Alwyn Hughes-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Alwyn Hughes-Jones''' oedd Uchel Siryf olaf Sir Gaernarfon, ym 1973-4. Bu'r swydd mewn bodolaeth ers y Canol opesoedd, er iddi troi'n rôl seremon...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:23, 17 Mehefin 2019

Alwyn Hughes-Jones oedd Uchel Siryf olaf Sir Gaernarfon, ym 1973-4. Bu'r swydd mewn bodolaeth ers y Canol opesoedd, er iddi troi'n rôl seremonïol ymhell cyn y 20g. Wedi 1974, penodwyd Uchel Siryf ar gyfer sir newydd Gwynedd.

Roedd Alwyn Hughes-Jones yn gyfrifydd wrth ei alwedigaeth gyda'i bractis yng Nghaernarfon. Ei gartref am flynyddoedd lawer hyd ei farwolaeth oedd Bodarfryn, tŷ yn y Dolydd nid nepell o'i gapel, Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon, lle bu'n aelod amlwg ac yn flaenor. Dywedir iddo fod yn hael iawn at yr achos.

Roedd yn gynghorydd sirol a henadur yn yr hen Sir Gaernarfon, ac wedyn yn sir newydd Gwynedd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau