Betws Gwernrhiw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gorllwyn (sgwrs | cyfraniadau)
B cau braced, trydydd lein ar ôl ...Ysbyty Ifan).
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Lleolir safle '''Betws Gwernrhiw''' ger porthdy [[Glynllifon]], ger [[Llandwrog]]. Mae awgrym fod y lle hwn yn dyddio o gwmpas adeg Rhyfeloedd y Groes, gan fod tueddiad i’r gair ‘Betws’ gael ei chysylltu ag ‘Ysbyty’ (yn yr hen ystyr o Lety neu Breswylfod fel y ceir yn Ysbyty Ifan). Credir i’r lle yma ar un adeg fod yn Eglwys deuluol i deulu’r Glyn (Glynllifon). Gelwir y lle ar rhai adegau yn ‘Ysbyty y Plas Newydd’.<ref>Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872)</ref> Dywedai’r hanesydd [[W. Gilbert Williams]] fod y lle hwn yn westy ar un adeg, oherwydd ei leoliad cyfleus ar y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Honnir ef hefyd fod dirprwywr wedi cynnal achos llys ym Metws Gwernrhiw o gwmpas 1616, ac ei fod yn amlwg fod y lle hwn wedi bod yn hynod o arwyddocaol yn ei ddydd.
Lleolir safle '''Betws Gwernrhiw''' ger porthdy [[Glynllifon]], ger [[Llandwrog]]. Mae awgrym fod y lle hwn yn dyddio o gwmpas adeg Rhyfeloedd y Groes, gan fod tueddiad i’r gair ‘Betws’ gael ei gysylltu ag ‘Ysbyty’ (yn yr hen ystyr o Lety neu Breswylfod fel y ceir yn Ysbyty Ifan). Credir i’r lle yma ar un adeg fod yn Eglwys deuluol i deulu’r Glyn (Glynllifon). Gelwid y lle ar rai adegau yn ‘Ysbyty y Plas Newydd’.<ref>W.R. Ambrose, ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872)</ref> Dywedai’r hanesydd [[W. Gilbert Williams]] fod y lle hwn yn westy ar un adeg, oherwydd ei leoliad cyfleus ar y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Honnai ef hefyd fod dirprwywr wedi cynnal achos llys ym Metws Gwernrhiw o gwmpas 1616, a'i bod yn amlwg i'r lle hwn wedi fod yn hynod o arwyddocaol yn ei ddydd.


Erbyn tua 1660, fe ddefnyddid y lle fel tafarn ac mae sôn bod [[Edmund Glynn]] wedi mynychu cyfarfod yno ar y noson y cafodd ymosod arno ger [[Glan-rhyd]].<ref>Williams, W. Gilbert ''Moel Tryfan i'r Traeth. Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog'' (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)</ref> Erbyn 1821, roedd y betws ynb furddun, ac fe'i ddisgrifir fel capel teuluol teulu [[Glynllifon]].<ref>P.B. Williams, ''The Tourist's Guide through the county of Caernarvon'',(Caernarfon, 1821), [https://www.gutenberg.org/files/45865/45865-h/45865-h.htm]</ref>
Mae cofnodion y Llys Chwarter yn tystio i'r ffaith fod y Betws yn agored fel tafarn tua 1635 gan fod un Nicholas Pyrs wedi ei dryddedu i gadw tŷ cwrw yno; ac i'r fan honno aethai sgweier y [[Tryfan]] yn reolaidd i yfed yn drwm.<ref>W. Gilbert Williams, ''Y Tryfan'' yn ''Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon'' (Cyf.2 (1940)), t. 61</ref>


Mae'r coed o bobtu'r lôn sy'n arwain o Borth Mawr Glynllifon a'r plas yn dal i gael ei galw'n ''Goed y Betws''.
Erbyn tua 1660, a'r lle'n barhau'n dafarn, mae sôn bod [[Edmund Glynn]] wedi mynychu cyfarfod yno ar y noson yr ymosodwyd arno ger [[Glan-rhyd]].<ref>W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth. Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog'' (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)</ref> Erbyn 1821 roedd y betws yn furddun, ac fe'i disgrifir fel capel teuluol teulu [[Glynllifon]].<ref>P.B. Williams, ''The Tourist's Guide through the county of Caernarvon'',(Caernarfon, 1821), [https://www.gutenberg.org/files/45865/45865-h/45865-h.htm]</ref>
 
Mae'r coed o bobtu'r lôn sy'n arwain o Borth Mawr Glynllifon at y plas yn dal i gael eu galw'n ''Goed y Betws''.


Y mae ffynnon, sef [[Ffynnon Edliw]] neu Ffynnon Odliw, gerllaw'r man lle saif y porthdy heddiw. Dichon mai ffynnon sanctaidd yn gysylltiedig â'r Betws oedd hon, ac mae'n demtasiwn i amau ai ''edliw'' a ''gwernrhiw'' oedd yr un gair ar un adeg.
Y mae ffynnon, sef [[Ffynnon Edliw]] neu Ffynnon Odliw, gerllaw'r man lle saif y porthdy heddiw. Dichon mai ffynnon sanctaidd yn gysylltiedig â'r Betws oedd hon, ac mae'n demtasiwn i amau ai ''edliw'' a ''gwernrhiw'' oedd yr un gair ar un adeg.
Llinell 15: Llinell 17:
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Safleoedd crefyddol]]
[[Categori:Safleoedd crefyddol]]
[[Categori:Tafarndai]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:46, 3 Tachwedd 2025

Lleolir safle Betws Gwernrhiw ger porthdy Glynllifon, ger Llandwrog. Mae awgrym fod y lle hwn yn dyddio o gwmpas adeg Rhyfeloedd y Groes, gan fod tueddiad i’r gair ‘Betws’ gael ei gysylltu ag ‘Ysbyty’ (yn yr hen ystyr o Lety neu Breswylfod fel y ceir yn Ysbyty Ifan). Credir i’r lle yma ar un adeg fod yn Eglwys deuluol i deulu’r Glyn (Glynllifon). Gelwid y lle ar rai adegau yn ‘Ysbyty y Plas Newydd’.[1] Dywedai’r hanesydd W. Gilbert Williams fod y lle hwn yn westy ar un adeg, oherwydd ei leoliad cyfleus ar y ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Honnai ef hefyd fod dirprwywr wedi cynnal achos llys ym Metws Gwernrhiw o gwmpas 1616, a'i bod yn amlwg i'r lle hwn wedi fod yn hynod o arwyddocaol yn ei ddydd.

Mae cofnodion y Llys Chwarter yn tystio i'r ffaith fod y Betws yn agored fel tafarn tua 1635 gan fod un Nicholas Pyrs wedi ei dryddedu i gadw tŷ cwrw yno; ac i'r fan honno aethai sgweier y Tryfan yn reolaidd i yfed yn drwm.[2]

Erbyn tua 1660, a'r lle'n barhau'n dafarn, mae sôn bod Edmund Glynn wedi mynychu cyfarfod yno ar y noson yr ymosodwyd arno ger Glan-rhyd.[3] Erbyn 1821 roedd y betws yn furddun, ac fe'i disgrifir fel capel teuluol teulu Glynllifon.[4]

Mae'r coed o bobtu'r lôn sy'n arwain o Borth Mawr Glynllifon at y plas yn dal i gael eu galw'n Goed y Betws.

Y mae ffynnon, sef Ffynnon Edliw neu Ffynnon Odliw, gerllaw'r man lle saif y porthdy heddiw. Dichon mai ffynnon sanctaidd yn gysylltiedig â'r Betws oedd hon, ac mae'n demtasiwn i amau ai edliw a gwernrhiw oedd yr un gair ar un adeg.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872)
  2. W. Gilbert Williams, Y Tryfan yn Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon (Cyf.2 (1940)), t. 61
  3. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth. Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)
  4. P.B. Williams, The Tourist's Guide through the county of Caernarvon,(Caernarfon, 1821), [1]