Pennarth (fferm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 30 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
<small>Testun bach</small>Fferm fawr yw '''Pennarth''' sydd yn gorwedd ar y tir gweddol isel a gwastad ger [[Aberdesach]], ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]. Mae'r enw'n hen iawn, a'r safle, efallai, yn hŷn fyth, gan fod [[Cromlech Pennarth|cromlech]] ar y tir. Sonnir am Bennarth hefyd yn y Mabinogion. Yn Oes y Tywysogion, roedd Pennarth yn enw ar drefgordd gyfan - ac fel sy'n bod yn aml, mae enw trefgordd ganoloesol wedi parhau hyd heddiw fel enw fferm sylweddol. Gweler erthygl ar wahân ar [[Pennarth (trefgordd)]].
Fferm fawr yw '''Pennarth''' sydd yn gorwedd ar y tir gweddol isel a gwastad ger [[Aberdesach]], ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]]. Mae'r enw'n hen iawn, a'r safle, efallai, yn hŷn fyth, gan fod [[Cromlech Pennarth|cromlech]] ar y tir. Sonnir am Bennarth hefyd yn y Mabinogion. Yn Oes y Tywysogion, roedd Pennarth yn enw ar drefgordd gyfan - ac fel sy'n bod yn aml, mae enw trefgordd ganoloesol wedi parhau hyd heddiw fel enw fferm sylweddol. Gweler erthygl ar wahân ar [[Pennarth (trefgordd)]].


Yn ''coachhouse'' Pennarth y cynhelid cyfarfodydd [[Cymdeithas Amaethyddol Clynnog 1909-46]] y ceir ysgrif lawn amdani yn '''Cof y Cwmwd'''.
==Hanes cynnar fel rhan o Ystad Lleuar==


{{eginyn}}
Mae'n debyg, a barnu oddi wrth y ffaith fod enw'r fferm ac enw'r drefgordd lle safai yr un peth, fod Pennarth wedi arfer bod yn annedd ac yn ddaliadaeth o dir gan ddyn rhydd, os nad mân uchelwr, yn y 15-16g. Erbyn 1675, fodd bynnag, mae'n amlwg ei fod yn rhan o [[Ystad Lleuar]], ac yn eiddo i deulu [[George Twisleton]]<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7574</ref>, a etifeddodd ei diroedd o ganlyniad i'w briodas â Mary Glynne, etifeddes cangen o hen deulu [[Glynllifon]].<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.270</ref> Er i deulu  Twisleton golli'u gafael ar y rhan fwyaf o'u tiroedd oherwydd dyledion a chyfres o forgeisi ac achosion llys, ymddengys eu bod wedi dal eu gafael ar nifer bach o ffermydd, yn cynnwys Pennarth, Ynys yr Arch, Bryn Ifan a Chae Hir. Fe ymddengys fod Mary Ridsdale, aeres yr olaf o deulu Twisleton, sef George Twisleton III, wedi cadw ei gafael ar weddillion ystad Lleuar. Bu iddi ail-briodi â dyn o'r enw Henry Winstanley, masnachwr o ddinas Caer, ym 1758.<ref>Archifdy Caernarfon, XM1041/8, 15</ref> Yr adeg honno, Owen Roberts, iwmon, oedd yn ffermio Pennarth.<ref>Archifdy Caernarfon, XM1041/12</ref> Ysywaeth, y flwyddyn wedyn aeth Winstanley'n fethdalwr, ac o ganlyniad i hynny fe wnaeth y Comisiynwyr Methdaliad orchymyn gwerthu'r ffermydd hyn, yn cynnwys Pennarth. Watkin Williams, Ysw., o Benbedw, Sir Dinbych a wnaeth brynu'r eiddo i gyd, am £2,445, a hynny ym 1768, gyda help morgais o £2000.<ref>Archifdy Gwynedd, XM1041/19-30</ref> Roedd Watkin yn fab i Richard Williams (a hwnnw'n frawd i'r "Syr Watcyn" cyntaf a etifeddodd Wynnstay, un o ystadau mwyaf Cymru)<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.18</ref>. Roedd gan Ystad Wynnstay diroedd eraill yn Sir Gaernarfon yn ardaloedd Llanbeblig, Llanrug a Beddgelert,<ref>Archifdy Caernarfon, XM1041/31-55</ref> a dichon felly fod hynny wedi gwneud prynu gweddillion Ystad Lleuar yn ddeniadol. Bu farw Watkin yn ddi-blant, ac felly aeth ei ystad i'w chwaer, Annabella Puleston, ac wedyn i ferch honno, Annabella, gwraig Syr Edward Lloyd Lloyd, Pen-y-lan, Sir y Fflint. Gwerthwyd y rhan fwyaf o eiddo y llinach rhwng 1825 a 1830, ond nid yw'n hysbys pryd y gwerthwyd gweddillion Ystad Lleuar.<ref>LlGC, Rhagair i gatalog Archifau Peniarth [https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/3f94722d-c7e1-30fb-a038-c855662c72d2], cyrchwyd 18.9.2025</ref> Erbyn 1843, roedd y pedair fferm yn eiddo i ddyn ifanc o'r enw Thomas Bucknall Lloyd o Amwythig (1824-1896). Mae'r map degwm yn dangos fod y pedair fferm wedi aros gyda'i gilydd fel ystad fechan. Nodir yn y rhestr bennu'r degwm fod y fferm yn cynnwys oddeutu 151 o aceri.<ref>LlGC, Map a rhestr bennu'r degwm, plwyf Clynnog</ref>
 
Er bod Syr Edward Lloyd Lloyd a Thomas Bucknall Lloyd yn rhannu'r un cyfenw, mae'n bur annhebygol fod unrhyw gysylltiad gwaed rhyngddynt, gan fod Thomas Lloyd yn perthyn i hen deulu a oedd wedi ymsefydlu yn Amwythig ers cenedlaethau, a'i daid, Thomas Lloyd (1759-1829) yn dwrnai ac yn faer Amwythig ym 1810. Roedd y teulu wedi bod yn byw yn Amwythig ers diwedd y 16g., pan nodir fod John Lewis Lloyd, hen-hen-hen-hen-hen-hen daid Bucknall Lloyd, yn un o fwrdeiswyr y dref.<ref>''Transactions of the Shropshire Archaeological and Natural History Society'', Cyfres 4, Cyfrol XI, Rhan 1 (1923), t.9; Gwefan ''The Peerage'', t.49943 [https://www.thepeerage.com/p49943.htm], cyrchwyd 22.9.2025</ref> Erbyn diwedd ei oes, roedd Thomas Bucknall Lloyd (1824-1896) yn Archddiacon Salop, ac nid yw'n amlwg beth oedd ei gysylltiad â Sir Gaernarfon.  Ffaith diddorol amdano oedd ei fod yn ŵyr i Samuel Butler, Esgob Caerlwytgoed, ac yn gefnder llawn i'r nofelydd Saesneg Samuel Butler, awdur ''Erewhon''. Treuliodd ei holl fywyd yng nghyffiniau Amwythig.<ref>Erthygl Wikipedia am Thomas Lloyd (priest), [https://en.wikipedia.org/wiki/Thomas_Lloyd_(priest,_born_1824)], cyrchwyd 17.9.2025</ref> Rhaid ystyried y tebygolrwydd fod y pedair fferm wedi'u prynu ar ei ran fel buddsoddiad a ffynhonnell incwm, gan fod y pryniant wedi digwydd cyn iddo gyrraedd yr oedran o 21. Byddai ymddiriedolwr megis twrnai wedi gwneud hynny ar ei ran. Esboniad posibl am ddewis y tiroedd dan sylw oedd fod teulu Bucknall Lloyd a theulu Lloyd Lloyd yn defnyddio'r un cwmni o dwrneiod yn Amwythig.<ref>Archifdy Gwynedd, XM1041/''passim''. Byddai'n arferol i dwrneiod argymell buddsoddiad addas i'w cleientiaid.</ref>
 
==Hanes tenantiaeth teulu Owen==
 
Rhaid yn awr droi at hanes teulu Oweniaid Pennarth i gael eglurhad llawnach o'r sefyllfa. Nodwyd eisoes fod gŵr o'r enw Owen Roberts yn denant y fferm ym 1758, ac mae'n bosibl mai o'i enw ef y deilliodd cyfenw diweddarach teulu Owen (neu Owens). Mae'n ffodus fod cyfres o ewyllysiau ar gael, ynghyd â nifer o restrau eiddo'r fferm yn ystod hanner cyntaf y 19g. sydd yn datgelu cryn dipyn am hanes y fferm a'i thenantiaid. Nodir ymysg cofnodion priodas y plwyf fod Hugh Owen, iwmon o Bennarth a'i briod Elizabeth, wedi cael merch, Elizabeth a anwyd 25 Gorffennaf 1799.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr bedyddiadau Clynnog XPE28/2</ref> Gall mai mab neu ŵyr Owen Roberts oedd y Hugh hwn.
 
Mae ewyllys Thomas Owen, Pennarth (brawd neu dad yr Hugh Owen a enwir ym 1799) dyddiedig 1804<ref>LlGC, Dogfennau Profiant B/1809/46</ref> yn tystio i'r ffaith ei fod yn denant Pennarth ac yn ddi-briod, ond roedd ganddo ddau frawd, Griffith a Hugh a chwaer, Elizabeth. Dyn llythrennog ydoedd, a barnu oddi wrth ei lofnod mewn llawysgrifen hyderus. Erbyn 1829, pan wnaeth ei fab Hugh Owens ei ewyllys yntau, roedd yn amlwg yn denant ar y fferm (ac yn berchennog ar fferm Derwin Bach ar ffin Eifionydd).<ref>LlGC Dogfennau Profiant B/1829/74</ref> Nid yw'n sicr beth a ddigwyddodd i'w frawd Griffith, ond mae'n bosibl ei fod wedi sicrhau tenantiaeth fferm Maesog yn yr un plwyf, lle bu gŵr o'i enw ef farw ym 1829. Roedd perthynas da rhwng teulu Griffith a Hugh Owen, Pennarth, o leiaf, gan fod hwnnw'n un o briswyr yr eiddo, a hyn yn cryfhau'r tebygolrwydd mai brodyr oeddynt.<ref>LlGC Dogfennau Profiant b/1829/73</ref>
 
Pan fu farw, gadawodd Hugh Owens hanner stoc y fferm i'w fab Richard Hughes (sylwer fod y teulu wedi dychwelyd at system batronymig o ran cyfenw), a hanner i'w wraig Eizabeth a'i ferch ddi-briod, hefyd o'r enw Elizabeth Hughes. Cafodd ei dair merch briod gymynroddion ariannol. Roedd ei eiddo yn werth £356.8.6c i gyd, ac mae'n werth manylu ar gynnwys y rhestr eiddo. Cofied mai ym mis Mai y gwnaethpwyd y rhestr, ar adeg pan fyddai'r gwair a'r ŷd wedi eu dihysbyddu i raddau helaeth.
Dillad, cyfrwy a ffrwyn £5.10.0c
6 cheffyl £42.0.0c
12 buwch â chyrn £84.0.0c
16 bustych a heffrod â chyrn £83.0.0c
10 llo blwydd £30.0.0c
2 gert £10.0.0c
Erydr, ogau ac offer amaethu £8.18.0c
6 mochyn @ £1.10s yr un £9.0.0c
120 o ddefaid yn ôl 6s yr un ar gyfartaledd £36.0.0c
Dodrefn y tŷ a'r llyfrau £40.10.0s
Ieir £0.10.0c
Gwair £6.10.6c
 
Ysywaeth, byr fu tenantiaeth Richard Hughes, gan iddo yntau farw ym 1834, gan adael dau blentyn ifanc, Margaret Hughes a Hugh Owens, hwnnw ond tua 8 oed. Roedd ei fam ac un o'i chwiorydd wedi etifeddu hanner eiddo ei dad i'w cadw yn ystod eu hoes, ac nid syndod felly yw darllen yn y rhestr o'i eiddo fod maint stoc y fferm ond hanner yr hyn a fu gan ei dad. Serch hynny, mae'r ffaith fod y rhestr wedi ei llunio ddiwedd Chwefror y flwyddyn honno yn golygu bod modd cael syniad da o'r cnydau a dyfid ym Mhennarth bryd hynny. Roedd gan Richard werth £8 o wair a gwerth £14 o ŷd yn ei ysgubor pan fu farw.<ref>LlGC Dogfennau Profiant B/1834/63</ref>
 
I droi'n ôl at y map degwm, dyddiedig 1843, gwelwyd uchod mai Thomas Bucknall Lloyd ysw. oedd perchennog Pennarth erbyn hynny, ond y tenant yn ôl y ddogfen honno oedd un John Jones. Mae'n debyg mai'r sawl a oedd yn byw ym Mhennarth ac yn ffermio'r tir oedd Hugh Owen, mab Richard Hughes, y cyn denant a fu farw ym 1834. Bu Elizabeth Owens, mam Richard a nain Hugh, fyw tan 1836<ref>LlGC Dogfennau Profiant, B/1836/86</ref>, ond wedyn rhaid bod ymddiriedolwr yr Hugh ifanc wedi rhedeg y fferm ar ei ran gyda 5 gwas a 2 forwyn, gan mai ond 10 oed ydoedd pan fu farw ei nain. Ni fyddai felly'n gymwys i fod yn denant swyddogol.<ref>Cyfrifiad plwyf Clynnog 1841. Nodir yno mai 15 oed oedd Hugh </ref> John Jones, Tŷ'n-y-coed, sef (o bosibl) ewyrth Hugh, oedd ymddiriedolwr eiddo Hugh Owen, wedi ei benodi yn ewyllys tad Hugh i'w gwarchod nes iddo gyrraedd oedran oedolyn. Digon naturiol (a bwrw bod perchennog y fferm yn fodlon i'r un teulu ddal y denantiaeth o genhedlaeth i genhedlaeth) fyddai i ymddiriedolwr aer ifanc gael ei dderbyn dros dro fel y tenant swyddogol.
 
Roedd Pennarth yn fferm sylweddol ac yn fuan gwnaeth yr Hugh ifanc ei farc. Erbyn Cyfrifiad 1851, roedd wedi priodi â Jane, a oedd flwyddyn neu ddwy'n iau nag ef. Roedd yn cyflogi pump o weision fferm ac yn ffermio 180 acer o dir. Erbyn 1861, nodwyd ei fod yn ffermio 205 acer, yn cynnwys tir Cae Hir. Roedd gan y cwpl bedwar o blant, Richard (11 oed), Jane (9), Hugh (5) ac Anne (3).
<ref>Cyfrifiadau plwyf Clynnog 1851, 1861</ref> Roedd wedi dechrau derbyn rhai cyfrifoldebau lleol: ym 1855 fe'i codwyd yn un o ddau warcheidwad [[Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon]] dros Glynnog Fawr.<ref>''North Wales Chronicle'', 14/4/1855, t.8</ref> Roedd y cwpl a'u dau fab yn dal ar y fferm ym 1871 ac 1881, ond erbyn 1891, roedd y ddau a Richard wedi marw, a Hugh, y mab ieuengaf yno gyda'i wraig Laura (31 oed) a mab ifanc, Thomas, 4 oed. Cafwyd ail fab, Hughie (1894-1964) wedyn.<ref>Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1891-1911</ref> Erbyn 1921, roedd Hugh, gŵr Laura, wedi marw, ac roedd Thomas a Hughie yn ffarmio Pennarth ar y cŷd, gyda help dwy forwyn (un y tŷ a'r llall yn y llaethdy), prentis ffermwr a chertmon.<ref>Cyfrifiad plwyf Clynnog, 1921</ref>
 
Roedd Hugh Owen, Pennarth a aned ym 1856, yn un o arweinwyr y fro fel yr aeth yn hŷn. Roedd yn gadeirydd y Cyngor Plwyf ym 1904, yn gynghorydd sir ac yn ynad heddwch.<ref>e.e. ''Herald Cymreig'', 26.4.1904 t.5 a ''passim''</ref> Roedd yn un o hoelion wyth [[Cymdeithas Amaethyddol Clynnog 1909-46|Cymdeithas Amaethyddol Clynnog]], ac yn ''coachhouse'' Pennarth y cynhelid cyfarfodydd  y gymdeithas. Ceir ysgrif lawn amdani yn '''Cof y Cwmwd'''. Ym 1940, fe'i dilynwyd fel cadeirydd gan ei fab Hugh, a oedd, fel ei dad, yn un o brif amaethwyr ac arweinwyr yr ardal. Roedd yntau'n ffarmio Pennarth fel y bu ei gyndadau ers o leiaf ganrif a hanner.
 
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Ffermydd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:15, 3 Hydref 2025

Fferm fawr yw Pennarth sydd yn gorwedd ar y tir gweddol isel a gwastad ger Aberdesach, ym mhlwyf Clynnog Fawr. Mae'r enw'n hen iawn, a'r safle, efallai, yn hŷn fyth, gan fod cromlech ar y tir. Sonnir am Bennarth hefyd yn y Mabinogion. Yn Oes y Tywysogion, roedd Pennarth yn enw ar drefgordd gyfan - ac fel sy'n bod yn aml, mae enw trefgordd ganoloesol wedi parhau hyd heddiw fel enw fferm sylweddol. Gweler erthygl ar wahân ar Pennarth (trefgordd).

Hanes cynnar fel rhan o Ystad Lleuar

Mae'n debyg, a barnu oddi wrth y ffaith fod enw'r fferm ac enw'r drefgordd lle safai yr un peth, fod Pennarth wedi arfer bod yn annedd ac yn ddaliadaeth o dir gan ddyn rhydd, os nad mân uchelwr, yn y 15-16g. Erbyn 1675, fodd bynnag, mae'n amlwg ei fod yn rhan o Ystad Lleuar, ac yn eiddo i deulu George Twisleton[1], a etifeddodd ei diroedd o ganlyniad i'w briodas â Mary Glynne, etifeddes cangen o hen deulu Glynllifon.[2] Er i deulu Twisleton golli'u gafael ar y rhan fwyaf o'u tiroedd oherwydd dyledion a chyfres o forgeisi ac achosion llys, ymddengys eu bod wedi dal eu gafael ar nifer bach o ffermydd, yn cynnwys Pennarth, Ynys yr Arch, Bryn Ifan a Chae Hir. Fe ymddengys fod Mary Ridsdale, aeres yr olaf o deulu Twisleton, sef George Twisleton III, wedi cadw ei gafael ar weddillion ystad Lleuar. Bu iddi ail-briodi â dyn o'r enw Henry Winstanley, masnachwr o ddinas Caer, ym 1758.[3] Yr adeg honno, Owen Roberts, iwmon, oedd yn ffermio Pennarth.[4] Ysywaeth, y flwyddyn wedyn aeth Winstanley'n fethdalwr, ac o ganlyniad i hynny fe wnaeth y Comisiynwyr Methdaliad orchymyn gwerthu'r ffermydd hyn, yn cynnwys Pennarth. Watkin Williams, Ysw., o Benbedw, Sir Dinbych a wnaeth brynu'r eiddo i gyd, am £2,445, a hynny ym 1768, gyda help morgais o £2000.[5] Roedd Watkin yn fab i Richard Williams (a hwnnw'n frawd i'r "Syr Watcyn" cyntaf a etifeddodd Wynnstay, un o ystadau mwyaf Cymru)[6]. Roedd gan Ystad Wynnstay diroedd eraill yn Sir Gaernarfon yn ardaloedd Llanbeblig, Llanrug a Beddgelert,[7] a dichon felly fod hynny wedi gwneud prynu gweddillion Ystad Lleuar yn ddeniadol. Bu farw Watkin yn ddi-blant, ac felly aeth ei ystad i'w chwaer, Annabella Puleston, ac wedyn i ferch honno, Annabella, gwraig Syr Edward Lloyd Lloyd, Pen-y-lan, Sir y Fflint. Gwerthwyd y rhan fwyaf o eiddo y llinach rhwng 1825 a 1830, ond nid yw'n hysbys pryd y gwerthwyd gweddillion Ystad Lleuar.[8] Erbyn 1843, roedd y pedair fferm yn eiddo i ddyn ifanc o'r enw Thomas Bucknall Lloyd o Amwythig (1824-1896). Mae'r map degwm yn dangos fod y pedair fferm wedi aros gyda'i gilydd fel ystad fechan. Nodir yn y rhestr bennu'r degwm fod y fferm yn cynnwys oddeutu 151 o aceri.[9]

Er bod Syr Edward Lloyd Lloyd a Thomas Bucknall Lloyd yn rhannu'r un cyfenw, mae'n bur annhebygol fod unrhyw gysylltiad gwaed rhyngddynt, gan fod Thomas Lloyd yn perthyn i hen deulu a oedd wedi ymsefydlu yn Amwythig ers cenedlaethau, a'i daid, Thomas Lloyd (1759-1829) yn dwrnai ac yn faer Amwythig ym 1810. Roedd y teulu wedi bod yn byw yn Amwythig ers diwedd y 16g., pan nodir fod John Lewis Lloyd, hen-hen-hen-hen-hen-hen daid Bucknall Lloyd, yn un o fwrdeiswyr y dref.[10] Erbyn diwedd ei oes, roedd Thomas Bucknall Lloyd (1824-1896) yn Archddiacon Salop, ac nid yw'n amlwg beth oedd ei gysylltiad â Sir Gaernarfon. Ffaith diddorol amdano oedd ei fod yn ŵyr i Samuel Butler, Esgob Caerlwytgoed, ac yn gefnder llawn i'r nofelydd Saesneg Samuel Butler, awdur Erewhon. Treuliodd ei holl fywyd yng nghyffiniau Amwythig.[11] Rhaid ystyried y tebygolrwydd fod y pedair fferm wedi'u prynu ar ei ran fel buddsoddiad a ffynhonnell incwm, gan fod y pryniant wedi digwydd cyn iddo gyrraedd yr oedran o 21. Byddai ymddiriedolwr megis twrnai wedi gwneud hynny ar ei ran. Esboniad posibl am ddewis y tiroedd dan sylw oedd fod teulu Bucknall Lloyd a theulu Lloyd Lloyd yn defnyddio'r un cwmni o dwrneiod yn Amwythig.[12]

Hanes tenantiaeth teulu Owen

Rhaid yn awr droi at hanes teulu Oweniaid Pennarth i gael eglurhad llawnach o'r sefyllfa. Nodwyd eisoes fod gŵr o'r enw Owen Roberts yn denant y fferm ym 1758, ac mae'n bosibl mai o'i enw ef y deilliodd cyfenw diweddarach teulu Owen (neu Owens). Mae'n ffodus fod cyfres o ewyllysiau ar gael, ynghyd â nifer o restrau eiddo'r fferm yn ystod hanner cyntaf y 19g. sydd yn datgelu cryn dipyn am hanes y fferm a'i thenantiaid. Nodir ymysg cofnodion priodas y plwyf fod Hugh Owen, iwmon o Bennarth a'i briod Elizabeth, wedi cael merch, Elizabeth a anwyd 25 Gorffennaf 1799.[13] Gall mai mab neu ŵyr Owen Roberts oedd y Hugh hwn.

Mae ewyllys Thomas Owen, Pennarth (brawd neu dad yr Hugh Owen a enwir ym 1799) dyddiedig 1804[14] yn tystio i'r ffaith ei fod yn denant Pennarth ac yn ddi-briod, ond roedd ganddo ddau frawd, Griffith a Hugh a chwaer, Elizabeth. Dyn llythrennog ydoedd, a barnu oddi wrth ei lofnod mewn llawysgrifen hyderus. Erbyn 1829, pan wnaeth ei fab Hugh Owens ei ewyllys yntau, roedd yn amlwg yn denant ar y fferm (ac yn berchennog ar fferm Derwin Bach ar ffin Eifionydd).[15] Nid yw'n sicr beth a ddigwyddodd i'w frawd Griffith, ond mae'n bosibl ei fod wedi sicrhau tenantiaeth fferm Maesog yn yr un plwyf, lle bu gŵr o'i enw ef farw ym 1829. Roedd perthynas da rhwng teulu Griffith a Hugh Owen, Pennarth, o leiaf, gan fod hwnnw'n un o briswyr yr eiddo, a hyn yn cryfhau'r tebygolrwydd mai brodyr oeddynt.[16]

Pan fu farw, gadawodd Hugh Owens hanner stoc y fferm i'w fab Richard Hughes (sylwer fod y teulu wedi dychwelyd at system batronymig o ran cyfenw), a hanner i'w wraig Eizabeth a'i ferch ddi-briod, hefyd o'r enw Elizabeth Hughes. Cafodd ei dair merch briod gymynroddion ariannol. Roedd ei eiddo yn werth £356.8.6c i gyd, ac mae'n werth manylu ar gynnwys y rhestr eiddo. Cofied mai ym mis Mai y gwnaethpwyd y rhestr, ar adeg pan fyddai'r gwair a'r ŷd wedi eu dihysbyddu i raddau helaeth.

Dillad, cyfrwy a ffrwyn £5.10.0c
6 cheffyl £42.0.0c
12 buwch â chyrn £84.0.0c
16 bustych a heffrod â chyrn £83.0.0c
10 llo blwydd £30.0.0c
2 gert £10.0.0c
Erydr, ogau ac offer amaethu £8.18.0c
6 mochyn @ £1.10s yr un £9.0.0c
120 o ddefaid yn ôl 6s yr un ar gyfartaledd £36.0.0c
Dodrefn y tŷ a'r llyfrau £40.10.0s
Ieir £0.10.0c
Gwair £6.10.6c

Ysywaeth, byr fu tenantiaeth Richard Hughes, gan iddo yntau farw ym 1834, gan adael dau blentyn ifanc, Margaret Hughes a Hugh Owens, hwnnw ond tua 8 oed. Roedd ei fam ac un o'i chwiorydd wedi etifeddu hanner eiddo ei dad i'w cadw yn ystod eu hoes, ac nid syndod felly yw darllen yn y rhestr o'i eiddo fod maint stoc y fferm ond hanner yr hyn a fu gan ei dad. Serch hynny, mae'r ffaith fod y rhestr wedi ei llunio ddiwedd Chwefror y flwyddyn honno yn golygu bod modd cael syniad da o'r cnydau a dyfid ym Mhennarth bryd hynny. Roedd gan Richard werth £8 o wair a gwerth £14 o ŷd yn ei ysgubor pan fu farw.[17]

I droi'n ôl at y map degwm, dyddiedig 1843, gwelwyd uchod mai Thomas Bucknall Lloyd ysw. oedd perchennog Pennarth erbyn hynny, ond y tenant yn ôl y ddogfen honno oedd un John Jones. Mae'n debyg mai'r sawl a oedd yn byw ym Mhennarth ac yn ffermio'r tir oedd Hugh Owen, mab Richard Hughes, y cyn denant a fu farw ym 1834. Bu Elizabeth Owens, mam Richard a nain Hugh, fyw tan 1836[18], ond wedyn rhaid bod ymddiriedolwr yr Hugh ifanc wedi rhedeg y fferm ar ei ran gyda 5 gwas a 2 forwyn, gan mai ond 10 oed ydoedd pan fu farw ei nain. Ni fyddai felly'n gymwys i fod yn denant swyddogol.[19] John Jones, Tŷ'n-y-coed, sef (o bosibl) ewyrth Hugh, oedd ymddiriedolwr eiddo Hugh Owen, wedi ei benodi yn ewyllys tad Hugh i'w gwarchod nes iddo gyrraedd oedran oedolyn. Digon naturiol (a bwrw bod perchennog y fferm yn fodlon i'r un teulu ddal y denantiaeth o genhedlaeth i genhedlaeth) fyddai i ymddiriedolwr aer ifanc gael ei dderbyn dros dro fel y tenant swyddogol.

Roedd Pennarth yn fferm sylweddol ac yn fuan gwnaeth yr Hugh ifanc ei farc. Erbyn Cyfrifiad 1851, roedd wedi priodi â Jane, a oedd flwyddyn neu ddwy'n iau nag ef. Roedd yn cyflogi pump o weision fferm ac yn ffermio 180 acer o dir. Erbyn 1861, nodwyd ei fod yn ffermio 205 acer, yn cynnwys tir Cae Hir. Roedd gan y cwpl bedwar o blant, Richard (11 oed), Jane (9), Hugh (5) ac Anne (3). [20] Roedd wedi dechrau derbyn rhai cyfrifoldebau lleol: ym 1855 fe'i codwyd yn un o ddau warcheidwad Undeb Gwarcheidwaid Caernarfon dros Glynnog Fawr.[21] Roedd y cwpl a'u dau fab yn dal ar y fferm ym 1871 ac 1881, ond erbyn 1891, roedd y ddau a Richard wedi marw, a Hugh, y mab ieuengaf yno gyda'i wraig Laura (31 oed) a mab ifanc, Thomas, 4 oed. Cafwyd ail fab, Hughie (1894-1964) wedyn.[22] Erbyn 1921, roedd Hugh, gŵr Laura, wedi marw, ac roedd Thomas a Hughie yn ffarmio Pennarth ar y cŷd, gyda help dwy forwyn (un y tŷ a'r llall yn y llaethdy), prentis ffermwr a chertmon.[23]

Roedd Hugh Owen, Pennarth a aned ym 1856, yn un o arweinwyr y fro fel yr aeth yn hŷn. Roedd yn gadeirydd y Cyngor Plwyf ym 1904, yn gynghorydd sir ac yn ynad heddwch.[24] Roedd yn un o hoelion wyth Cymdeithas Amaethyddol Clynnog, ac yn coachhouse Pennarth y cynhelid cyfarfodydd y gymdeithas. Ceir ysgrif lawn amdani yn Cof y Cwmwd. Ym 1940, fe'i dilynwyd fel cadeirydd gan ei fab Hugh, a oedd, fel ei dad, yn un o brif amaethwyr ac arweinwyr yr ardal. Roedd yntau'n ffarmio Pennarth fel y bu ei gyndadau ers o leiaf ganrif a hanner.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/7574
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.270
  3. Archifdy Caernarfon, XM1041/8, 15
  4. Archifdy Caernarfon, XM1041/12
  5. Archifdy Gwynedd, XM1041/19-30
  6. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.18
  7. Archifdy Caernarfon, XM1041/31-55
  8. LlGC, Rhagair i gatalog Archifau Peniarth [1], cyrchwyd 18.9.2025
  9. LlGC, Map a rhestr bennu'r degwm, plwyf Clynnog
  10. Transactions of the Shropshire Archaeological and Natural History Society, Cyfres 4, Cyfrol XI, Rhan 1 (1923), t.9; Gwefan The Peerage, t.49943 [2], cyrchwyd 22.9.2025
  11. Erthygl Wikipedia am Thomas Lloyd (priest), [3], cyrchwyd 17.9.2025
  12. Archifdy Gwynedd, XM1041/passim. Byddai'n arferol i dwrneiod argymell buddsoddiad addas i'w cleientiaid.
  13. Archifdy Caernarfon, Cofrestr bedyddiadau Clynnog XPE28/2
  14. LlGC, Dogfennau Profiant B/1809/46
  15. LlGC Dogfennau Profiant B/1829/74
  16. LlGC Dogfennau Profiant b/1829/73
  17. LlGC Dogfennau Profiant B/1834/63
  18. LlGC Dogfennau Profiant, B/1836/86
  19. Cyfrifiad plwyf Clynnog 1841. Nodir yno mai 15 oed oedd Hugh
  20. Cyfrifiadau plwyf Clynnog 1851, 1861
  21. North Wales Chronicle, 14/4/1855, t.8
  22. Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1891-1911
  23. Cyfrifiad plwyf Clynnog, 1921
  24. e.e. Herald Cymreig, 26.4.1904 t.5 a passim