llyfni, a fabwysiadwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yw "Llyfnwy", er bod llawer yn ei arddel gan feddwl ei fod yn fwy Cymreigaidd. Noda'r rhestr safonol o enwau, fodd bynnag, mai Afon Llyfni sy'n gywir,[1] ac yr oedd yr arbenigwr Melville Richards y cytuno. Meddai
Terfyniad yn -i sydd yma, nid yn -wy fel y tybid yn y ganrif ddiwethaf (sef y 19fed g.), ac er bod y ffurf Llyfnwy wedi bod yn ffasiwn ar un adeg, nid oes sail iddi o gwbl.[2]
Fe ddargyfeiriwyd yr afon tua 1891, gan ffurfio cwrs newydd iddi rhwng ceg uchaf y llyn lle rhedai Llyn Nantlle Uchaf iddo a man yn nes at Dal-y-sarn.[3]
Yr oedd nifer o felinau ar ei glannau, ac er nad yw'r afon yn llifo'n arbennig o gyflym fel rheol (fel mae enw'r afon yn ei gyfleu - sef dŵr llyfn), roedd digon o ddŵr ynddi i'r melinwyr greu ffosydd a ffrydiau melin i droi'r olwynion cyn ail-gyfeirio'r dŵr yn ôl i'r afon fawr.
Mae'n afon sy'n dal i ddenu pysgotwyr i ddal eogiaid a sewiniaid.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma