Afon Marden: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dechrau tudalen newydd gyda "'''Afon Marden''' yw enw nant fach sydd yn rhedeg trwy bentref Pant-glas. Ni cheir yr enw ar fapiau, ond sonnwyd amdani yn y wasg ym 1878. Adroddwyd y pryd hynny am farwolaeth Edward Jones, Tan-y-dderwen, Bwlch Derwin trwy foddi yn Afon Marden. A barnu oddi wrth y manylion a roddir yn y papur newydd am y ddamwain, mae'n bur sicr mai yn y nant sydd yn rhedeg dan y rheilffordd ychydig i'r de o Orsaf Pant-glas y boddwyd y dy..."
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:33, 21 Mai 2025

Afon Marden yw enw nant fach sydd yn rhedeg trwy bentref Pant-glas. Ni cheir yr enw ar fapiau, ond sonnwyd amdani yn y wasg ym 1878. Adroddwyd y pryd hynny am farwolaeth Edward Jones, Tan-y-dderwen, Bwlch Derwin trwy foddi yn Afon Marden. A barnu oddi wrth y manylion a roddir yn y papur newydd am y ddamwain, mae'n bur sicr mai yn y nant sydd yn rhedeg dan y rheilffordd ychydig i'r de o Orsaf Pant-glas y boddwyd y dyn, a hynny ar ôl iddo gerdded yn ei ddiod o sesiwn yfed yn nafarnau Llanllyfni.[1]

Os yw y dehongliad uchod o'r lle'n gywir, rhaid mai Afon Marden yw enw'r afonig neu nant oedd yn troi Melin Pant-glas.

Cyfeiriadau

  1. Y Genedl Gymgeig, 24.1.1878, t.5