Y Foryd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 4 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Y Foryd''' yw'r enw ar aber rhwng [[Trwyn Dinlle]] a gweddill y tir mawr lle | '''Y Foryd''' yw'r enw ar aber rhwng [[Trwyn Dinlle]] a gweddill y tir mawr, lle saif hen Eglwys Llanfaglan yn [[Isgwyrfai]] ar y lan bellaf. Mae [[Afon Gwyrfai]], [[Afon Carrog]] ac [[Afon Foryd]] yn ymarllwys i Afon Menai trwy'r Foryd. Ar un adeg bu ffordd ar draws y Foryd a ddefnyddid ar adegau o lanw isel, ac mae hon yn cael ei dangos ar hen fapiau, ond mae wedi hen ddiflannu. Ger ceg y Foryd mae harbwr bach [[Caer Belan]] sydd yn dal i gael ei ddefnyddio gan hwylwyr amser hamdden. Ar y lan gyferbyn ceir ardal a elwir yn [[Y Foryd Bach|Foryd Bach]] a chedwir ambell i gwch yno hefyd, er bod y Foryd mor fas fel rheol fel nad oes modd cyrraedd y Foryd Bach ond ar adegau o lanw uchel. Roedd yr harbwr bychan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dadlwytho calch yn y dyddiau gynt, pan oedd cychod gyda gwaelod fflat yn cario nwyddau i borthladdoedd a thraethau anghysbell ar arfordir gogledd Cymru. Er enghraifft, ym 1809, disgrifiwyd y Foryd fel "the Port of Voryd" mewn papur lleol, a dywedwyd yno fod calch a gwrtteithiau eraill yn cael eu mewnforio yno.<ref>''North Wales Gazette'', 28.12.1809, t.3</ref> Dichon hefyd fod llechi'n cael eu hallforio o chwareli [[Dyffryn Nantlle]] ar ddechrau'r 19g. Cafwyd awgrym yn y 1820au y dylid adeiladu cangen o lein [[Rheilffordd Nantlle]] i'r Foryd, ac yn y 1860au cynnar, cafwyd cynllun ei gynnig a fyddai wedi gweld porthladd mwy sylweddol yno yn sgil dyfodiad [[Rheilffordd Sir Gaernarfon]]. | ||
Ar lan orllewinol y Foryd, lle mae Afon Gwyrfai yn llifo i'r bae, ceir gweddillion sylweddol [[Odyn Galch a Bwthyn y Foryd|odyn galch]] y mae ei furiau'n sefyll yn uchel o hyd. Yn gysylltiedig â'r odyn ceir bwthyn (sef cartref ceidwad yr odyn mae'n debyg) - mae hwnnw bellach yn dŷ sydd wedi ei helaethu a'i foderneiddio. Defnyddwyd y calch i wella'r tir. | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
==Cyfeiriadau== | |||
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]] | [[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]] | ||
[[Categori:Morwrol]] | [[Categori:Morwrol]] | ||
[[Categori:Harbyrau a glanfeydd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:52, 22 Ebrill 2025
Y Foryd yw'r enw ar aber rhwng Trwyn Dinlle a gweddill y tir mawr, lle saif hen Eglwys Llanfaglan yn Isgwyrfai ar y lan bellaf. Mae Afon Gwyrfai, Afon Carrog ac Afon Foryd yn ymarllwys i Afon Menai trwy'r Foryd. Ar un adeg bu ffordd ar draws y Foryd a ddefnyddid ar adegau o lanw isel, ac mae hon yn cael ei dangos ar hen fapiau, ond mae wedi hen ddiflannu. Ger ceg y Foryd mae harbwr bach Caer Belan sydd yn dal i gael ei ddefnyddio gan hwylwyr amser hamdden. Ar y lan gyferbyn ceir ardal a elwir yn Foryd Bach a chedwir ambell i gwch yno hefyd, er bod y Foryd mor fas fel rheol fel nad oes modd cyrraedd y Foryd Bach ond ar adegau o lanw uchel. Roedd yr harbwr bychan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dadlwytho calch yn y dyddiau gynt, pan oedd cychod gyda gwaelod fflat yn cario nwyddau i borthladdoedd a thraethau anghysbell ar arfordir gogledd Cymru. Er enghraifft, ym 1809, disgrifiwyd y Foryd fel "the Port of Voryd" mewn papur lleol, a dywedwyd yno fod calch a gwrtteithiau eraill yn cael eu mewnforio yno.[1] Dichon hefyd fod llechi'n cael eu hallforio o chwareli Dyffryn Nantlle ar ddechrau'r 19g. Cafwyd awgrym yn y 1820au y dylid adeiladu cangen o lein Rheilffordd Nantlle i'r Foryd, ac yn y 1860au cynnar, cafwyd cynllun ei gynnig a fyddai wedi gweld porthladd mwy sylweddol yno yn sgil dyfodiad Rheilffordd Sir Gaernarfon.
Ar lan orllewinol y Foryd, lle mae Afon Gwyrfai yn llifo i'r bae, ceir gweddillion sylweddol odyn galch y mae ei furiau'n sefyll yn uchel o hyd. Yn gysylltiedig â'r odyn ceir bwthyn (sef cartref ceidwad yr odyn mae'n debyg) - mae hwnnw bellach yn dŷ sydd wedi ei helaethu a'i foderneiddio. Defnyddwyd y calch i wella'r tir.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ North Wales Gazette, 28.12.1809, t.3