Clwb Fron Dinas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| (Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Clwb Fron Dinas''' yn glwb cymdeithasol yn nhŷ Fron Dinas yn [[Ffrwd Cae Du]] a ffynnai rhwng | Roedd '''Clwb Fron Dinas''' yn glwb cymdeithasol yn nhŷ Fron Dinas yn [[Ffrwd Cae Du]] a ffynnai rhwng 60au a 90au'r ganrif ddiwethaf. Fe'i lleolid mewn eiddo a godwyd tua 1900 yn arddull celf a chrefft pensaernïaeth y cyfnod, wedi i berchennog newydd ddymchwel hen dŷ fferm a elwid yn [[Tŷ Cnap|Dŷ Cnap]]. Bu'n wersyll carcharorion rhyfel ar ôl 1943 lle arhosai milwyr y gelyn ac a weithiai ar ffermydd yr ardal wedi i'r rhyfel ddod i ben. Yn ogystal â bar, yr oedd yno lolfa lle cynhelid bingo a theatr gyda pherfformiadau gan adlonwyr amrywiol. Y perchennog oedd Glyn Davies, gŵr a oedd wedi bod yn athro yng Ngorllewin Affrica cyn dychwelyd i redeg busnes yng Nghymru. Roedd y clwb ar ei fwyaf llewyrchus pan nad oedd tafarndai'r sir yn cael agor ar y Sul, a bu hynny mewn grym tan y 1980au. Gan fod rheolau gwahanol yn berthnasol i glybiau yfed fe ganiateid iddynt werthu diod i aelodau saith niwrnod yr wythnos. Bu edwino araf wedi i'r tafarnau agor ar y Sul ac fe'i caewyd yn niwedd y 1990au. | ||
Roedd gan y clwb dîm criced llewyrchus a chwaraeai eu | Roedd gan y clwb dîm criced llewyrchus a chwaraeai eu gemau cartref ar y cae criced y tu ôl i'r clwb. Ymysg yr aelodau amlwg oedd Emyr Price, yr hanesydd a wnaeth gymaint i ddod â hanes [[David Lloyd George]] i silffoedd llyfrau'r Cymry. | ||
Prynwyd yr adeilad gan [[Bryn Terfel]] fel cartref iddo | Prynwyd yr adeilad gan [[Bryn Terfel]] fel cartref iddo ef ei hun a'i deulu, ac fe chwalwyd olion y cytiau lle bu'r carcharorion yn byw, ailwampio'r tŷ gwreiddiol a chodi adeilad cerdd ar wahân. Addaswyd yr adeilad yn gartref moethus iawn<ref>Cyhoeddusrwydd gan Haf Jones a Pegler,asiantwyr tai [https://media.onthemarket.com/properties/3819281/doc_0_0.pdf], cyrchwyd 4.12.2025</ref> Adferwyd enw gwreiddiol yr eiddo hefyd, sef Tŷ Cnap.<ref>Gwybodaeth leol a phersonol</ref> | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 19:58, 4 Rhagfyr 2025
Roedd Clwb Fron Dinas yn glwb cymdeithasol yn nhŷ Fron Dinas yn Ffrwd Cae Du a ffynnai rhwng 60au a 90au'r ganrif ddiwethaf. Fe'i lleolid mewn eiddo a godwyd tua 1900 yn arddull celf a chrefft pensaernïaeth y cyfnod, wedi i berchennog newydd ddymchwel hen dŷ fferm a elwid yn Dŷ Cnap. Bu'n wersyll carcharorion rhyfel ar ôl 1943 lle arhosai milwyr y gelyn ac a weithiai ar ffermydd yr ardal wedi i'r rhyfel ddod i ben. Yn ogystal â bar, yr oedd yno lolfa lle cynhelid bingo a theatr gyda pherfformiadau gan adlonwyr amrywiol. Y perchennog oedd Glyn Davies, gŵr a oedd wedi bod yn athro yng Ngorllewin Affrica cyn dychwelyd i redeg busnes yng Nghymru. Roedd y clwb ar ei fwyaf llewyrchus pan nad oedd tafarndai'r sir yn cael agor ar y Sul, a bu hynny mewn grym tan y 1980au. Gan fod rheolau gwahanol yn berthnasol i glybiau yfed fe ganiateid iddynt werthu diod i aelodau saith niwrnod yr wythnos. Bu edwino araf wedi i'r tafarnau agor ar y Sul ac fe'i caewyd yn niwedd y 1990au.
Roedd gan y clwb dîm criced llewyrchus a chwaraeai eu gemau cartref ar y cae criced y tu ôl i'r clwb. Ymysg yr aelodau amlwg oedd Emyr Price, yr hanesydd a wnaeth gymaint i ddod â hanes David Lloyd George i silffoedd llyfrau'r Cymry.
Prynwyd yr adeilad gan Bryn Terfel fel cartref iddo ef ei hun a'i deulu, ac fe chwalwyd olion y cytiau lle bu'r carcharorion yn byw, ailwampio'r tŷ gwreiddiol a chodi adeilad cerdd ar wahân. Addaswyd yr adeilad yn gartref moethus iawn[1] Adferwyd enw gwreiddiol yr eiddo hefyd, sef Tŷ Cnap.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma