Hugh Hughes (Cadfan Gwynedd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 9 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
I'w barhau
[[Delwedd:Pamffled Cadfan.jpg|bawd|de|350px| Pamffled yn annog ymfudo]]
[[Delwedd:Halton Castle.jpeg|bawd|de|350px| Ni hwyliodd yr ''Halton Castle'', a rhaid oedd disgwyl am y ''Mimosa'' fis yn ddiweddarach]]
[[Delwedd:Llythyrt wedi cyrraedd.jpeg|bawd|de|350px|Llythyr gan Hugh at ei chwaer wedi i'r ''Mimosa'' gyrraedd y Wladfa]]


Roedd '''Hugh Hughes''' (1824-) a fagwyd yn [[Rhosgadfan]] yn un o arloeswyr y symudiad i sefydlu trefedigaeth Gymreig a Chymraeg yn y Wladfa. Wedi ddo ymuno i'r Wladfa, mabwysiadodd gyfenw newydd, gan gael ei adnabod fel "Hugh Hughes Cadfan", yn null sawl un o arloeswyr y drefedigaeth honno.
Roedd '''Hugh Hughes''' (1824-1898) a fagwyd yn [[Rhosgadfan]] yn un o arloeswyr y symudiad i sefydlu trefedigaeth Gymreig a Chymraeg yn y Wladfa. Wedi iddo ymfudo i'r Wladfa, mabwysiadodd gyfenw newydd, gan gael ei adnabod fel "Hugh Hughes Cadfan", yn null sawl un o arloeswyr y drefedigaeth honno.


Roedd rhieni Hugh Hughes (Lewis Hughes ac Elinor) yn byw ym Mhengwrli (neu Ben Gwylwyr), ar yr allt rhwng [[Rhostryfan]]a Rhosgadfan cyn iddynt symud i gartref y teulu, sef Cae'r Odyn - dim ond ychydig gaeau i ffwrdd.
Roedd rhieni Hugh Hughes (Lewis Hughes ac Elinor) yn byw ym Mhengwrli (neu Ben Gwylwyr), ar yr allt rhwng [[Rhostryfan]] a Rhosgadfan cyn iddynt symud i gartref y teulu, sef Cae'r Odyn - nad oedd ond ychydig gaeau i ffwrdd.


Yn ôl rhestr fedydd Hugh Hughes, cafodd ei eni yng nghartref ei fam yn Nhrefdraeth, Môn<ref>Archifdy Ynys Môn, Cofrestr Bedyddiadau plwyf Trefdraeth</ref> ond yn [[Llanwnda]] yr oedd y teulu'n byw. Cafodd eu hail blentyn, sef Jane, ei geni yng Nghae'r Odyn ym 1826. Roedd gan y ddau hyn naw neu ddeg o frodyr a chwiorydd iau. Roedd tad i dad Hugh Hughes yn byw yn Pen Gwrli - ei enw o oedd Hugh Lewis. Roedd ei wraig Jane yn ferch i Griffith Jones a Margaret Thomas o fferm Gaerwen, Llanwnda (Rhwng Rhosgadfan a Rhostryfan).
Yn ôl cofrestriad bedydd Hugh Hughes, cafodd ei eni yng nghartref ei fam yn Nhrefdraeth, Môn<ref>Archifdy Ynys Môn, Cofrestr Bedyddiadau plwyf Trefdraeth</ref> ond yn [[Llanwnda]] yr oedd y teulu'n byw. Cafodd ail blentyn ei rieni, sef Jane, ei geni yng Nghae'r Odyn ym 1826. Roedd gan y ddau blentyn hyn naw neu ddeg o frodyr a chwiorydd iau. Roedd tad i dad Hugh Hughes yn byw ym Mhen Gwrli - ei enw o oedd Hugh Lewis. Roedd ei wraig Jane yn ferch i Griffith Jones a Margaret Thomas o fferm Gaerwen, Llanwnda (Rhwng Rhosgadfan a Rhostryfan).


Prentisiwyd Hugh yn saer coed a chododd weithdy iddo’i hun yng Nghaernarfon yn 1850. Ar gyfrifiad 1851 mae yna ŵr o’r enw Hughes Hughes, ‘Joiner’ 26 mlwydd oed wedi ei eni yn Nhrefdraeth,
Prentisiwyd Hugh yn saer coed a chododd weithdy iddo’i hun yng Nghaernarfon ym 1850. Ceir cofnod yng nghyfrifiad 1851 bod ŵr o’r enw Hughes Hughes, ‘Joiner’ 26 mlwydd oed a oedd wedi ei eni yn Nhrefdraeth, Ynys Môn, yn byw yn Patentship House, Llanbeblig, gyda'i ewythr, David Williams a aned yn Llangefni.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanbeblig, 1826</ref> Pan oedd yn gweithio yng Nghaernarfon yn ystod y 1850au dechreuodd ymgyrchu dros greu Gwladfa Gymreig. Symudodd i Lerpwl yn 1857, a daeth yn un o arweinwyr y mudiad gwladfaol yno. Yn 1861, traddododd ddarlith a gyhoeddwyd gyda'r teitl ''Llawlyfr y Wladfa Gymreig''.
Ynys Môn, yn byw yn Patentship House, Llanbeblig, gydag ewythr, David Williams a aned yn Llangefni.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanbeblig, 1826</ref>


Teithiodd ef, ei wraig Elizabeth a nifer o blant i Batagonia gyda'r fintai gyntaf ar y ''Mimosa'' ym 1865, a dywedir mai ef oedd y cyntaf o deithwyr y ''Mimosa'' i roi ei droed ar ddaear Patagonia. Bu'n dal nifer o swyddi megis ustus heddwch yno, a phan fu farw cyhoeddodd Rhaglaw Tiriogaeth Genedlaethol Chubut bod dydd ei angladd i fod yn ddiwrnod o alar trwy'r dalaith.<ref>Wicipedia, Erthygl ar Hugh Hughes (Cadfan), [https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Hugh_Hughes_(Cadfan)&veaction=edit], cyrchwyd 4.11.2025</ref> Ym 1875 fe benodwyd yn Llywodraethwr y Drefedigaeth.<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'', Erthygl ar Hugh Hughes (Cadfan Gwynedd) [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-HUGH-HUG-1824], cyrchwyd 7.11.2025</ref>


Roedd cysylltiad gan Jane, chwaer Hugh Cadfan, â'r Wladfa hefyd. Briododd âDavid Richards o Sir Gaer, yn Lerpwl a sefydlu Tŷ’r Cymry yn y ddinas honno, sef yn 35 Union Street, Lerpwl. Roedd Tŷ'r Cymry yn sefydliad Goruchwylwyr Ymfudo, siop de a choffi, ac yn cynnig ystafelloedd i aros. Yma y bu llawer o'r Cymry aros cyn hwylio ar y ''Mimosa'' i Batagonia.<ref>Gwybodaeth ysgrifenedig a gyfrannwyd gan J.B. Jones</ref>
Roedd cysylltiad gan Jane, chwaer Hugh Cadfan, â'r Wladfa hefyd. Briododd â David Richards, dyn o Swydd Gaer, yn Lerpwl a sefydlu Tŷ’r Cymry yn y ddinas honno, sef yn 35 Union Street, Lerpwl. Roedd Tŷ'r Cymry yn sefydliad Goruchwylwyr Ymfudo, siop de a choffi, ac yn cynnig ystafelloedd i aros. Yma y bu llawer o'r Cymry yn aros cyn hwylio ar y ''Mimosa'' i Batagonia.<ref>Gwybodaeth ysgrifenedig a gyfrannwyd gan J.B. Jones</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Seiri]]
[[Categori:Seiri coed]]
[[Categori:Ymfudo]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:09, 8 Tachwedd 2025

Pamffled yn annog ymfudo
Ni hwyliodd yr Halton Castle, a rhaid oedd disgwyl am y Mimosa fis yn ddiweddarach
Llythyr gan Hugh at ei chwaer wedi i'r Mimosa gyrraedd y Wladfa

Roedd Hugh Hughes (1824-1898) a fagwyd yn Rhosgadfan yn un o arloeswyr y symudiad i sefydlu trefedigaeth Gymreig a Chymraeg yn y Wladfa. Wedi iddo ymfudo i'r Wladfa, mabwysiadodd gyfenw newydd, gan gael ei adnabod fel "Hugh Hughes Cadfan", yn null sawl un o arloeswyr y drefedigaeth honno.

Roedd rhieni Hugh Hughes (Lewis Hughes ac Elinor) yn byw ym Mhengwrli (neu Ben Gwylwyr), ar yr allt rhwng Rhostryfan a Rhosgadfan cyn iddynt symud i gartref y teulu, sef Cae'r Odyn - nad oedd ond ychydig gaeau i ffwrdd.

Yn ôl cofrestriad bedydd Hugh Hughes, cafodd ei eni yng nghartref ei fam yn Nhrefdraeth, Môn[1] ond yn Llanwnda yr oedd y teulu'n byw. Cafodd ail blentyn ei rieni, sef Jane, ei geni yng Nghae'r Odyn ym 1826. Roedd gan y ddau blentyn hyn naw neu ddeg o frodyr a chwiorydd iau. Roedd tad i dad Hugh Hughes yn byw ym Mhen Gwrli - ei enw o oedd Hugh Lewis. Roedd ei wraig Jane yn ferch i Griffith Jones a Margaret Thomas o fferm Gaerwen, Llanwnda (Rhwng Rhosgadfan a Rhostryfan).

Prentisiwyd Hugh yn saer coed a chododd weithdy iddo’i hun yng Nghaernarfon ym 1850. Ceir cofnod yng nghyfrifiad 1851 bod ŵr o’r enw Hughes Hughes, ‘Joiner’ 26 mlwydd oed a oedd wedi ei eni yn Nhrefdraeth, Ynys Môn, yn byw yn Patentship House, Llanbeblig, gyda'i ewythr, David Williams a aned yn Llangefni.[2] Pan oedd yn gweithio yng Nghaernarfon yn ystod y 1850au dechreuodd ymgyrchu dros greu Gwladfa Gymreig. Symudodd i Lerpwl yn 1857, a daeth yn un o arweinwyr y mudiad gwladfaol yno. Yn 1861, traddododd ddarlith a gyhoeddwyd gyda'r teitl Llawlyfr y Wladfa Gymreig.

Teithiodd ef, ei wraig Elizabeth a nifer o blant i Batagonia gyda'r fintai gyntaf ar y Mimosa ym 1865, a dywedir mai ef oedd y cyntaf o deithwyr y Mimosa i roi ei droed ar ddaear Patagonia. Bu'n dal nifer o swyddi megis ustus heddwch yno, a phan fu farw cyhoeddodd Rhaglaw Tiriogaeth Genedlaethol Chubut bod dydd ei angladd i fod yn ddiwrnod o alar trwy'r dalaith.[3] Ym 1875 fe benodwyd yn Llywodraethwr y Drefedigaeth.[4]

Roedd cysylltiad gan Jane, chwaer Hugh Cadfan, â'r Wladfa hefyd. Briododd â David Richards, dyn o Swydd Gaer, yn Lerpwl a sefydlu Tŷ’r Cymry yn y ddinas honno, sef yn 35 Union Street, Lerpwl. Roedd Tŷ'r Cymry yn sefydliad Goruchwylwyr Ymfudo, siop de a choffi, ac yn cynnig ystafelloedd i aros. Yma y bu llawer o'r Cymry yn aros cyn hwylio ar y Mimosa i Batagonia.[5]

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Ynys Môn, Cofrestr Bedyddiadau plwyf Trefdraeth
  2. Cyfrifiad plwyf Llanbeblig, 1826
  3. Wicipedia, Erthygl ar Hugh Hughes (Cadfan), [1], cyrchwyd 4.11.2025
  4. Y Bywgraffiadur Ar-lein, Erthygl ar Hugh Hughes (Cadfan Gwynedd) [2], cyrchwyd 7.11.2025
  5. Gwybodaeth ysgrifenedig a gyfrannwyd gan J.B. Jones