John Roberts, Ysgol Llanaelhaearn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Geraint (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bu tri John Roberts yn ysgolfeistri yn Llanaelhaearn. Hwn yw yr ail un. Un o'i amlycaf ddoniau oedd llunio penillion ar gyfer rhyw amgylchiadau neu'i gily...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Bu tri John Roberts yn ysgolfeistri yn Llanaelhaearn. Hwn yw yr ail un. Un o'i amlycaf ddoniau oedd llunio penillion ar gyfer rhyw amgylchiadau neu'i gilydd. | Bu tri '''John Roberts''' yn ysgolfeistri yn [[Llanaelhaearn]]. Hwn yw yr ail un. Un o'i amlycaf ddoniau oedd llunio penillion ar gyfer rhyw amgylchiadau neu'i gilydd. | ||
Ei gerdd fwyaf adnabyddus yw ei gerdd hir o 16 o benillion wyth llinell sy'n disgrifio'n fanwl yr olygfa odidog a geir (ar ddiwrnod clir) i bob cyfeiriad o'r hen gaer Frythonig sydd ar ben Mynydd Ceiri, y mwyaf dwyreiniol o driban Yr Eifl. Bu'r gerdd yn fuddugol mewn eisteddfod ac fe'i cyflwynir "I Ymwelwyr â Thre Ceiri, Llanaelhaiarn". Argraffwyd y gerdd fel pamffledyn gan Richard Jones, yr argraffydd o Bwllheli, a'i gwerthu am chwe cheiniog. | Ei gerdd fwyaf adnabyddus yw ei gerdd hir o 16 o benillion wyth llinell sy'n disgrifio'n fanwl yr olygfa odidog a geir (ar ddiwrnod clir) i bob cyfeiriad o'r hen gaer Frythonig sydd ar ben [[Mynydd Ceiri]], y mwyaf dwyreiniol o driban [[Yr Eifl]]. Bu'r gerdd yn fuddugol mewn eisteddfod ac fe'i cyflwynir "I Ymwelwyr â [[Tre'r Ceiri|Thre Ceiri]], Llanaelhaiarn". Argraffwyd y gerdd fel pamffledyn gan Richard Jones, yr argraffydd o Bwllheli, a'i gwerthu am chwe cheiniog. | ||
Dyma rai penillion o'r gerdd (penillion 1, 6, 14 a 15). | Dyma rai penillion o'r gerdd (penillion 1, 6, 14 a 15). | ||
Llinell 79: | Llinell 79: | ||
''Yn llawn o henafion i ni.'' | ''Yn llawn o henafion i ni.'' | ||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Beirdd]] | |||
[[Categori:Athrawon]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:03, 13 Chwefror 2020
Bu tri John Roberts yn ysgolfeistri yn Llanaelhaearn. Hwn yw yr ail un. Un o'i amlycaf ddoniau oedd llunio penillion ar gyfer rhyw amgylchiadau neu'i gilydd.
Ei gerdd fwyaf adnabyddus yw ei gerdd hir o 16 o benillion wyth llinell sy'n disgrifio'n fanwl yr olygfa odidog a geir (ar ddiwrnod clir) i bob cyfeiriad o'r hen gaer Frythonig sydd ar ben Mynydd Ceiri, y mwyaf dwyreiniol o driban Yr Eifl. Bu'r gerdd yn fuddugol mewn eisteddfod ac fe'i cyflwynir "I Ymwelwyr â Thre Ceiri, Llanaelhaiarn". Argraffwyd y gerdd fel pamffledyn gan Richard Jones, yr argraffydd o Bwllheli, a'i gwerthu am chwe cheiniog.
Dyma rai penillion o'r gerdd (penillion 1, 6, 14 a 15).
CÂN FUDDUGOL
YR OLYGFA O BEN Y CEIRI
GAN J.ROBERTS, C.M., LLANAELHAIARN
I gopa y Ceiri cyrhaeddais
Mewn lludded ar desog ddydd haf,
Ond buan ces brofi llawenydd
Mewn awyr iach, dyner, yn braf :
Tra'n syllu mewn syndod o'm cwmpas
Yn f'ysbryd yr Awen ymeifl,
A'm llygaid yn llawn o edmygedd
Sy'n canfod prydferthion yr Eifl.
Y Moelwyn, Moel Gest, a Moel Hebog,
Ynt oll a'u copâu yn glir ;
A dacw y Gaer a Moel Bentyrch
Yn amlwg yn nghanol y tir :
Mae Moelydd Llechgaran a Charnguwch
I'w canfod wrth edrych i lawr ;
A mynydd y Rhiw, a Charn Fadryn
Ganfyddir yn Lleyn fel dau gawr.
Nawr chwarel yr Eifl sydd yn ymyl,
A Threfor yn deg wrth ei throed,
A gwelir Llandwrog a'r Ddinas,
A phalas Glynllifon a'r coed ;
Ardaloedd Pen'groes a Rhostryfan,
A chwarel y Cilgwyn sydd draw,
Tra'r Fenai a'i phontydd ardderchog
Wnânt Arfon a Môn ysgwyd llaw.
Gwastadedd Sir Fôn o Gaergybi
I lannau y Fenai sydd glir,
A chreigiau'r Eryri ddyrchafant
Eu pennau yn uwch na'r un Sir :
Caernarfon henafol a'i chastell,
Sydd acw yn enwog ei bri,
Ac yma mae Clynnog iachusol
Yn llawn o henafion i ni.