Clwb Fron Dinas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Clwb Fron Dinas''' yn glwb cymdeithasol yn nhŷ Fron Dinas yn [[Ffrwd Cae Du]] a ffynnai rhwng 60au a 90au'r ganrif ddiwethaf. Fe'i lleolid mewn eiddo a godwyd tua 1900 yn arddull celf a chrefft pensaernïaeth y cyfnod, wedi i berchennog newydd ddymchwel hendŷ a elwid yn [[Tŷ Cnap|Dŷ Cnap]]. Bu'n wersyll carcharorion rhyfel ar ôl 1943 lle arhosai milwyr y gelyn ac a weithiai ar ffermydd yr ardal wedi i'r rhyfel ddod i ben. Yn ogystal â bar, yr oedd yno lolfa lle cynhelid bingo a theatr gyda pherfformiadau gan adlonwyr amrywiol. Y perchennog oedd Glyn Davies, gŵr a oedd wedi bod yn athro yng Ngorllewin Affrica cyn dychwelyd i redeg busnes yng Nghymru. Roedd y clwb ar ei fwyaf llewyrchus pan nad oedd tafarndai'r sir yn cael agor ar y Sul, a bu hynny mewn grym tan y 1980au. Gan fod rheolau gwahanol yn berthnasol i glybiau yfed fe ganiateid iddynt werthu diod i aelodau saith niwrnod yr wythnos. Bu edwino araf wedi i'r tafarnau agor ar y Sul ac fe'i caewyd yn niwedd y 1990au.
Roedd '''Clwb Fron Dinas''' yn glwb cymdeithasol yn nhŷ Fron Dinas yn [[Ffrwd Cae Du]] a ffynnai rhwng 60au a 90au'r ganrif ddiwethaf. Fe'i lleolid mewn eiddo a godwyd tua 1900 yn arddull celf a chrefft pensaernïaeth y cyfnod, wedi i berchennog newydd ddymchwel hen dŷ fferm a elwid yn [[Tŷ Cnap|Dŷ Cnap]]. Bu'n wersyll carcharorion rhyfel ar ôl 1943 lle arhosai milwyr y gelyn ac a weithiai ar ffermydd yr ardal wedi i'r rhyfel ddod i ben. Yn ogystal â bar, yr oedd yno lolfa lle cynhelid bingo a theatr gyda pherfformiadau gan adlonwyr amrywiol. Y perchennog oedd Glyn Davies, gŵr a oedd wedi bod yn athro yng Ngorllewin Affrica cyn dychwelyd i redeg busnes yng Nghymru. Roedd y clwb ar ei fwyaf llewyrchus pan nad oedd tafarndai'r sir yn cael agor ar y Sul, a bu hynny mewn grym tan y 1980au. Gan fod rheolau gwahanol yn berthnasol i glybiau yfed fe ganiateid iddynt werthu diod i aelodau saith niwrnod yr wythnos. Bu edwino araf wedi i'r tafarnau agor ar y Sul ac fe'i caewyd yn niwedd y 1990au.


Roedd gan y clwb dîm criced llewyrchus a chwaraeai eu gemau cartref ar y cae criced y tu ôl i'r clwb. Ymysg yr aelodau amlwg oedd Emyr Price, yr hanesydd a wnaeth gymaint i ddod â hanes [[David Lloyd George]] i silffoedd llyfrau'r Cymry.
Roedd gan y clwb dîm criced llewyrchus a chwaraeai eu gemau cartref ar y cae criced y tu ôl i'r clwb. Ymysg yr aelodau amlwg oedd Emyr Price, yr hanesydd a wnaeth gymaint i ddod â hanes [[David Lloyd George]] i silffoedd llyfrau'r Cymry.


Prynwyd yr adeilad gan [[Bryn Terfel]] fel cartref iddo ef ei hun a'i deulu, ac fe chwalwyd olion y cytiau lle bu'r carcharorion yn byw, ailwampio'r tŷ gwreiddiol a chodi adeilad cerdd ar wahân. Addaswyd yr adeilad yn gartref mpoethus iawn<ref>Cyhoeddusrwydd gan Haf Jones a Pegler,asiantwyr tai [https://media.onthemarket.com/properties/3819281/doc_0_0.pdf], cyrchwyd 4.12.2025</ref> adferwyd enw gwreiddiol yr eiddo hefyd, sef Tŷ Cnap.<ref>Gwybodaeth leol a phersonol</ref>
Prynwyd yr adeilad gan [[Bryn Terfel]] fel cartref iddo ef ei hun a'i deulu, ac fe chwalwyd olion y cytiau lle bu'r carcharorion yn byw, ailwampio'r tŷ gwreiddiol a chodi adeilad cerdd ar wahân. Addaswyd yr adeilad yn gartref moethus iawn<ref>Cyhoeddusrwydd gan Haf Jones a Pegler,asiantwyr tai [https://media.onthemarket.com/properties/3819281/doc_0_0.pdf], cyrchwyd 4.12.2025</ref> Adferwyd enw gwreiddiol yr eiddo hefyd, sef Tŷ Cnap.<ref>Gwybodaeth leol a phersonol</ref>


  {{eginyn}}
  {{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:58, 4 Rhagfyr 2025

Roedd Clwb Fron Dinas yn glwb cymdeithasol yn nhŷ Fron Dinas yn Ffrwd Cae Du a ffynnai rhwng 60au a 90au'r ganrif ddiwethaf. Fe'i lleolid mewn eiddo a godwyd tua 1900 yn arddull celf a chrefft pensaernïaeth y cyfnod, wedi i berchennog newydd ddymchwel hen dŷ fferm a elwid yn Dŷ Cnap. Bu'n wersyll carcharorion rhyfel ar ôl 1943 lle arhosai milwyr y gelyn ac a weithiai ar ffermydd yr ardal wedi i'r rhyfel ddod i ben. Yn ogystal â bar, yr oedd yno lolfa lle cynhelid bingo a theatr gyda pherfformiadau gan adlonwyr amrywiol. Y perchennog oedd Glyn Davies, gŵr a oedd wedi bod yn athro yng Ngorllewin Affrica cyn dychwelyd i redeg busnes yng Nghymru. Roedd y clwb ar ei fwyaf llewyrchus pan nad oedd tafarndai'r sir yn cael agor ar y Sul, a bu hynny mewn grym tan y 1980au. Gan fod rheolau gwahanol yn berthnasol i glybiau yfed fe ganiateid iddynt werthu diod i aelodau saith niwrnod yr wythnos. Bu edwino araf wedi i'r tafarnau agor ar y Sul ac fe'i caewyd yn niwedd y 1990au.

Roedd gan y clwb dîm criced llewyrchus a chwaraeai eu gemau cartref ar y cae criced y tu ôl i'r clwb. Ymysg yr aelodau amlwg oedd Emyr Price, yr hanesydd a wnaeth gymaint i ddod â hanes David Lloyd George i silffoedd llyfrau'r Cymry.

Prynwyd yr adeilad gan Bryn Terfel fel cartref iddo ef ei hun a'i deulu, ac fe chwalwyd olion y cytiau lle bu'r carcharorion yn byw, ailwampio'r tŷ gwreiddiol a chodi adeilad cerdd ar wahân. Addaswyd yr adeilad yn gartref moethus iawn[1] Adferwyd enw gwreiddiol yr eiddo hefyd, sef Tŷ Cnap.[2]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cyhoeddusrwydd gan Haf Jones a Pegler,asiantwyr tai [1], cyrchwyd 4.12.2025
  2. Gwybodaeth leol a phersonol