Betws Gwernrhiw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Lleolir Bettws Gwernrhiw ger porthdy Glynllifon, ger Llandwrog. Mae awgrym fod mai hen adfeilion yw’r lle hwn sy’n dyddio o gwmpas adeg Rhyfel...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 11 golygiad yn y canol gan 5 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Lleolir Bettws Gwernrhiw ger porthdy [[Glynllifon]], ger [[Llandwrog]]. Mae awgrym fod mai hen adfeilion yw’r lle hwn sy’n dyddio o gwmpas adeg Rhyfeloedd y Groes, gan fod tueddiad i’r gair ‘Bettws’ ei chysylltu a ‘Ysbyty’. Credir i’r lle yma ar un adeg fod yn Eglwys deuluol i deulu’r Glyn (Glynllifon). Gelwir y lle ar rhai adegau yn ‘Ysbytty y Plas Newydd’. Dywedai’r hanesydd [[W. Gilbert Williams]] fod y lle hwn yn westy ar un adeg, o ddiolch i’w leoliad cyfleus ar y ffordd rhwng Caernarfon a Pwllheli. Honnir ef hefyd fod dirprwywr wedi cynnal achos llys yn Bettws Gwernrhiw o gwmpas 1616, ac ei fod yn amlwg fod y lle hwn wedi bod yn hynod o arwyddocaol yn ei ddydd.  
Lleolir safle '''Betws Gwernrhiw''' ger porthdy [[Glynllifon]], ger [[Llandwrog]]. Mae awgrym fod y lle hwn yn dyddio o gwmpas adeg Rhyfeloedd y Groes, gan fod tueddiad i’r gair ‘Betws’ gael ei gysylltu ag ‘Ysbyty’ (yn yr hen ystyr o Lety neu Breswylfod fel y ceir yn Ysbyty Ifan). Credir i’r lle yma ar un adeg fod yn Eglwys deuluol i deulu’r Glyn (Glynllifon). Gelwid y lle ar rai adegau yn ‘Ysbyty y Plas Newydd’.<ref>W.R. Ambrose, ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872)</ref> Dywedai’r hanesydd [[W. Gilbert Williams]] fod y lle hwn yn westy ar un adeg, oherwydd ei leoliad cyfleus ar y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Honnai ef hefyd fod dirprwywr wedi cynnal achos llys ym Metws Gwernrhiw o gwmpas 1616, a'i bod yn amlwg i'r lle hwn wedi fod yn hynod o arwyddocaol yn ei ddydd.


==Ffynonellau==
Mae cofnodion y Llys Chwarter yn tystio i'r ffaith fod y Betws yn agored fel tafarn tua 1635 gan fod un Nicholas Pyrs wedi ei dryddedu i gadw tŷ cwrw yno; ac i'r fan honno aethai sgweier y [[Tryfan]] yn reolaidd i yfed yn drwm.<ref>W. Gilbert Williams, ''Y Tryfan''  yn ''Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon'' (Cyf.2 (1940)), t. 61</ref>


Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872)
Erbyn tua 1660, a'r lle'n barhau'n dafarn, mae sôn bod [[Edmund Glynn]] wedi mynychu cyfarfod yno ar y noson yr ymosodwyd arno ger [[Glan-rhyd]].<ref>W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth. Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog'' (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)</ref> Erbyn 1821 roedd y betws yn furddun, ac fe'i disgrifir fel capel teuluol teulu [[Glynllifon]].<ref>P.B. Williams, ''The Tourist's Guide through the county of Caernarvon'',(Caernarfon, 1821), [https://www.gutenberg.org/files/45865/45865-h/45865-h.htm]</ref>


Williams, W. Gilbert ''Moel Tryfan i'r Traeth. Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog'' (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)
Mae'r coed o bobtu'r lôn sy'n arwain o Borth Mawr Glynllifon at y plas yn dal i gael eu galw'n ''Goed y Betws''.
 
Y mae ffynnon, sef [[Ffynnon Edliw]] neu Ffynnon Odliw, gerllaw'r man lle saif y porthdy heddiw. Dichon mai ffynnon sanctaidd yn gysylltiedig â'r Betws oedd hon, ac mae'n demtasiwn i amau ai ''edliw'' a ''gwernrhiw'' oedd yr un gair ar un adeg.
 
{{eginyn}}
 
==Cyfeiriadau==
 
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Safleoedd crefyddol]]
[[Categori:Tafarndai]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:46, 3 Tachwedd 2025

Lleolir safle Betws Gwernrhiw ger porthdy Glynllifon, ger Llandwrog. Mae awgrym fod y lle hwn yn dyddio o gwmpas adeg Rhyfeloedd y Groes, gan fod tueddiad i’r gair ‘Betws’ gael ei gysylltu ag ‘Ysbyty’ (yn yr hen ystyr o Lety neu Breswylfod fel y ceir yn Ysbyty Ifan). Credir i’r lle yma ar un adeg fod yn Eglwys deuluol i deulu’r Glyn (Glynllifon). Gelwid y lle ar rai adegau yn ‘Ysbyty y Plas Newydd’.[1] Dywedai’r hanesydd W. Gilbert Williams fod y lle hwn yn westy ar un adeg, oherwydd ei leoliad cyfleus ar y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Honnai ef hefyd fod dirprwywr wedi cynnal achos llys ym Metws Gwernrhiw o gwmpas 1616, a'i bod yn amlwg i'r lle hwn wedi fod yn hynod o arwyddocaol yn ei ddydd.

Mae cofnodion y Llys Chwarter yn tystio i'r ffaith fod y Betws yn agored fel tafarn tua 1635 gan fod un Nicholas Pyrs wedi ei dryddedu i gadw tŷ cwrw yno; ac i'r fan honno aethai sgweier y Tryfan yn reolaidd i yfed yn drwm.[2]

Erbyn tua 1660, a'r lle'n barhau'n dafarn, mae sôn bod Edmund Glynn wedi mynychu cyfarfod yno ar y noson yr ymosodwyd arno ger Glan-rhyd.[3] Erbyn 1821 roedd y betws yn furddun, ac fe'i disgrifir fel capel teuluol teulu Glynllifon.[4]

Mae'r coed o bobtu'r lôn sy'n arwain o Borth Mawr Glynllifon at y plas yn dal i gael eu galw'n Goed y Betws.

Y mae ffynnon, sef Ffynnon Edliw neu Ffynnon Odliw, gerllaw'r man lle saif y porthdy heddiw. Dichon mai ffynnon sanctaidd yn gysylltiedig â'r Betws oedd hon, ac mae'n demtasiwn i amau ai edliw a gwernrhiw oedd yr un gair ar un adeg.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872)
  2. W. Gilbert Williams, Y Tryfan yn Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon (Cyf.2 (1940)), t. 61
  3. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth. Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)
  4. P.B. Williams, The Tourist's Guide through the county of Caernarvon,(Caernarfon, 1821), [1]