Henry Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| (Ni ddangosir 2 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
| Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Apothecari oedd '''Henry Williams''' (bu farw ym 1691). Credir mai yn Erw-wen yr oedd yn byw, gan fod ei weddw Ellin yn byw yno ym 1695 pan werthodd Ynys Hwfa i berchennog Llwyn Impia.<ref>Archifdy Prifysgol Bangor PYAA/2122-3</ref> | Apothecari oedd '''Henry Williams''' (bu farw ym 1691). Credir mai yn Erw-wen yr oedd yn byw, gan fod ei weddw Ellin yn byw yno ym 1695 pan werthodd Ynys Hwfa i berchennog Llwyn Impia.<ref>Archifdy Prifysgol Bangor PYAA/2122-3</ref> Mae'n bosibl fod Ellin yn ferch i John Ellis o Dan-y-bryn, [[Llanllyfni]] a'i bod hi wedi etifeddu Erw-wen oddi wrth ei modryb, Mary Wynn | ||
o Erw-wen. Mae'n sicr, beth bynnag, mai enw nain Ellin ar ochr ei mam oedd Catherine Ellis alias Evans.<ref>Gweler J.E. Griffith, ''Pedigrees of Caernarvonshire and Anglesey Families'', (Horncastle, 1914), t.230</ref> | |||
Roedd yn ymarfer yr alwedigaeth o apothecari yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] mor gynnar â Chwefror 1677, gan fod ewyllys [[Abraham Williams]], y porthmon o [[Llyn-y-gele|Lyn-y-gele]], yn nodi fod ar "Henry Williams, Apothecary" y swm o £2 iddo.<ref>Prif Gofrestr Profiant, Cofrestrau Llys Braint Caergaint, ''Reeve 80''</ref> | Roedd Henry yn ymarfer yr alwedigaeth o apothecari yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] mor gynnar â Chwefror 1677, gan fod ewyllys [[Abraham Williams]], y porthmon o [[Llyn-y-gele|Lyn-y-gele]], yn nodi fod ar "Henry Williams, Apothecary" y swm o £2 iddo.<ref>Prif Gofrestr Profiant, Cofrestrau Llys Braint Caergaint, ''Reeve 80''</ref> | ||
Yn ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'', Cyfrol 77, 2016-2017, ceir erthygl gan T.G. Davies, Caerdydd, ar "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon".<ref>T.G. Davies, "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon", yn ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'', Cyfrol 77, 2016-2017, tt.21-39.</ref> Yn yr erthygl honno mae'r awdur yn cyfeirio at Henry Williams, a oedd yn gweithredu fel apothecari yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] yn ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg. Yn yr erthygl eglura'r awdur mai'r llawfeddygon a'r apothecariaid oedd meddygon teulu'r oes honno i bob pwrpas. Am flynyddoedd maith yr un oedd yr apothecariaid a siopwyr groser mewn gwirionedd, ond ymwahanodd yr apothecariaid oddi wrth y groseriaid ym 1617 gan ffurfio Cymdeithas yr Apothecariaid. Yn wreiddiol, paratoi cyffuriau i'w gwerthu i drin clefydau oedd eu gwaith, ond yn raddol dechreuodd rhai ohonynt drin cleifion yn ogystal er nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant priodol i wneud hynny. Un yn dilyn yr oruchwyliaeth yma oedd Henry Williams ac wrth ymchwilio ar gyfer ei ysgrif daeth T.G. Davies ar draws ei ewyllys ymysg y casgliad enfawr o ewyllysiau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol. Y dyddiad arni oedd 1690<ref>Dan yr hen system o ddyddio, lle dechreuai rhif y flwyddyn ar 25 Mawrth ac nid ar 1 Ionawr, mae dyddiad 23 Mawrth 1690 sydd ar y rhestr eiddo, ond mewn gwirionedd 1691 yw'r flwyddyn yn ôl dull cyfrif heddiw.</ref> a gadawodd yr apothecari'r swm o £62 9s 10c, sy'n cyfateb yn fras i tua £10,000 heddiw <ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/49 I.</ref>. Ond yn ogystal â'r arian, gadawodd gasgliad pwysig o lyfrau meddygol ar ei ôl a arweiniodd T.G. Davies i gredu ei fod yn cynnig gwasanaeth meddygol cynhwysfawr a'i bod yn amheus a fyddai gan unrhyw feddyg Cymreig o'r cyfnod well casgliad o lyfrau meddygol nag ef. Ymysg y rhain roedd: | Yn ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'', Cyfrol 77, 2016-2017, ceir erthygl gan T.G. Davies, Caerdydd, ar "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon".<ref>T.G. Davies, "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon", yn ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'', Cyfrol 77, 2016-2017, tt.21-39.</ref> Yn yr erthygl honno mae'r awdur yn cyfeirio at Henry Williams, a oedd yn gweithredu fel apothecari yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] yn ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg. Yn yr erthygl eglura'r awdur mai'r llawfeddygon a'r apothecariaid oedd meddygon teulu'r oes honno i bob pwrpas. Am flynyddoedd maith yr un oedd yr apothecariaid a siopwyr groser mewn gwirionedd, ond ymwahanodd yr apothecariaid oddi wrth y groseriaid ym 1617 gan ffurfio Cymdeithas yr Apothecariaid. Yn wreiddiol, paratoi cyffuriau i'w gwerthu i drin clefydau oedd eu gwaith, ond yn raddol dechreuodd rhai ohonynt drin cleifion yn ogystal er nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant priodol i wneud hynny. Un yn dilyn yr oruchwyliaeth yma oedd Henry Williams ac wrth ymchwilio ar gyfer ei ysgrif daeth T.G. Davies ar draws ei ewyllys ymysg y casgliad enfawr o ewyllysiau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol. Y dyddiad arni oedd 1690<ref>Dan yr hen system o ddyddio, lle dechreuai rhif y flwyddyn ar 25 Mawrth ac nid ar 1 Ionawr, mae dyddiad 23 Mawrth 1690 sydd ar y rhestr eiddo, ond mewn gwirionedd 1691 yw'r flwyddyn yn ôl dull cyfrif heddiw.</ref> a gadawodd yr apothecari'r swm o £62 9s 10c, sy'n cyfateb yn fras i tua £10,000 heddiw <ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/49 I.</ref>. Ond yn ogystal â'r arian, gadawodd gasgliad pwysig o lyfrau meddygol ar ei ôl a arweiniodd T.G. Davies i gredu ei fod yn cynnig gwasanaeth meddygol cynhwysfawr a'i bod yn amheus a fyddai gan unrhyw feddyg Cymreig o'r cyfnod well casgliad o lyfrau meddygol nag ef. Ymysg y rhain roedd: | ||
| Llinell 17: | Llinell 18: | ||
Mae Alun Withey, yr awdurdod ar apothecariaid yng Nghymru yn y cyfnod modern cynnar yn awgrymu fod gan Henry Williams siop,<ref>Alun Withey, ''"Persons That Live Remote from London": Apothecaries and the Medical Marketplace in Seventeenth-and Eighteenth-Century Wales'', Bulletin of the History of Medicine, Haf 2011, tt.222-247</ref> ond ni cheir sôn am siopau eraill yng nghefn gwlad Sir Gaernarfon mewn ffynonellau eraill, megis ewyllysiau'r cyfnod. Rhaid, felly, amau bod gan Henry fwy nag ystafell paratoi moddion ac ati - os hynny, hyd yn oed. Arfer y cyfnod oedd cyflawni nifer o weithgareddau yn yr un ystafell; byddai'r cysyniad o swyddfa neu fan gwaith penodol ar gyfer gwaith "glân" yn ddiarth iawn bryd hynny, a mwy felly y cysyniad o fferyllfa ar wahân i gegin neu rywle o'r fath. Mae Alun Withey, fodd bynnag, yn hollol gywir wrth sôn bod Henry Williams yn eithriad neilltuol fel apothocari gan nad oedd o'n gweithio mewn tref neu bentref, a'i fod yn ddyn hynod o ddysgedig, a barnu oddi wrth ei lyfrgell. | Mae Alun Withey, yr awdurdod ar apothecariaid yng Nghymru yn y cyfnod modern cynnar yn awgrymu fod gan Henry Williams siop,<ref>Alun Withey, ''"Persons That Live Remote from London": Apothecaries and the Medical Marketplace in Seventeenth-and Eighteenth-Century Wales'', Bulletin of the History of Medicine, Haf 2011, tt.222-247</ref> ond ni cheir sôn am siopau eraill yng nghefn gwlad Sir Gaernarfon mewn ffynonellau eraill, megis ewyllysiau'r cyfnod. Rhaid, felly, amau bod gan Henry fwy nag ystafell paratoi moddion ac ati - os hynny, hyd yn oed. Arfer y cyfnod oedd cyflawni nifer o weithgareddau yn yr un ystafell; byddai'r cysyniad o swyddfa neu fan gwaith penodol ar gyfer gwaith "glân" yn ddiarth iawn bryd hynny, a mwy felly y cysyniad o fferyllfa ar wahân i gegin neu rywle o'r fath. Mae Alun Withey, fodd bynnag, yn hollol gywir wrth sôn bod Henry Williams yn eithriad neilltuol fel apothocari gan nad oedd o'n gweithio mewn tref neu bentref, a'i fod yn ddyn hynod o ddysgedig, a barnu oddi wrth ei lyfrgell. | ||
Bu i'w wraig, Ellin Williams, ei oroesi. Gwelir ei llofnod ar amodrwymiad (neu "admon") yn gysylltiedig â marwolaeth ei gŵr.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/49 B. </ref> Mae ei llofnod i'w weld ar ddogfennau eraill hefyd ac mae'n amlwg o rwyddineb ei llawysgrifen ei bod yn ddynes a gafodd addysg sylweddol.<ref>Archifdy Prifysgol Bangor, PYAA/2124-5</ref> Cafodd Henry ac Ellin o leiaf un plentyn, Mary, a wnaeth gadarnhau gwerthiant Ynys Hwfa i Griffith David, Llwyn Impia, ym 1703. Y pryd hynny, nid oedd Mary wedi priodi, ond dichon mai pwrpas y weithred oedd sicrhau i Griffith David na fyddai unrhyw ŵr a fyddai gan Mary yn y dyfodol yn medru hawlio'r eiddo dan sylw.<ref>Archifdy Prifysgol Bangor PYAA/2124-5</ref> Mae'n bur debyg y bu i Ellin a'i merch symud o Erw-wen rywbryd ar ôl 1695, gan fynd i fyw i Hendre Gwehelyth neu Dan-y-bryn ar draws y caeau o'u hen gartref, ond ym mhlwyf [[Llanllyfni]]. Ceir cofnod mewn dogfennau profiant fod dynes o'r un enw, gyda merch o'r enw Mary wedi marw yn Nhan-y-bryn tua 1707, gan adael stoc a dodrefn gwerth £18.10.0c; Owen Lloyd, gŵr Mary Williams, merch yr Ellin honno, oedd gweinyddwr ei hystad.<ref>LlGC Cofnodion Profiant B/1707/44</ref> Symudodd Owen Lloyd i Dan-y-bryn, lle | Bu i'w wraig, Ellin Williams, ei oroesi. Gwelir ei llofnod ar amodrwymiad (neu "admon") yn gysylltiedig â marwolaeth ei gŵr.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/49 B. </ref> Mae ei llofnod i'w weld ar ddogfennau eraill hefyd ac mae'n amlwg o rwyddineb ei llawysgrifen ei bod yn ddynes a gafodd addysg sylweddol.<ref>Archifdy Prifysgol Bangor, PYAA/2124-5</ref> Cafodd Henry ac Ellin o leiaf un plentyn, Mary, a wnaeth gadarnhau gwerthiant Ynys Hwfa i Griffith David, Llwyn Impia, ym 1703. Y pryd hynny, nid oedd Mary wedi priodi, ond dichon mai pwrpas y weithred oedd sicrhau i Griffith David na fyddai unrhyw ŵr a fyddai gan Mary yn y dyfodol yn medru hawlio'r eiddo dan sylw.<ref>Archifdy Prifysgol Bangor PYAA/2124-5</ref> Mae'n bur debyg y bu i Ellin a'i merch symud o Erw-wen rywbryd ar ôl 1695, gan fynd i fyw i Hendre Gwehelyth neu Dan-y-bryn ar draws y caeau o'u hen gartref, ond ym mhlwyf [[Llanllyfni]]. Ceir cofnod mewn dogfennau profiant fod dynes o'r un enw, gyda merch o'r enw Mary wedi marw yn Nhan-y-bryn tua 1707, gan adael stoc a dodrefn gwerth £18.10.0c; Owen Lloyd, gŵr Mary Williams, merch yr Ellin honno, oedd gweinyddwr ei hystad.<ref>LlGC Cofnodion Profiant B/1707/44</ref> Symudodd Owen Lloyd i Dan-y-bryn, lle bu iddo fwynhau safon byw goludog, a barnu oddi wrth ei ewyllys a rhestr o'i eiddo, cyn marw ym 1734.<ref>LlGC Cofnodion Profiant B/1734/64</ref> Bu farw Mary yn hen ddynes ym 1762.<ref>LlGC Cofnodion Profiant B/1762/149</ref> | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:11, 1 Rhagfyr 2025
Apothecari oedd Henry Williams (bu farw ym 1691). Credir mai yn Erw-wen yr oedd yn byw, gan fod ei weddw Ellin yn byw yno ym 1695 pan werthodd Ynys Hwfa i berchennog Llwyn Impia.[1] Mae'n bosibl fod Ellin yn ferch i John Ellis o Dan-y-bryn, Llanllyfni a'i bod hi wedi etifeddu Erw-wen oddi wrth ei modryb, Mary Wynn o Erw-wen. Mae'n sicr, beth bynnag, mai enw nain Ellin ar ochr ei mam oedd Catherine Ellis alias Evans.[2]
Roedd Henry yn ymarfer yr alwedigaeth o apothecari yng Nghlynnog mor gynnar â Chwefror 1677, gan fod ewyllys Abraham Williams, y porthmon o Lyn-y-gele, yn nodi fod ar "Henry Williams, Apothecary" y swm o £2 iddo.[3]
Yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyfrol 77, 2016-2017, ceir erthygl gan T.G. Davies, Caerdydd, ar "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon".[4] Yn yr erthygl honno mae'r awdur yn cyfeirio at Henry Williams, a oedd yn gweithredu fel apothecari yng Nghlynnog yn ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg. Yn yr erthygl eglura'r awdur mai'r llawfeddygon a'r apothecariaid oedd meddygon teulu'r oes honno i bob pwrpas. Am flynyddoedd maith yr un oedd yr apothecariaid a siopwyr groser mewn gwirionedd, ond ymwahanodd yr apothecariaid oddi wrth y groseriaid ym 1617 gan ffurfio Cymdeithas yr Apothecariaid. Yn wreiddiol, paratoi cyffuriau i'w gwerthu i drin clefydau oedd eu gwaith, ond yn raddol dechreuodd rhai ohonynt drin cleifion yn ogystal er nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant priodol i wneud hynny. Un yn dilyn yr oruchwyliaeth yma oedd Henry Williams ac wrth ymchwilio ar gyfer ei ysgrif daeth T.G. Davies ar draws ei ewyllys ymysg y casgliad enfawr o ewyllysiau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol. Y dyddiad arni oedd 1690[5] a gadawodd yr apothecari'r swm o £62 9s 10c, sy'n cyfateb yn fras i tua £10,000 heddiw [6]. Ond yn ogystal â'r arian, gadawodd gasgliad pwysig o lyfrau meddygol ar ei ôl a arweiniodd T.G. Davies i gredu ei fod yn cynnig gwasanaeth meddygol cynhwysfawr a'i bod yn amheus a fyddai gan unrhyw feddyg Cymreig o'r cyfnod well casgliad o lyfrau meddygol nag ef. Ymysg y rhain roedd:
Thomas Willis, The London Practice of Physick ... A Discourse of the French Pox Peter Lowe, A discourse of the whole art of Chyrurgerie (London, 1612) An olde book to all young practitioners of chirurgery John French, The Art of Distillation (1653) Thomas Walkington, The Optick Glasse of Humours ... A Booke of Strange Apparitions
Yn y llyfrau hyn ceir ymdriniaeth drylwyr â rhai o brif faterion meddygol yr oes gan rai o arbenigwyr amlycaf y cyfnod. Dywed T.G. Davies mai'r llyfr mwyaf annisgwyl yn eu plith oedd The Optick Glasse of Humours ... sy'n trafod rhai agweddau ar natur personoliaeth dyn. Sut tybed y llwyddodd Henry Williams i gael gafael ar y fath gasgliad yn Uwchgwyrfai wledig yr ail ganrif ar bymtheg a thybed i ble'r aeth y llyfrau wedyn? Tybed a oes rhai o ddarllenwyr Cof y Cwmwd yn gwybod mwy am yr apothecari cynnar hwn o Glynnog neu am rai tebyg iddo a oedd yn gweithredu fel meddygon cefn gwlad yn y cwmwd bryd hynny neu'n ddiweddarach.
Mae Alun Withey, yr awdurdod ar apothecariaid yng Nghymru yn y cyfnod modern cynnar yn awgrymu fod gan Henry Williams siop,[7] ond ni cheir sôn am siopau eraill yng nghefn gwlad Sir Gaernarfon mewn ffynonellau eraill, megis ewyllysiau'r cyfnod. Rhaid, felly, amau bod gan Henry fwy nag ystafell paratoi moddion ac ati - os hynny, hyd yn oed. Arfer y cyfnod oedd cyflawni nifer o weithgareddau yn yr un ystafell; byddai'r cysyniad o swyddfa neu fan gwaith penodol ar gyfer gwaith "glân" yn ddiarth iawn bryd hynny, a mwy felly y cysyniad o fferyllfa ar wahân i gegin neu rywle o'r fath. Mae Alun Withey, fodd bynnag, yn hollol gywir wrth sôn bod Henry Williams yn eithriad neilltuol fel apothocari gan nad oedd o'n gweithio mewn tref neu bentref, a'i fod yn ddyn hynod o ddysgedig, a barnu oddi wrth ei lyfrgell.
Bu i'w wraig, Ellin Williams, ei oroesi. Gwelir ei llofnod ar amodrwymiad (neu "admon") yn gysylltiedig â marwolaeth ei gŵr.[8] Mae ei llofnod i'w weld ar ddogfennau eraill hefyd ac mae'n amlwg o rwyddineb ei llawysgrifen ei bod yn ddynes a gafodd addysg sylweddol.[9] Cafodd Henry ac Ellin o leiaf un plentyn, Mary, a wnaeth gadarnhau gwerthiant Ynys Hwfa i Griffith David, Llwyn Impia, ym 1703. Y pryd hynny, nid oedd Mary wedi priodi, ond dichon mai pwrpas y weithred oedd sicrhau i Griffith David na fyddai unrhyw ŵr a fyddai gan Mary yn y dyfodol yn medru hawlio'r eiddo dan sylw.[10] Mae'n bur debyg y bu i Ellin a'i merch symud o Erw-wen rywbryd ar ôl 1695, gan fynd i fyw i Hendre Gwehelyth neu Dan-y-bryn ar draws y caeau o'u hen gartref, ond ym mhlwyf Llanllyfni. Ceir cofnod mewn dogfennau profiant fod dynes o'r un enw, gyda merch o'r enw Mary wedi marw yn Nhan-y-bryn tua 1707, gan adael stoc a dodrefn gwerth £18.10.0c; Owen Lloyd, gŵr Mary Williams, merch yr Ellin honno, oedd gweinyddwr ei hystad.[11] Symudodd Owen Lloyd i Dan-y-bryn, lle bu iddo fwynhau safon byw goludog, a barnu oddi wrth ei ewyllys a rhestr o'i eiddo, cyn marw ym 1734.[12] Bu farw Mary yn hen ddynes ym 1762.[13]
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Prifysgol Bangor PYAA/2122-3
- ↑ Gweler J.E. Griffith, Pedigrees of Caernarvonshire and Anglesey Families, (Horncastle, 1914), t.230
- ↑ Prif Gofrestr Profiant, Cofrestrau Llys Braint Caergaint, Reeve 80
- ↑ T.G. Davies, "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon", yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyfrol 77, 2016-2017, tt.21-39.
- ↑ Dan yr hen system o ddyddio, lle dechreuai rhif y flwyddyn ar 25 Mawrth ac nid ar 1 Ionawr, mae dyddiad 23 Mawrth 1690 sydd ar y rhestr eiddo, ond mewn gwirionedd 1691 yw'r flwyddyn yn ôl dull cyfrif heddiw.
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/49 I.
- ↑ Alun Withey, "Persons That Live Remote from London": Apothecaries and the Medical Marketplace in Seventeenth-and Eighteenth-Century Wales, Bulletin of the History of Medicine, Haf 2011, tt.222-247
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/49 B.
- ↑ Archifdy Prifysgol Bangor, PYAA/2124-5
- ↑ Archifdy Prifysgol Bangor PYAA/2124-5
- ↑ LlGC Cofnodion Profiant B/1707/44
- ↑ LlGC Cofnodion Profiant B/1734/64
- ↑ LlGC Cofnodion Profiant B/1762/149