Côr Carmel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dechrau tudalen newydd gyda "Roedd '''Côr Carmel''' yn canu tua 1914, a dichon mai yn ystod flwyddyn honno neu'r flwyddyn gynt y cafodd ei ffurfio. Yr arweinydd oedd R. Hughes Jones (Pencerdd Llifon).<ref>''Y Brython'', 23.4.1914, t.6</ref> Bu i'r ''Herald Cymraeg'' adrodd ddiwedd Mawrth 1914 fod y côr yn brysur yn paratoi at sawl gyfle i gystadlu, yn cynnwys canu yn Eisteddfod Gendlaethol Bangor. Roeddynt hefyd wedi trefnu i ganu yng "Nghyngerdd y Nyrsys" a fyddai'n cael ei gynnal..." |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 12:04, 13 Rhagfyr 2025
Roedd Côr Carmel yn canu tua 1914, a dichon mai yn ystod flwyddyn honno neu'r flwyddyn gynt y cafodd ei ffurfio. Yr arweinydd oedd R. Hughes Jones (Pencerdd Llifon).[1] Bu i'r Herald Cymraeg adrodd ddiwedd Mawrth 1914 fod y côr yn brysur yn paratoi at sawl gyfle i gystadlu, yn cynnwys canu yn Eisteddfod Gendlaethol Bangor. Roeddynt hefyd wedi trefnu i ganu yng "Nghyngerdd y Nyrsys" a fyddai'n cael ei gynnal yng Nghapel Bryn'rodyn yn ddiweddarach y flwyddyn honno.[2] Yn fuan ar ôl i'r Hearld gyhoeddi ei adroddiad, bu'r côr yn llwyddiannus yn Eisteddfod y Pasg, Caernarfon, eisteddfod bwysig ar y pryd - ac i wneud eu buddugoliaeth yn fwy trawiadol fyth, bu iddynt guro côr ardderchog o Lerpwl.[3]
Ni cheir sôn am Gôr Carmel wedi i'r Rhyfel Mawr dorri allan, a dichon iddo ddod i ben yn fuan, er gwaethaf ei addewid.