Thomas Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
'''I Thomas Hughes, Cae Glas''' | '''I Thomas Hughes, Cae Glas''' | ||
''Gŵr hynaws a gâr henwr - a chlodus'' | ''Gŵr hynaws a gâr henwr - a chlodus'' | ||
''Fel gwych ysgrifenwr,'' | ''Fel gwych ysgrifenwr,'' | ||
Llinell 15: | Llinell 14: | ||
'''Y Trosol''' | '''Y Trosol''' | ||
''Troi seiliau wna trosolion - y creigiau'' | ''Troi seiliau wna trosolion - y creigiau'' | ||
''A graciant yn sgyrsion ;'' | ''A graciant yn sgyrsion ;'' |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:33, 10 Chwefror 2020
Gŵr amlwg yn yr ardal oedd Thomas Hughes, Cae Glas, Llanaelhaearn - yn flaenor yng nghapel Y Babell (MC), Llanaelhaearn, yn arweinydd eisteddfodau a chyngherddau, ac yn fardd a enillodd lu o wobrau mewn cyfarfodydd cystadleuol yn y fro.
Gweithiai fel Stiward yn Chwarel yr Eifl, Trefor. Yn ddiweddarach daeth yn Brif Glerc y chwarel. Gŵr uchel iawn ei barch gan weithwyr a meistri. Hannai o'r un cyff â Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon (Robin Goch), y bardd-arlunydd-bregethwr adnabyddus. Dyma englyn teyrnged a gyfansoddwyd iddo gan Celynydd (John Hugh Jones) y bardd o Fryn Celyn Ucha, Llithfaen.
I Thomas Hughes, Cae Glas Gŵr hynaws a gâr henwr - a chlodus Fel gwych ysgrifenwr, Gonest waith fe'i gwna'n siŵr ; Pwy sy' fel yr hen bwyswr ?
Cynhyrchodd Thomas Hughes yntau doreth o englynion, ond, ysywaeth, does ond ychydig iawn ohonynt ar gof a chadw. Lluniodd yr englyn canlynol ar gyfer eisteddfod leol ym 1881 - a do, fe enillodd y wobr gyntaf !
Y Trosol Troi seiliau wna trosolion - y creigiau A graciant yn sgyrsion ; Wrth y brig fe wna wyrth bron, Crea ef ddynion cryfion.